|
Sgwad Gwen Lasarus G诺yl Bedwen Lyfrau , Caernarfon, 2007
Yn y sgwad:
Swyn Llyr, Mared Williams, Megan Donaldson, Catrin Alaw, Robin Williams, Lisa Erin Owen.
Lost Persons Area
Bwrlwm prysur, llychlyd lliwgar
Llamu i fewn drwy ddrysau disgwylgar
Cyffro cynhyrfus hwylus , hapus
Edrych o fy amgylch yn blentyn bach, barus.
Ffair ffantastig wedi cyrraedd y dref
Y candifflos melys, cymylau y nef
Syllu o fy amgylch, lle yr a'i gyntaf ?
Oedi am eiliad cyn chwerthin yn gras
Lost Person's Area - am syniad twp!
Rolar coaster mawr yn fy arwain i fyny
Gwenu fel giat, wrth i'r reid fawr gyflymu.
Wedi iddo orffen , rhedeg i'r nesaf,
Troi o fy amgylch i alw ar fy ffrindiau
Stopio yn stond. Neb. Be wn芒i r诺an?
Dagrau yn ffurfio, llosgi fy llygaid
Syllu o fy amgylch, be wn芒i r诺an?
Cwffio drwy'r dorf agosaf
Lost Person's Area
Am syniad da. Elen Marged Bradley Roberts
GWYNTOEDD CRYF MIS MEHEFIN
Dydd Mawrth y trydydd o Fehefin oedd hi, o'n i mor gyffrous! Well imi ddweud wrthych chi be oedd yn gynta.
Diwrnod priodas Anti Megi a'i chariad newydd Yncyl Jac. Roedd y ddau wedi bod efo'i gilydd ers rhyw flwyddyn a hanner a dyma Yncyl Jac yn gofyn iddi hi ei briodi o.
Ia bron imi anghofio mae Anti Megi yn 66 ac Yncyl Jac yn 65!
Nath y ddau gyfarfod yng Nghyfarfod Merched y Wawr. Roedd Yncyl Jac yno i siarad gyda'r ledis am sut i wneud tarten afal berffaith neu rhywbeth! A roedd yna ryw conection medde Anti Megi rhwng y ddau ohonyn nhw!
Beth bynnag lle o'n i?
Codais ac mi es i lawr y grisiau lle roedd Anti Megi a mam.
'O be nai?' Roedd Anti Megi yn gwisgo rhyw ffrog wen hen ffasiwn o'r pedwar degau. Gath hi fenthyg hi gan nain.
'Be sy?' gofynnais. 'Be sy? Be sy?'
'Wel, ella ti'm di sylwi, ond ma na storm y tu allan!'
Yn anffodus o'n i dal yn hanner cysgu felly nes i ddim sylwi fod Hyricen Catrina tu allan.
Roedd Anti Megi yn edrych yn stressed iawn a'i sbectol anferthol 么'r wythdegau yn stemio i fyny.
'O be wnai?'
'Peidiwch a phanicio Megan,' meddai mam.'Rown ni ymbarel drosoch chi. Fyddwch chi'n iawn!'
'Iawn? Iawn?! Dwi wedi aros pedwar mis i'r diwrnod yma, a be mai'n neud? Glawio!'
Cymrodd chwarter awr i gael Anti Megi allan o'r t欧 a mewn i'r car. Yn anffodus roedd rhaid imi redeg ar 么l Anti Megi gyda'r ymbarel i bob man.
Aeth y seremoni'n gr锚t! Gyda'r ddau gariad yn edrych ar ei gilydd mewn rhyw ffordd anarferol. Aeth y ddau allan o'r capel i gael tynnu llun.
'R诺an ta Megan ewch chi i fan'cw a Jac dos di i fanna.'
Roedd y ffotograffydd am dynnu'r llun pan ddaeth gwynt cryf a
Ta ta Anti Megi! Lisa Erin Owen
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 91热爆 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|