Llawer yn ddoniol - ond rhai ddim!
Adolygiad Carys Mair Davies o Hoff Gerddi Digri Cymru. Golygydd, Bethan Mair. Gomer. 拢5.99.
Dyma gasgliad o gerddi cyfoes ar bob thema o dan haul wedi eu dewis gan Bethan Mair ar gyfer yr ifanc yn y byd sydd ohoni.
Mae trawsdoriad eang o feirdd yn amrywio o Mihangel Morgan i Dewi Pws ac o Dic Jones i Fyrddin ap Dafydd gyda gwaith llenorion mawr a rhai llai adnabyddus yn ennill eu lle.
Ond rhaid cyfaddef allan o'r oddeutu 140 o gerddi sydd yn y llyfr mae rhai ohonynt yn ofnadwy o ddiflas ac yn gwbl aflwyddiannus yn yr ymdrech o ennyn chwerthin.
Mae Collwr Gwael gan Emyr Penrhiw yn enghraifft berffaith o hyn gwaetha'r modd.
Yn ffodus, nifer fechan sy'n aflwyddiannus gyda'r rhan fwyaf yn ddigri tu hwnt fel y gerdd Criced gan Dewi Pws:
'Odd Dai yn ffansio Brenda wh芒r Wil
(O achos seis 'i chest)
A 'wy ddim yn s么n am sideboard nawr
- Ond yn hytrach am bethe Mae West
Un o'm ffefrynnau yw Baled y Stripar gan Tegwyn Jones am Dot yn tynnu ei dillad yn oedfa'r eglwys ar fore Sul!
A rhaid yw bod yn deg a Dot -
Roedd ganddi lot i ddangos.
Ceir darlun mor fyw y gellir dychmygu'r hen wragedd yn y gynulleidfa yn ysgwyd yn afreolus wrth geisio dygymod 芒'r hyn a welant!!
A hyd y diwrnod heddiw
Hynafgwyr uwch eu cwrw
Sy'n cofio am Gymanfa sblot
A diwrnod Dot oedd hwnnw.
Ffefryn arall yw Ras gan T Rowland Hughes.
Dau yn unig oedd yn y ras,
Sammy Rose Bank a Ned T欧 Glas.
Ac un o'r rheini yn rhedeg mewn clociasau a'r llall "efo'i 'sana'-beic a'i esgidia' speic'" yn dod yn bedwerydd.
Mewn ras a dim ond dau ynddi!
Buaswn yn cymell pawb bori yn Hoff Gerddi Digri Cymru gan gynnwys y rhai hynny nad ydynt mor hoff o lenyddiaeth Gymraeg gan fod yma gerddi am gymeriadau bythgofiadwy fel Matilda mewn cerdd dafodiaith gan Abiah Roderick a digon o chwarae ar eiriau ac odli slic - a sobor!
Ond gair o rybudd - ymysg y cerddi mae bratiaith, iaith anweddus a chymysgedd o dafodieithoedd - ond peidiwch 芒 phoeni gan fod ymdeimlad o rythm ym mhob cerdd yn eu gwneud i gyd yn ddealladwy.
Oes, mae rhywbeth i oglais pawb yn Hoff gerddi Digri Cymru.
Darparwyd y cyfraniad hwn fel rhan o Gynllun Cyfrannu ar y Cyd rhwng 91热爆 Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008
Cliciwch i ddarllen adolygiadau eraill dan gynllun Antur Teifi