|
Yr Anweledig Mynd i'r afael yn go iawn 芒'r byd 么l 9/11 am y tro cyntaf yn y Gymraeg
Adolygiad Kate Crockett o Yr Anweledig gan Llion Iwan. Gwasg Gomer. 拢7.99.
Bydd unrhyw un wnaeth bori'n ofalus drwy'r Cyfansoddiadau a Beirniadaethau ar 么l yr Eisteddfod Genedlaethol fis Awst wedi clywed am y nofel hon eisoes.
Petai un o feirniaid y Fedal Ryddiaith, Aled Islwyn, wedi cael ei ffordd, Llion Iwan ac nid Mererid Hopwood fyddai wedi sefyll ar ei draed yn y pafiliwn yng Nghaerdydd ac roedd ei ddisgrifiad o'r gwaith yn ddigon i ennyn cryn chwilfrydedd.
Dyma nofel, meddai, lle nad oes gan yr un cymeriad gysylltiad 芒 Chymru ac sydd wedi'i gosod yn gyfan gwbl y tu allan i Gymru.
Tybed sut hwyl gafodd yr awdur, wedi iddo osod yr her honno iddo'i hun?
Y gyntaf Mae Yr Anweledig hefyd yn nodedig am reswm arall. Efallai mai dyma'r nofel Gymraeg gyntaf i fynd i'r afael go iawn 芒'r byd 么l 9/11 ac effaith polis茂au'r gyfundrefn sydd ar fin gadael y T欧 Gwyn ar fywydau pobl mewn gwahanol rannau o'r byd.
Mae i'r nofel ddau brif gymeriad, ac er nad yw'r ddau'n cyfarfod o gwbl, mae un digwyddiad canolog yn eu clymu wrth ei gilydd.
Bugail ym mynyddoedd yr Hindu Kush yw Hani ac yno mae lluoedd yr Unol Daleithiau'n cynnal cyrchoedd bomio yn erbyn aelodau cudd Al Qaeda.
Ond mae un o'r peilotiaid sy'n gollwng y bomiau yn gwybod nad terfysgwyr sy'n cael eu taro ond teuluoedd cyffredin.
Holi pam Moslem yw'r Capten Jon Clark, a newidiodd ei enw o'r Mohammed gwreiddiol er mwyn osgoi cael ei fwlio pan oedd yn blentyn ysgol. Ymrestrodd yn y Gwarchodlu Cenedlaethol er mwyn cael ffordd o dalu am ei addysg, ond erbyn hyn, mae'n ei ganfod ei hun yn holi pam bod angen "ei anfon mewn awyren gwerth $30 miliwn, oedd yn defnyddio technoleg llongau gofod, er mwyn gollwng bomiau gwerth miloedd o ddoleri ar gartrefi pridd..."
Mae Llion Iwan yn ysgrifennu'n hyderus ac yn gredadwy am fyd sy'n ddieithr i'r gynulleidfa Gymraeg: bywyd yn Awyrlu'r Unol Daleithiau, ac yn y mynyddoedd anhygyrch rhwng Pakistan ac Afghanistan.
Golygfeydd cofiadwy Mae nifer fawr o olygfeydd cofiadwy yn y nofel, gan gynnwys y frwydr rhwng y sgorpion a'r ci yn y gwersyll milwrol (delwedd bwerus o'r rhyfel ei hun), a chyfnod Jon/Mohammed yn byw gyda theulu nomadig.
Nid yw'n swil o ddisgrifio effeithiau'r cyrchoedd bomio ac mae sawl golygfa sy'n peri i'r darllenydd wingo.
Fel darlithydd newyddiaduraeth efallai nad yw'r syndod bod gan Llion Iwan ddiddordeb arbennig yn y ffordd mae'r ddwy ochr yn defnyddio propaganda rhyfel: ar y naill law mae'r gwrthryfelwyr yn mynd ati'n fwriadol i ffilmio pob manylyn erchyll o'r dioddefaint, ac ar y llaw arall mae lluoedd yr Unol Daleithiau'n ffugio ac yn twyllo er mwyn creu naratif rhyfel sy'n ateb eu dibenion nhw.
Cafodd y nofel hon ei llunio'n gelfydd, gyda'r gwahanol olygfeydd yn plethu i'w gilydd yn gynnil.
Cip sydyn Nofel gymharol fer yw hi, a chip sydyn sy'n cael ei ganiat谩u ar fywydau'r rhan fwyaf o'r cymeriadau heblaw am Jon Clark ond mae Llion Iwan wedi gwneud rhywbeth pwysig drwy ddod 芒'r bobl "anweledig" hynny, chwedl y teitl - unpeople a defnyddio term y newyddiadurwr John Pilger - yn fyw ar dudalennau nofel Gymraeg, er y pellter daearyddol sydd rhyngom.
Byddai dweud fy mod wedi mwynhau'r nofel hon yn creu camargraff - nid yw'n hawdd ei darllen gan ei bod yn rhoi darlun mor effeithiol o'r anghyfiawnderau sy'n bodoli yn ein byd ni heddiw, ac o'r ffordd y mae pobl ddiniwed ym mhob cwr o'r byd yn dioddef oherwydd penderfyniadau a wnaed ymhell i ffwrdd.
Codi calon Ond eto cododd y nofel fy nghalon am ddau reswm. Yn gyntaf, am fod Llion Iwan yn gweld y daioni mewn pobl yn ogystal 芒'r drygioni: er gwaetha'r cyfan, mae'r nofel yn gorffen ar nodyn gobeithiol.
Ac yn ail, am ddangos y gall llenyddiaeth Gymraeg fod yn uchelgeisiol o ran testunau, a tharo deuddeg.
Cysylltiadau Perthnasol
Holi Llion Iwan
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 91热爆 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|