|
Beti a'i Phobol 2 Adolygiad gan Glyn Evans o Beti a'i Phobol 2. Golygydd, Ioan Roberts. Gwasg Carreg Gwalch. 拢6.50.
Dyma'r ail gofnod o sgyrsiau radio Beti George. Cyhoeddwyd y detholiad cyntaf o sgyrsiau dros flwyddyn yn 么l gyda'r un golygydd, Ioan Roberts.
Y deg o'i phobl sydd wedi eu gosod rhwng dau glawr y tro hwn ydi: Ioan Gruffudd - yr actor O. M. Roberts athro, cenedlaetholwr a chynghorydd Mefin Davies bachwr Pontypridd Eirwen Gwynn gwyddonydd a llenor Wil Williams a fu'n garcharor rhyfel Mari Gwilym actores Dennis Coslett aelod o'r FWA Wyn Davies p锚l-droediwr Norah Isaac darlithydd. A dwy sgwrs gyda'r deryn drycin o wleidydd Tor茂aidd, Rod Richards, un wedi ei darlledu fis Tachwedd 1993 a'r ail, fis Hydref 2001 wedi ei recordio ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol y mis Awst cynt.
Rhywbeth o ddiddordeb Amrywiaeth deilwng, felly, nid yn unig o bobl ond o feysydd a phynciau ac oed.
Fel y gyfrol gyntaf ac fel y rhaglenni radio eu hunain dydi hon ddim yn siomi gyda rhywbeth o ddiddordeb ym mhob un o'r sgyrsiau.
Yn wir, mae rhywun yn baglu'n ddiarwybod bron dros bob math o dameidiau blasus.
"Mefin Davies yn cyfaddef ei fod yn dweud "gweddi fach cyn mynd i'r gwely withe".
Mae e'n beth personol ond trw'r bywyd rygbi, mae'n eithaf unig withe mas yn y gwahanol wledydd pell . . . ond mae'n neis gweud gweddi fach cyn mynd i'r gwely withe," meddai.
Dennis Coslett wedyn yn datgelu i'r FWA gael llythyr "o'dd y bobol bach byr 'ma yn Affrica, y pygmies."
Cusanu'n noeth Mae Ioan Gruffudd yn egluro sut yr oedd yn dygymod 芒 golygfa noeth gyda Stephen Fry mewn ffilm am Oscar Wilde: "Ar y prynhawn cynta' gwrddes i ag e . . . o'n i'n noethlymun yn sefyll o flaen Stephen Fry yn ei gusanu fe, ac o'n i newydd gwrdd 芒 fe bum munud cyn 'ny, o'dd e'n brofiad rhyfedd iawn," meddai gan fynd ymlaen i egluro mai ei dechneg actio oedd:
". . . personoleiddio cymeriad Wilde fel rhyw fenyw hyfryd wych, y bydden i'n ei haddoli . . ."
Haws yn Saesneg Dywedodd Ioan hefyd ei fod yn ei chael yn haws actio yn Saesneg nag yn y Gymraeg.
"O ran actio yn y Gymraeg, mae'n beth rhyfedd ond dwi'm yn teimlo mor gyfforddus rywsut. "Dwi'm yn gwybod pam, falle gan 'mod i 'di ca'l yn hyfforddi yn yr iaith Saesneg, dwi ddim 'di ca'l yn hyfforddi fel actor yn yr iaith Gymraeg. Dwi ddim 'di ca'l blas ar actio yn y Gymraeg ers neud Pobol y Cwm," meddai.
Poeni am yr iaith Roedd y Gymraeg, y defnydd ohoni, ei chyflwr a'i dyfodol yn bynciau a ddaeth i'r wyneb mewn mwy nag un o'r sgyrsiau - a'r farn yn amrywio.
Eirwen Gwynn yn pryderu am gyflwr yr iaith. "Dwi'n poeni am be sy'n digwydd i'r iaith. Wyddoch chi ma' 'na'r fath ymgyrchu i gadw'r iaith, a dwn i'm ydi'r iaith ma' pobol yn 'i defnyddio heddiw yn werth 'i chadw," meddai yn un rhan o'i sgwrs gan fynegi gofid am yr holl eiriau Seisnigaidd sy'n merwino'n sgwrsio.
