|
Taith i Awstralia Cymro a'i wraig yn Awstralia
Adolygiad Glyn Evans o Taith i Awstralia gan Roger Boore. Dref Wen.
Fe f没m i yn Awstralia dros y Sul.
Er mai ymweliad o ychydig oriau yn unig oedd o cefais fodd i fyw - a dysgu llawer.
Hynny, diolch i'r tywysydd - Roger Boore.
Am ryw reswm pethau digon prin yw llyfrau taith yn y Gymraeg. Mae rhai da yn brinnach fyth a chyda hynny mewn cof braidd yn betrus yr agorais i Taith i Awstralia sy'n olrhain ymweliad Mr Boore 芒'r wlad yn 2005.
Mae Roger Boore yn adnabyddus ym myd llyfrau Cymraeg; ef sefydlodd Wasg y Dref Wen a chyflwyno i Gymru fersiynau Cymraeg o lyfrau tramor nodedig eu harlunwaith. Arloesodd mewn maes y mentrodd cyhoeddwyr eraill iddo wedyn.
Teithiwr diddan Er yn gyhoeddwr diwyd ychydig mae o wedi'i sgrifennu ei hun er iddo fod yn fuddugol ar gystadleuaeth y stori fer yn Eisteddfod Genedlaethol 1971 a chyhoeddi casgliad blasus o straeon byrion, Ymerodraeth y Cymry, flwyddyn neu ddwy wedyn.
Mae arddull rwydd Taith i Awstralia yn peri inni ofidio na chyhoeddodd ragor o'i waith ei hun.
Mae'n deithiwr diddan, deallus, diwylliedig a gwybodus. Yn gwmn茂wr braf bod yn ei gwmni.
Ymweliad 芒 phwrpas iddo oedd ei ymweliad 芒'r cyfandir mawr islaw:
"Roeddwn wedi bod yn awyddus ers blynyddoedd i weld Awstralia, achos oddi yno y daeth fy nhad-cu. Aeth allan yn yr 1850au gyda'i deulu pan oedd yn fachgen bach, a dod yn forwr yno, ac yn gapten llongau, ond erbyn 1900 roedd wedi priodi 芒 merch o Fro Morgannwg . . . ac ymsefydlu yng Nghaerdydd," meddai wrth agor ei lyfr.
Yr oedd cysylltiad Awstralaidd 芒 hen ewythr hefyd ac mae cysylltiadau hynny yn llinyn amlwg drwy'r gyfrol hon.
Ond megis briwsion gwybodaeth amdanynt sydd yma ac mae rhywun yn amau bod llyfr arall amdanynt hwy yn benodol ar y gweill.
Gobeithio! Prydau blasus Canolbwyntio ar hanes yr ymweliad a wneir yma - ac fe allai hynny fod yn beth peryg iawn achos er y gall eich gwyliau diweddar fod o ddiddordeb angerddol i chwi gall fod mor syrffedus 芒 lluniau o'r gwyliau hwnnw i bobl eraill!
Ond er bod y ddeubeth yma - y cofnod a dau bentwr o luniau! - llwydda Roger Boore i weu drwy'r cyfan wybodaeth ddifyr am amrywiaeth o bethau o brydau blasus i hanes y Cynfrodorion a newydd ddyfodiaid a wnaeth argraff.
Er y byddai'n creu argraff cwbl annheg dweud bod elfen 'addysgol' i'r gyfrol y mae rhywun yn dysgu lot oddi wrthi o'r hyn a ddywedir yn null hamddenol, braf, y sgwrsiwr difyr.
Mae ffraethineb tawel yma hefyd sy'n nacau unrhyw hunan-dyb:
"Buaswn yn f'ystyried fy hun yn dipyn o arbenigwr ar y pwnc, oni bai bod eraill sy'n gwybod llawer rhagor . . ." meddai yn un lle - ac mewn lle arall:
"Enwau Fictoraidd gwladgarol braf oedd ar y strydoedd: brenhinoedd a thywysogion yn gyfochrog 芒'r afon; breninesau a thywysogesau yn eu croesi (fel mewn bywyd). Popeth yn gwbl glir. A phob tro y mentrais allan o'r gwesty heb fy ngwraig, euthum ar goll," meddai!
'Fy ngwraig' Mae "fy ngwraig" 芒 rhan hanfodol o'r hanes ac wedi peri rhywfaint o ddifyrrwch i mi gan na chredaf i'r awdur unwaith gyfeirio ati wrth ei henw yn y llyfr!
Cychwyn yr ymweliad ym Melbourne - lle mae "fy ngwraig" yn syrthio a thorri ei braich - digwyddiad ffodus o anffodus o safbwynt ysgrifennwr sy'n gwneud yn fawr o'r llinyn stor茂ol hwnnw sy'n golygu ymweld a gwahanol sefydliadau iechyd.
Teithiant hyd at Gulfor Torres yng ngogledd Queensland cyn dychwelyd i'r dehau gydag ysbeidiau yn Brisbane a Sydney.
Yn deithiwr cydwybodol a llydan ei ddiddordeb mae'n amlwg i'r awdur ddarllen yn eang cyn ei ymweliad ac fe fyddai llyfryddiaeth ar ddiwedd y gyfrol wedi bod yn fuddiol.
Nodwedd arbennig yw ei ffordd ddiddan, naturiol, o drosglwyddo gwybodaeth heb fod yn ymwthgar.
Rhai Cymry Yn amlwg mae yma sylw i Gymry wnaeth enw iddynt eu hunain yn hanes Awstralia; Billy Hughes "y Prif Weinidog mwyaf a gafodd Awstralia, efallai; y mwyaf, nid y doethaf", Morgan Edwards "a ddedfrydwyd i drawsgludiant am oes ym mrawdlys Trefynwy yn 1822, pan oedd yn ddwy ar hugain oed" a Samuel Walker Griffith "gelyn grymusaf y Fasnach Lafur" yn eu plith.
Sbeis yn y gyfrol hefyd yw'r cyfeiriadau achlysurol at brydau bwyd ambell un yn destun rhywfaint o ryfeddod ac yn ychwanegu at ap锚l cyfrol gan deithiwr deallus a diwylliedig sy'n llawer mwy diddan a gwreiddiol nag y byddai'r clawr ystrydebol yn ei awgrymu.
Dim ond un peth sydd yna i flino rhywun; i'r lluniau lluosog gael eu cyhoeddi yn ddau swp gyda'i gilydd yn hytrach nag mewn mannau perthnasol yn y testun.
Cysylltiadau Perthnasol
Holi Roger Boore
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 91热爆 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|