Ar drywydd hen arferion
Adolygiad Gwenll茂an Rowlinson o Tro Drwy'r Tymhorau gan Twm Elias. Gwasg Carreg Gwalch, 2007, 160tt, 拢8.50.
Mae llawer ohonom yn gyfarwydd 芒 sgyrsiau difyr Twm Elias ar Galwad Cynnar, rhaglen byd natur 91热爆 Radio Cymru bob bore Sadwrn.
Dyna lawer o'r hyn a geir yn y gyfrol hon; fersiwn ysgrifenedig o'r sgyrsiau hynny gan ymwneud 芒 gwyliau a dathliadau'r flwyddyn.
Mae'r gyfrol yn symud o fis i fis gyda Twm Elias yn adrodd yr hanesion yn ei ffordd arbennig ei hun. Braf clywed yng nghlust y cof sain ei lais wrth ddarllen y llyfr.
Bydd yn syndod i lawer bod nifer o'r gwyliau eglwysig cyfarwydd 芒'u gwreiddiau mewn cyfnod cyn dyfodiad Cristnogaeth. Daw sawl ffaith ddiddorol i'r golwg gyda mwy nag un eglurhad am ffeithiau a phethau a gymerwn yn ganiataol.
Tymor gwerthu
Er enghraifft, ceir eglurhad paham mai yn Ionawr mae'r siopau yn cynnal arwerthiannau neu s锚ls - mae'n gysylltiedig 芒 Nos Calan a'r hen arferiad o wneud addunedau.
Roedd yn rhaid addunedu i dalu'r holl ddyledion, glanhau'r t欧 yn l芒n a chael dillad newydd er mwyn paratoi ar gyfer y flwyddyn newydd.
Dim rhyfedd, felly, i'r S锚ls ddod i fodolaeth er mwyn manteisio ar yr angen am ddillad newydd.
Blwyddyn bancwyr
A beth am ddechrau'r flwyddyn ariannol yn Ebrill? Ymddengys mai flynyddoedd lawer yn 么l, cyn i'r Rhufeiniaid fabwysiadu'r calendr deuddeg mis, ystyrid bod y flwyddyn yn dechrau ar gyhydnos y gwanwyn (sef 21 Mawrth).
Mynnodd bancwyr, sy'n geidwadol o ran natur, lynu at yr hen drefn a chan i'r calendr golli deuddeng niwrnod yn 1752, mae'r flwyddyn ariannol felly yn cychwyn ar ddechrau Ebrill.
Nadolig
Mae cryn dipyn o s么n am arferion y Nadolig. Y Tywysog Albert (g诺r y Frenhines Victoria) yn cyflwyno'r arfer o osod coeden Nadolig, er enghraifft.
Ond o ble ddaeth y craceri Nadolig?
Yn 么l Twm Elias, dyn o'r enw Tom Smith ddyfeisiodd y rheiny yn 1847.
A beth am ein delwedd boblogaidd o Si么n Corn?
Bu'n syndod darllen mai delwedd yn dyddio o 1932 yw hon ac yn deillio o Santa hysbysebion cwmni Coca-Cola.
Cyn hynny, roedd Santa yn un tra gwahanol o ran pryd a gwedd i'r un coch a barfog, Americanaidd.
Mae traddodiad y pwdin Nadolig yn dyddio o'r Canol Oesoedd - ond yn ystod cyfnod Oliver Cromwell ceisiodd y Piwritaniaid ei whardd am ei fod yn anfoesol yn eu tyb hwy!
Oes, mae cyfoeth o ddefnydd yn y gyfrol hon megis tarddiad dywediadau fel 'Sul y Pys' a 'Byw tali'.
Mae llawer hefyd am y gwyliau sy'n gysylltiedig 芒 byd amaeth a ffeiriau pentymor - pethau anghyfarwydd i'r rhan fwyaf o Gymry erbyn hyn. Mae hon yn gyfrol sy'n llawn gwybodaeth gyda digon ynddi i ddiddori pawb.
Darparwyd y cyfraniad hwn fel rhan o Gynllun Cyfrannu ar y Cyd rhwng 91热爆 Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008
Cliciwch i ddarllen adolygiadau eraill dan gynllun Antur Teifi