| |
|
|
|
|
|
|
|
Wyddwn i mo hynna am Gymru Chwarel o ffeithiau difyr
Adolygiad Glyn Evans o Wyddwn i mo hynna am Gymru gan Christopher Winn.
Addasiad Sian Northey. Cymdeithas Lyfrau Ceredigion. 拢9.99.
Mae "os nad yw hi'n fawr mae hi'n ddigon" yn ddywediad digon cyffredin wrth gyfeirio at Gymru.
A dyna fan cychwyn y gyfrol fach Wyddwn i Mo Hynna am Gymru - addasiad Sian Northey o I Never Knew That About Wales gan Christopher Winn.
"Efallai fod Cymru'n fach o ran maint ond mae ei dylanwad yn fawr," meddai mewn Rhagair gan ychwanegu:
"Yng Nghymru niod oes unman nad yw'n ennyn rhyfeddod, dim unman nad yw'n ein hudo a'n swyno, dim unman nad yw'n achosi i ni ddweud, 'Wyddwn i mo hynna!'," ychwanegir.
Hynny yw - mae hi'n fach ac yn ddigon!
Casgliad o'r 'wyddwn i ddims' hynny yw'r gyfrol hon fesul yr hen siroedd a fodolai tan yr hyn a elwir gan yr awdur yn "aildrefnu anffodus" ein siroedd yn 1974 sy'n golygu fod Abertawe a Chaerdydd yn yr un Forgannwg a Sir Y Fflint wedi ei rhannu'n ddwy.
Mae'n cychwyn gyda'r eisteddfod gyntaf i'w chynnal - yn Aberteifi gan yr Arglwydd Rhys ap Gruffudd.
Bu Christopher Winn, meddir, yn casglu'r hyn sy'n cael ei alw yn 'trivia' ers dros ugain mlynedd ac wedi gosod cwestiynau cwis ar gyfer sioeau teledu ac ar gyfer y Daily Mail a'r Daily Express.
Manion difyr Yn y gyfrol cawn wybod pob math o fanion difyr: Mai Rhos-y-bwlch i'r de-ddwyrain o Abergwaun oedd y pentref cyntaf yng Nghymru i gael d诺r drwy bibell?
Mai'r ffordd rhwng Llanuwchllyn a Dinas Mawddwy dros Fwlch y Groes, yw'r ffordd uchaf yn y wlad?
Mai Sir y Fflint yw'r sir leiaf yng Nghymru?
Mai yn Hwlffordd y ganwyd yr actor ac un o'r 'Ddau Frank', Rhys Ifans?
Mai yn 'Sir Gaernarfon' mae'r llethr sg茂o sych hiraf ym Mhrydain.
Mai ym Miwmares mae'r enghraifft berffeithiaf yn Ewrop o gastell consentrig.
Mai i ben Craig Glais yn Aberystwyth y mae'r rheilffordd glogwyn drydan hiraf ym Mhrydain.
Mai Dan-yr-Ogof yw ogof芒u arddangos mwyaf a hiraf Prydain.
Mai yn y Gyfnewidfa Lo ym Mount Stuart Square, Caerdydd, yn 1907, y bu'r gwerthiant miliwn o bunnau cyntaf yn y byd.
Mai gwesty moethus Pencerrig, Sir Faesyfed oedd cartref yr artist Thomas Jones ar un adeg.
Cronfa o wybodaeth annisgwyl sy'n peri rhyfeddod a syndod.
Dysgu llawer
"Wrth ysgrifennu'r llyfr hwn, mi ddysgais i gyn lleied dwi'n ei wybod am Gymru - mwya'r cywilydd i mi. Ond mi wnes i fwynhau ysgrifennu'r gyfrol. Mi faswn i'n dweud fod yna ryw ffaith ar bob tudalen oedd yn newydd i mi," meddai Sian Northey a fu'n trosi'r llyfr i'r Gymraeg.
O'r holl ffeithiau newydd ychwanegodd mai'r un sydd wedi aros yn ei chof yw'r un mai Aberdaron yw'r lle pellaf o orsaf reilffordd yng Nghymru a Lloegr!
Ychwanegiad hwylus yw mynegai pobl a lleoedd.
Ar gyfer yr argraffiad Cymraeg achubwyd hefyd ar y cyfle i ddiweddaru gwybodaeth gyfredol gan gyfeirio at orchestion Cymry yn y Gemau Olympaidd, ynghyd 芒 marw'r newyddiadurwr Bob Humphreys.
Safbwynt Cymreig "Gwnaed ymdrech hefyd i ofalu bod yr holl ffeithiau'n cael eu cyflwyno o safbwynt Cymreig yn hytrach nag o safbwynt rhywun yn edrych i mewn ar y diwylliant.
"Weithiau cymerwyd ffaith a gyflwynwyd yn y gyfrol wreiddiol yn ganiataol ac adeiladu o'r newydd arni er mwyn rhoi tro cwbl Gymreig i'r ffaith 'newydd'," meddai Dylan Williams o Gymdeithas Lyfrau Ceredigion y cyhoeddwyr.
"Un o brif rinweddau'r llyfr hwn yw ei fod, nid yn unig yn cynnig gwybodaeth gwbl newydd i'r mwyafrif ohonom am ein gwlad ein hunain ond ei fod hefyd yn codi awydd ar rywun i fynd i weld y llefydd a'r pethau newydd hynny," ychwanegodd.
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 91热爆 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|
|