|
GRAV Yn Ei Eiriau Ei Hun Mwy na chyfrol am chwaraewr rygbi
Adolygiad Keith Davies o GRAV Yn Ei Eiriau Ei Hun. Golygydd - Alun Wyn Bevan. Gwasg Gomer. Tud. 264. 拢14.99. A chlip sain oddi ar Raglen Nia Thomas ar 91热爆 Radio Cymru.
I weld y cynnwys hwn rhaid i chi alluogi Javascript a gosod Flash ar eich cyfrifiadur. Ewch i (Saesneg) am gyfarwyddiadau.
Llanw hapusrwydd a thrai tristwch gan Keith Davies
Mae'n anodd, ac mae'n mynd yn annos bob dydd, i gredu bod dros flwyddyn ers marwolaeth Grav.
Ac mewn gwirionedd 'dyw'r gyfrol hon ddim yn unrhyw help o gwbwl!
Nid am ei bod hi'n gyfrol wan neu'n gyfrol ddiffygiol ond yn hollol i'r gwrthwyneb - am ei bod hi gystal cyfrol yn gyforiog o hanesion, storie a dywediade sy'n creu portread crwn a chyflawn o un o Gymry mwyaf cymhleth y cyfnod.
Cymysgedd o ddagrau a chwerthin afreolus, llanw hapusrwydd yn cael ei ddilyn gan drai o dristwch.
Ceir dwy ran bendant i'r gyfrol.
Ail-bobiad yw'r rhan gynta o gyfrol Lyn T Jones a gyhoeddwyd n么l yn yr Wythdegau ond mae'r addasu a'r diweddaru ar yr hanes hwnnw yn fwy nag ennill eu lle yn y gyfrol hon ac, mewn gwirionedd, yn rhoi mwy o ystyr a dyfnder i'r ail ran, sydd yn fwy pytiog o ran arddull.
Magwraeth Yn y rhan gynta cawn hanes magwraeth Grav, y bobl a'r ardal gafodd cymaint o ddylanwad arno, sydd yn ei dro yn cyfoethogi ein dealltwriaeth ninnau o rai o'r cymeriadau a welir yn yr ail ran - yr annwyl Anti Babs, Robert (WRW) a Pam Smith.
Ond efallai bod rhan gynta'r llyfr yn taflu goleuni mwy llachar ar ei berthynas a'i deulu, Mari, Manon a Gwenan. Yn anad dim, dyn y teulu oedd Grav, oedd yn digwydd bod hefyd yn rhywfaint o chwaraewr rygbi, actor a darlledwr.
Lluniau yn cyfoethogi Un elfen sy'n cyfoethogi'r gyfrol yw'r lluniau a geir ynddi. Gwelwyd nifer o'r rhain o'r blaen ond mae yna amryw sydd yn newydd ac sydd unwaith eto yn ychwanegu at ein dealltwriaeth ni o Ray ac at ein dealltwriaeth o'i berthynas 芒 chynifer o bobl.
Y mae'r llun o Dafydd Rowlands yn cerdded gyda'i fab Geraint ar Fynydd Gelli Onnen, gyda'r geiriau Dere fy Mab wedi eu hysgrifennu yn llawysgrifen y bardd yn ysgytwol.
Ac eto yn tanlinellu y berthynas rhwng dwy ran y gyfrol.
Person calongaled eithriadol fyddai ddim yn ymateb i lunie o Grav a'r merched yn ei fywyd.
Mae'r llun ohono gyda Stephen Jones a Dawyne Peel ar faes Eisteddfod Abertawe yn stori fer ynddo'i hun. Y tri yn plygu fel aelodau'r rheng flaen a'r w锚n ar wyneb Stephen a Dwayne yn delynegol.
Daeth y llun ohono ar lwyfan Eisteddfod yr Urdd Shir G芒r ag atgofion chwerwfelys yn 么l i mi'n bersonol, fel y gwnaeth y llun o Thomas Maggs? Pwy medde chi?
Disgybl ysgol o ardal Abertawe a chefnogwr brwd o'r Gweilch.yw Thomas, a ysgrifennodd ar gerdyn i Grav wedi ei lawdriniaeth eger:
"Brysia Wella Grav - Ti yw fy arwr i, ond fi still yn hato'r Scarlets."
Y siap Dydw i dim eisiau swnio fel Simon Cowell, trwy bigo er mwyn pigo ond os oes gen i unrhyw feirniadaeth o'r gyfrol ei siap yw'r feirniadaeth honno!
Mae'n gyfrol sgw芒r sydd ar adegau, yn enwedig wedi cyfnod o'i darllen , yn anodd iawn ei dal.
Mae'n syrthio rhwng dwy st么l, cyfrol arferol a chyfrol bwrdd coffi. Ond tybed ai fi sy'n rhy ffysi?
Gellid mynd ymlaen ac ymlaen i ddyfynnu darnau ohoni. Gellid treulio penodau yn dadansoddi'r lluniau - ond digon yw dweud, "Cerwch mas a phrynwch hi".
Mae'n dipyn mwy na chyfrol am chwaraewr rygbi.Mae'n stori emosiynol am unigolyn annwyl a chymhleth a'i ymdrech yntau i oresgyn pob math o dreialon a siom.
Cysylltiadau Perthnasol
'Cofio Grav' - adolygiad
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 91热爆 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|