|
Un Dydd ar y Tro Cyfrol ddifyr dyn diddorol
Adolygiad Gwyn Griffiths o Un Dydd ar y Tro: Hunangofiant Trebor Edwards. Y Lolfa. 拢9.95.
Am gyfrol ddifyr a dyn diddorol! Mae nifer o'i recordiau gen i ac fe'i clywais yn canu ar radio a'i weld ar deledu ond wyddwn i mo'r hanner o hanes Trebor Edwards.
Dyma ffermwr mentrus a blaengar. Dyn busnes, hefyd, yr un mor llwyddiannus a mentrus. Wedi'r cwbl dyn busnes yw ffermwr ond bod Trebor Edwards yn arbennig yn yr ystyr nad etifeddu fferm, fel sy mor gyffredin, a wnaeth.
Rwy'n llawn edmygedd o'r hyn a wnaeth iddo'i hun a sicrhau gwaddol o ffermydd i'w trosglwyddo'n dreftadaeth gyfoethog i'w blant ac i'w plant hwythau.
Os rhywbeth dyma lyfr sy'n fwy o stori ffermwr a ffermio nag o hanes canwr. Gwelodd a phrofodd y newid mawr yng nghefn gwlad o ddyddiau'r cribyn llaw i beiriannau mawr diwydiannol ein dyddiau ni, a lleihad nifer y ffermydd sy'n cynhyrchu llaeth.
Yn annatod wrth hyn oll mae diwylliant cyfoethog ei deulu ac ardal Betws Gwerful Goch fu'n sail i'r rhan o'i fywyd a ddaeth ag enwogrwydd iddo fel un o denoriaid mwyaf poblogaidd ac adnabyddus ein gwlad.
Brwdfrydedd Ar ben hynny, fe'i cawn yn cystadlu ac arddangos mewn sioeau lleol gyda chymaint o frwdfrydedd a llwyddiant nes, yn haeddiannol iawn, yr etholwyd ef yn Llywydd Sioe Frenhinol Cymru eleni.
Ni ddylai sylw cenedlaethol rwystro rhywun rhag tynnu ei bwysau yn lleol, meddai.
Hoffaf ei barodrwydd i roi ei farn yn ddi-flewyn ar amrywiol bynciau.
Ni all ddeall y gwrthwynebiad i felinau gwynt ar gyfer cynhyrchu trydan. Fu neb yn cwyno am yr hen beilons hyll ar draws ein gwlad, yn arbennig hyd bennau'r bryniau lle maen nhw'n gwneud mwy i anharddu'r wlad nag unrhyw felin wynt. Clywch, clywch!
Geirio'n glir
Hoffais ei sylw am bwysigrwydd geirio clir wrth ganu, gwers a ddysgodd yn ifanc gan 'Taid Pen Brynie'.
"Dallt y geirie, nid dallt yr iaith, mae 'ne wahanieth! Dwi'n dallt pob gair pan mae Bryn Terfel yn canu mewn Almaeneg hyd yn oed, ond dydw i'm yn dallt yr iaith."
Cytuno gant y cant.
Mae gen i CD o Bryn Terfel yn canu deuawdau gyda Cecilia Bartoli a'r ddau'n geirio mor glir mae'n bleser gwrando arnyn nhw er na fedra i air o Eidaleg.
Mae gen i CD fydda i'n gwrando arni weithiau o Joan Sutherland, un o sopranos mawr y byd - ond wfft i'w geirio. Hyd yn oed pan fo hi'n canu 91热爆, Sweet 91热爆 prin y medra i ddeall gair. Diolch byth am y traddodiad Eisteddfodol.
Teithio'r byd Cafodd Trebor Edwards deithio'r byd i ganu, a hwylio'r moroedd hefyd, gan iddo fynd i ddifyrru'r m么rdeithwyr ar longau pleser. Ond cafodd ambell sylw annisgwyl fel y tro hwnnw pan oedd yn recordio Yr Hen Shep ar gyfer S4C gyda Sbot ei gi yn y cefndir.
Torrwyd ar y ffilmio gan chwerthin mawr pan ddechreuodd y ci lithro lawr y llechwedd fel pe bai ei ben-么l ar d芒n. Anfonodd y dyn camera ddarn o ffilm o'r ci'n crafu'i ben-么l i It'll be Alright on the Night a dangoswyd y clip ar deledu mewn gwledydd eraill a chafodd Trebor lu o lythyron o bob rhan o'r byd, gan gynnwys tabledi a phowdwr llyngyr!
Disgiau aur
Cawn hanes y recordio, y llwyddiannau a'r disgiau aur ac arian a'r anhawster i ddod o hyd i ddigon o ganeuon ar gyfer y recordiau. Fel pob dyn busnes da byddai'n mynd a stoc o'i recordiau yng nghist y car i'w gwerthu pan fyddai'n canu mewn cyngherddau.
Mae'n cyfaddef y byddai, fel pob ffermwr, weithiau'n hwyrfrydig yn talu'i filiau a dywed iddo unwaith gynnig talu'i ddyled i Huw Jones - Sain bryd hynny - mewn defaid.
Mewn manylder Mae'r gyfrol yn anhygoel ei manylder. Cawn hanes ei brofiad yn Llywydd y Sioe ac y mae hyd yn oed yn cynnwys pob manylyn am wasanaeth agoriadol y sioe yn Eglwys y Santes Fair, Llanfair-Ym-Muallt, gan gynnwys pwy oedd yn pregethu, ei destun a'r tri phen!
Fel ei ganu, mae hunangofiant Trebor Edwards yn amlygu'r un bersonoliaeth hawddgar agosatoch chi. Rwy'n si诺r y bydd y canwr yn sicrhau fel gyda'r recordiau y bydd stoc dda o'r llyfr hwn yng nghist y car ac y bydd y gwerthiant yn ardderchog.
Edrychaf ymlaen clywed beth fydd ymateb Y Lolfa pan fydd yn cynnig talu amdanynt gyda stoc o 诺yn blwydd!
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 91热爆 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|