Tyndra yn y meddwl
Adolygiad Carys Mair Davies o D诺r Dwfn gan Conn Iggulden. Cyfres Stori Sydyn. Gomer. 拢2.99.
Dyma stori sydyn arall sy'n meddu ar yr un ystwythder plot a chymeriadau cryf 芒 gweddill y stor茂au sydyn tebyg.
Stori dywyll, yn llawn troeon annisgwyl yw D诺r Dwfn am Teg yn byw yng nghysgod ei wraig brydferth a'i frawd h欧n.
Rhaid iddo droi at ei frawd am help pan ddaw Dewi Treharne i chwarae rhan annisgwyl yn ei fywyd. All y brawd mawr ei helpu i ddianc rhag ei drafferthion cas?
Yn y meddwl
Stori feddyliol yw hon yn adrodd hanes brwydr fewnol Teg a chawn holl ofnau, pryderon a datgeliadau'r cyfrinachau tywyllaf sy'n gwmwl dros fywyd Teg.
Nid oes llawer yn digwydd ac mae hanner y llyfr yn ymwneud 芒 gorffennol diweddar Teg a'r hanner arall yn y presennol.
Mae tro bendigedig yn y gynffon pan ddaw'r darllenydd ar draws bradwr arall. Ond sut gallodd Teg gelu ei gasineb chwerw tuag at un sydd mor agos ato?
Apeliodd clawr D诺r Dwfn ataf gan imi adnabod traeth fy nhref enedigol, Aberystwyth, ac mae yna hefyd sawl cyfeiriad at y dref ar ddechrau'r nofel a hynny'n gwneud imi fwynhau'r llyfryn yn fwy.
Mae'r iaith yn bwrpasol syml a phlaen i gyd-fynd 芒 moelni amlwg y plot. Mae ambell i reg yn yn creu tensiynau annioddefol ar adegau.
Mae'n addas i ferched ac i fechgyn ond nid wyf yn si诺r iawn i ba oedran oherwydd er ei bod yn hawdd ei deall mae rhai geiriau cryfion a golygfeydd treisgar.
Y pris yw 拢2.99 ac er nad yw'n rhy ddrud mae stor茂au sydyn eraill i'w cael am 拢1.99.
Darparwyd y cyfraniad hwn fel rhan o Gynllun Cyfrannu ar y Cyd rhwng 91热爆 Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008
Cliciwch i ddarllen adolygiadau eraill dan gynllun Antur Teifi