|
Tinboethach Nes at j么cs budur na Chaniad Solomon
Adolygiad Rhywun o Tinboethach - 12 o straeon erotig. Gwasg Gwynedd. 拢6.95
Allai yn fy myw gofio ai dywediad o Ffrainc - gwlad L'amour ynteu o'r India - gwlad Vatsyayana a'r Kama Sutra ydy:
"Gwyn ei fyd y sawl y mae ei wraig yn sgrifennu straeon erotig canys ef fydd yn gwybod yn union beth sy'n ei bodloni a'i digoni."
Ynteu un ydw i newydd ei wneud i fyny. Pa un bynnag, gallwn gasglu ohono fod cariadion/ cymheiriaid/ partneriaid, awduron Tinboethoach yn fodau sydd wedi eu bendithio.
Yr unig ddrwg yw, gan nad oes enw wrth yr un o'r storiau bydd yr eneidiau hoff sy'n darllen ar goll pa ddisgrifiad rhywiol sy'n berthnasol i'w cymar nhw!
Gorchymyn i boethi Dilyniant i Tinboeth, casgliad o straeon tebyg y llynedd, ydi Tinboethach ond i'r awduron gael gorchymyn gan drefnydd y llyfrau i ragori ar 2007 mewn gwres a nwyd:
"Un o'r cwynion am Tinboeth oedd ei bod hi ddim digon poeth! Felly mi ddeudais i wrth yr awduron tro 'ma fod croeso iddyn nhw fynd mor boeth 芒 lician nhw, ond gan gofio bod 'na ffin," meddai Bethan Gwanas.
Ymddengys mai dim ond un o'r deuddeg awdur a wahoddwyd gododd gymaint o wres y bu'n rhaid taflu powliad o dd诺r oer drosto:
"Nes i ffrwyno ychydig bach ar un stori, mae'n rhaid i mi gyfadde. Dwi'n meddwl fod o'n reit amlwg pa un oedd honno!" meddai Bethan Gwanas.
Hi hefyd sy'n disgrifio 12 awdur 2008 fel "enwau mawr byd llenyddiaeth Cymru" - ond o enwi yr un merch ar ddeg ac un dyn gwelwn fod gwahaniaeth mewn mawredd rhwng yr awduron - cryn wahaniaeth:
Gwen Pritchard Jones, Elin Llwyd Morgan, Meleri Wyn James, Caryl Parry Jones, Catrin Dafydd, Mari Emlyn, Menna Medi, Angharad Jones, Catrin Evans, Angharad Elen, Manon Wyn a Gareth F Williams ac mi adawn ni lonydd i ystyr yr F yna.
Yn naturiol, adlewyrchir y gwahaniaeth dawn a gynrychiolia'r enwau yn y straeon.
Lle i'r lleiaf dawnus guddio Ond, yn anffodus, diogelir y lleiaf dawnus trwy barhau 芒 phenderfyniad gwirion y llynedd o gyhoeddi'r straeon heb ddweud pwy yw'r awdur.
Nid bod hynny'n bryder - gan mai ond rhyw bedair stori sydd yma y byddai ots o gwbl gan rywun beth bynnag wybod pwy yw eu hawduron - ond gan barchu eu hanadnabyddiaeth cyhoeddir yr adolygiad hwn yn ddienw hefyd, fel y llynedd!
Daw yn amlwg yn syth hefyd nad pob un o'r awduron sy'n gallu gwahaniaethu rhwng sgrifennu'n erotig a sgrifennu'n amrwd rywiol ac o'r herwydd mae'r ceinder rhywiol synhwyrus hwnnw sy'n nodwedd o erotica yn cael ei gladdu gan amlaf dan ddisgrifiadau bras ac iaith anllad.
Tybed nad agorodd Bethan Gwanas y drws yn rhy lydan i'r anghelfydd feiddgar a'r budr ei iaith wrth gymell poethi'r sgrifennu?
Nid meddylfryd y j么cs budr sy'n creu erotica.
Ac er bod un neu ddau o'r awduron yn rhagori ar y lleill mae'n deg dweud nad yw'r un ohonynt yn gwbl lwyddiannus gydag ambell un yn agosach at werslyfr Essentials of Human Biology nag at Ganiad Solomon.
Mynd ati'n fwriadol Mae rhywun yn amau hefyd yr effaith ar ddawn awdur a llenor; mynd ati'n fwriadol i sgrifennu am nwyd a chwant dim ond er mwyn hynny gyda'r awydd i losgi'n ddigon poeth i blesio Bethan Gwanas yn troi dawn lenyddol yn lludw.
O ganlyniad mae oddeutu hanner y cyfraniadau yn fethiant llwyr nid yn unig o safwbynt sgrifennu erotig ond fel straeon o unrhyw fath.
Ond fel ag ym mhob gardd o chwyn mae yna ambell i flodyn - yn fwyaf arbennig y stori Meistres am berthynas morwyn o'r enw Cadi 芒 Llywelyn ap Gruffudd pan oedd Eleanor ei ddarpar wraig yn nwylo'r Saeson ac effaith rhyddhau Eleanor a'i dyfodiad i lys Llywelyn ar Cadi.
Mae'n stori ddyfeisgar ac er nad yn arbennig o erotig yn un y byddai unrhyw un o'r 11 nas sgwennodd hi yn falch o gael eu hytyried ei hawdur!
Ar lefel heb fod mor uchelgeisiol hoffais hefyd Y Darlun Byw a Tri sy'n plesio'n bennaf oherwydd y tro yn eu cynffon.
Cystadleuaeth Yn Lloegr mae yna gystadleuaeth flynyddol i wobrwyo y disgrifiadau anfwriadol ddoniol gorau o garu a chyfathrach rywiol mewn llyfrau. Byddai Tinboethach yn faes toreithiog i feirniaid cystadleuaeth Gymraeg debyg.
Nodwedd arall o'r gyfrol yw'r tebygrwydd rhwng y disgrifiadau rhywiol.
Byddai'r caredig yn priodoli hynny i natur gyffredin cynhyrfiadau a phrofiadau rhywiol ond yr angharedig yn cyhuddo'r awduron o fod yn ystrydebol ac o ddiffyg gwreiddioldeb nes eu gwneud yn fawr gwell nag unrhyw nyddwr 'stori fudur'.
Ac mae cymaint o fronnau yn cael eu "cwpanu" yma gallai'r cyhoeddwyr roi set o lestri te am ddim gyda phob cp[i.
Byddai'n werth i'r awduron sylwi hefyd bod rhai geiriau yn eu hanfod yn gwbl anerotig eu naws a'u s诺n:
Fflician, gwefusau gwlypion, cerpyn gwlyb, llwyth o ac "fel bwledi" wrth s么n am - wel gallwch ddychmygu beth.
Gormod o ddifrif? Ond efallai bod rhywun yn cymryd yr holl beth lawer gormod o ddifrif ac nad yw'r ymarfer oll ond dipyn o hwyl a thynnu coes.
Ond yn awr 芒 Thinboeth a Thinboethach eisoes ar y silff y cwestiwn yw; A oes Tinboethaf i ddilyn?
Gobeithio ddim - mae'r j么c a hynny o feiddgarwch oedd yna - wedi chwythu'i phlwc a does yna ddim awch gweld peth fel hyn yn dwad bob blwyddyn - oni gellir ei wneud yn well, yn fwy dyfeisgar ac yn fwy gwreiddiol na hyn.
Cysylltiadau Perthnasol
Tinboeth - y gyfrol gyntaf
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 91热爆 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|