|
Sgwad Caryl Lewis Gwyl Bedwen Lyfrau Caernarfon, 2007
Yn y sgwad:
Leah Shakespear Huws, Grug Muse, Megan Owen, Llyr Titus Hughes, Hedydd Dyer, Alaw Gwenlli, Betsan Ceiriog,
DRYCH D糯R
Cwch yn teithio drwy'r d诺r llyfn,
Dyfnderoedd clir yn pylu,
Tonnau rhwystredig yn curo'r cei,
Golchi'r traeth yn l芒n.
Gwymon yn fud ac ysgafn,
Golau y dyfnderoedd yn arian
Adlewyrchu hanesion fel cerdd torcalonnus.
Ewyn yn beryglus a bregus
A'r llong yn sgleinio yn feirniadol.
Ynys y tylwyth,
Goleuadau cartrefol
Yn gwahodd y n么s,
Ail fyw'r atgofion
Y golau'n goleuo o hyd
Barddoniaeth yr Haneswyr.
MYNYDD
Mastiau uchel fel sowldiwrs yn y doc
Tonnau'r ddrycin fel cewri blin
Urddas llongau'r hen gei llechi,
Gwynt yn chwipio'r dymestl - ac
Oerni rhewllyd y dyfroedd dyfn,
Hen borthladd o hen amser gynt
Pell yw s诺n y byd a'i helynt
Gwylan unig ar ei thaith
Min nos a'r m么r ar d芒n
Y gwymon fel rhedyn dan wynt.
CEFFYL
Y llanw'n troi'n gyflym
Ewyn gwyn yn fwng ar bob ton
Gwymon tywyll yn gynffon,
Camau'n curo'r cerrig m芒n,
Hwyliau llawn fel clustiau glas,
Gwynt yn gweryru dros y traeth.
Curiad cyson drot, drot, at y lan,
Carlamu tua'r creigiau,
Llyfn a hardd yw llif y m么r.
Y M脭R
Hwyliau ar gwch fel pig aderyn
Adenydd y tonnau'n taro'r m么r
Plu yn chwythu fel ewyn gwyn
Crafangau'n crafu mewn storm o siarcod
Crawcian y wylan yn canu'n ddi-stop
Y dolffin yn nofio'n gyflym ac yn hedfan tua'r top
Y tonnau'n taro'n swnllyd
Broc m么r yn fratiog ar y lan,
Gwylanod yn sgrechian eu iaith bratiog,
A physgod byrlymus yn chwilio am fwyd.
Plentyn bach llawn cyffro
Yn nofio yn y m么r heddychlon
Mae sisial yr awel yn canu fel c么r,
Yn denu pobol gyda'u iaith unigryw.
TRACTOR
Wrth dorri cwys
'fo'r dractor
Cofiais am s诺n y m么r
Y croen gwyrddlas ar rwygo
hen gregin fel injian yn taro.
Gwymon fel 么g yn llusgo
a'i dannedd fel teiars yn brathu'r graig.
Cri'r wylan fel gwich y syspension
Ond eto...
Yn wahanol i'r m么r
Mae gers hon di jamio. Llyr Titus Hughes
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 91热爆 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|