Ond cyn diwedd y sgwrs roedd ychydig yn fwy gobeithiol ynglyn 芒'n Cymreictod:
"Heddiw ma' 'na fwy o ymwybyddiaeth o Gymreictod, ma' 'na ddeffro wedi bod. Ma' Cymru yn dechra magu asgwrn cefn," meddai.
Roedd gan Norah Isaac hefyd ei phryderon hithau ynglyn 芒 chyflwr yr iaith.
"Dwi ddim isie clywed bratiaith, ac yn aml iawn dyna yw'r hyn a elwir yn Gymraeg, bratiaith," meddai.
Edrych yn ddu Roedd Dennis Coslett yn llawer llai gobeithiol ynglyn 芒'r dyfodol yn ei sgwrs ef, fodd bynnag:
"Mae'n edrych yn ddigon tywyll. Dydw i ddim yn gweld rhyw ole yn y twnel. Nadw. Ma' ieuenctid wedi mynd i uffern. Cerwch chi lawr i Lanelli, fyddwch chi'n gweld gwaed yn llifo'r strydoedd a'r holl feddwdod a'r trais ar y strydoedd. Hen bobol ddim yn gallu mynd allan o'u cartrefi. Nid dyna'r Gymru dwi wedi ymladd amdani. Na," meddai'n ysgytwol.
Ac yr ydym oll yn gwybod fod sawl un o'r Llanellis hyn ar hyd a lled Cymru gwaetha'r modd.
Trafod galar Pwnc annisgwyl arall sy'n gyffredin i Eirwen Gwynn a Dennis Coslett yw galar y ddau wedi eu sigo gan brofedigaeth ac Eirwen Gwynn yn cyfaddef ei bod yn wraig "unig iawn" ers marwolaeth ei gwr.
"Dwi'n teimlo'r peth yn arw," meddai gan ychwanegu iddi ymroi i bob math o weithgareddau "i nghadw fi 'fynd" ond yn gofidio, "ma'n rhaid i rywun fynd 'n么l i dy gwag bob amsar."
Wedi colli dau o'i feibion ymatebodd Coslett i'r cwestiwn a yw amser yn lleddfu'r boen trwy ddweud:
"Cysgod yw amser sydd yn symud yn araf i dragwyddoldeb. Sdim gwella i alaru a phrofedigaeth. Sdim gwella i hwnna o gwbwl . . ."
Merch ffisegol Nid y dwys a'r difrif yw'r unig bethau sy'n dod i'r brig wrth gwrs . Mae Mari Gwilym yn datgelu mai fel benylin yr oedd hi'n cael ei hadnabod pan oedd hi gyda Chwmni Theatr Cymru "achos o'dd gen i gwpwrdd pils a cr卯m. Ac wedyn os o'dd rhywun yn s芒l o gwbwl oeddan nhw'n cael pils gin i . . ."
Mwyaf dirdynnol O bosib mai'r sgwrs fwyaf dirdynnol o rai'r ail gasgliad hwn yw'r un 芒 Wil Williams, gwerinwr cyffredin o benrhyn Llyn a gafodd driniaeth mor ddychrynllyd dan ddwylo'r Siapaneaid pan oedd yn garcharor rhyfel.
Cafodd ef ei holi ar drothwy ymweliad ymeradwr Siapan 芒 Chaerdydd fis Mai 1998.
Yn bedair ar bymtheg oed cipiwyd y Cymro diniwed fel miloedd o rai eraill i ganol rhyfel.
"A ddim yn gwbod beth oedd rhyfel na dim byd. Edrach arno fel rhyw fath o anturiaeth mewn ffordd," meddai.
Ond antur gyda'r enbydaf oedd hon ac yn un yr oedd ei chreithiau yn dal gydag ef.
"Pan es i i'r fyddin naw st么n o'n i'n bwyso. Ac wedyn pan gyrhaeddis i ysbyty yn Rangoon pedair st么n o'n i," meddai.
Sgwrs y dylai unrhyw un ei darllen, sydd wedi ei ddallu gan ffilmiau a chomics i gredu mai antur yw rhyfel.
Yn wir, cyfrol mor gyfoethog ei hamrywiaeth y mae'n bleser troi
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 91热爆 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|