91热爆

Explore the 91热爆
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

91热爆 91热爆page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Plu - Caryl Lewis
Casgliad o straeon byrion
  • Adolygiad Lowri Rees o Plu gan Caryl Lewis. Y Lolfa. 拢7.95.



  • Y tro cyntaf imi gyfarfod Caryl Lewis oedd yn Sioe Llanelwedd. Ei hesgidiau cryfion wedi'u gorchuddio 芒 mwd a'i gwallt wedi ei glymu'n 么l yn barod am gyfres o sesiynau tynnu rhaff.

    Cyfle gwych i wneud cyfweliad radio ag awdures oedd wedi gwneud enw iddi ei hun gyda'r nofel ddirdynnol Martha,Jac a Sianco ond roedd meddwl Caryl ymhell o fyd y nofel a sgwrsio ar y radio gyda'i bwriad o ddychwelyd i'r mwd a thynnu rhaff gyda'i th卯m a gobeithio am fuddugoliaeth!

    Clawr y llyfr Erbyn heddiw mae Caryl Lewis yn un o'n prif awduron cyfoes yn enwedig ymhlith pobl ifainc yn dilyn ei llyfrau dirdynnol; Martha, Jac a Sianco, Dal Hi a Gemydd.

    Ac yn awr, mewn da bryd ar gyfer y Nadolig wele gyhoeddi ei chyfrol ddiweddaraf, Plu .

    Ynddi mae'n gwyro oddi wrth y nofel ac yn cynnig inni gyfres o straeon byrion ac fe fydd diddordeb mawr a fydd yr un derbyniad canmoliaethus i'r rheini.

    Mae pob un o'r straeon yn darlunio perthynas dyn a'i gyd-ddyn a chyda natur yn gefnlen a hwnnw'n newid o dymor i dymor.

    Mae'r plu yn y teitl yn llinyn sy'n gwau drwy'r stori芒u i gyd gan oglais a swyno dychymyg y darllenydd.

    Er nad oes straeon cymhleth na chymeriadau arbennig o gofiadwy ychwaith mae'r straeon yn sensitif a dirdynnol.

    Trafodir nifer o bynciau y gall unigolyn uniaethu a nhw. Pynciau sy'n agos iawn at galon trigolion cefn gwlad Cymru gan fod Caryl Lewis yn cadw'n driw i'w chynefin a'r hyn sy'n gyfarwydd iddi.

    Gwendid y straeon o'm safbwynt i yw bod gorddisgrifio a hynny'n mynd ar draws cynnwys y straeon a chymylu eglurder. Fwy nag unwaith bu'n rhaid ail ddarllen stori i'w deall.

    Er cymaint edmygedd rhywun o ddawn disgrifiadol yr anodd maddau'r cymylu ystyr.

    Ond ni ellir anghytuno ychwaith 芒 disgrifiad Angharad Price o'r llyfr yn nodi bod y rhyddiaith yn eglur, iasol a'r darlun o berthynas unigolion a'i gilydd ac a'u hamgylchfyd yn gallu cyffwrdd at y byw.

    "Mae'n feistres," meddai, ar dechneg y chiaroscuro; y golau a'r tywyllwch, a'r naill yn diffinio'r llall."

    A thrwy bopeth fe fwynheais innau Plu er nid i'r un graddau 芒 Martha, Jac a Sianco.
    Honno yw pennaf gamp yr awdur hyd yn hyn.


    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu L貌rd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    L么n Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Gl芒n i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    S么n amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 91热爆 Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the 91热爆 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy