|
Hen Ffordd Gymreig o Fyw Trysorfa o luniau Cymru'r oes o'r blaen
Adolygiad Glyn Evans o Hen Ffordd Gymreig o Fyw - A Welsh way of Life. Ffotograffau John Thomas. Golygydd Iwan Meical Jones. Lolfa a Llyfrgell Genedlaethol Cymru. 拢14.95. Tud. 191.
Mae yna lun yn y llyfr Hen Ffordd Gymreig o Fyw sy'n rhyw led atgoffa rhywun o olygfa heriol mewn ffilm gowboi!
Rhes o bobl yn sefyll ar draws stryd ym Mhenrhyndeudraeth yn edrych tuag at, a thu draw, i'r camera yn union fel rhywrai yn disgwyl trwbl ac y barod i'w wrthsefyll.
Mae rhywun yn dyfalu bod diwrnod ymweliad y ffotograffydd yn 1875 yn un cofiadwy i'r trigolion.
Yr oedd cryn waith trefnu ar y llun - gosod y bobl a'u cael i sefyll fel delwau heb symud am rai eiliadau achos nid ar amrantiad, fel heddiw, y byddai camera yn cofnodi golygfa yr adeg honno.
Ac yn nyddiau cynnar ffotograffiaeth yr oedd yn rhaid cwblhau'r cyfan yn y fan 芒'r lle - paratoi a phrosesu'r negyddion pl芒t gwlyb - a'r tynnwr lluniau yn gorfod helcid nid yn unig ei offer ond ei gemegau gydag ef - "pump o botelau llawn o wahanol gyffuriau, Bath trwm tua chwe phwys, gwydrau a lliain i wneud lle tywyll, heblaw y Camera a'r Lens a'r Stand, yr oedd yn rhaid cael cymorth dyn, mul, ceffyl, cerbyd neu rywbeth i'ch cludo".
Y tynnwr lluniau a aeth i gymaint o drafferth ym Mhenrhydeudraeth, fel ag yr aeth mewn degau o leoedd eraill ar hyd a lled Cymru, oedd John Thomas - dyn sy'n cael ei ddisgrifio fel "ffotograffydd Cymreig pwysicaf oes Fictoria" ac "un o ffotograffwyr mawr y byd" gan awdurHen Ffordd Gymreig o Fyw, Iwan Meical Jones, pennaeth Gofal Casgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth.
Mae'r llyfr yn cynnwys detholiad helaeth o luniau John Thomas gyda disgrifiad ohonynt yn y Saesneg yn ogystal 芒'r Gymraeg.
Eglura Iwan Meical Jones mai un o Gellan, Ceredigion, oedd John Thomas, ac iddo fod yn tynnu lluniau ar hyd a lled Cymru yn ystod ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg ar 么l dechrau trwy wahodd nifer o bregethwyr adnabyddus i eistedd iddo.
Bu mor llwyddiannus 芒 sefydlu ei fusnes ei hun yn 1867 The Cambrian Gallery gan deithio drwy'r rhan fwyaf o Gymru am 40 mlynedd yn tynnu lluniau o olygfeydd a phobl.
Y trobwynt yn ei fywyd a arweiniodd at yr yrfa arloesol hon oedd gadael ei gartref yn bymtheg oed i weithio'n ddilledydd yn Lerpwl lle daeth "yn un o ddinasyddion parchus a llewyrchus" y ddinas ac yno yr ymddiddofodd gyntaf mewn ffotograffiaeth a chyfuno hynny 芒'i ymlyniad triw i Gymreictod a'i gariad at gefn gwlad.
Ei daith dynnu lluniau gyntaf i Gymru oedd yn 1867 a bu sawl ymweliad wedi hynny.
Wedi iddo roi'r gorau i'w fusnes wedi gyrfa lewyrchus - a gwerthfawr i ni heddiw - prynwyd casgliad o dros 3,000 o'i negyddion gorau gan O M Edwards ar gyfer y cylchgrawn Cymru ac erbyn heddiw y mae'r negyddion hynny yn y Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Mae'r casgliad o luniau sydd newydd ei gyhoeddi, a chyflwyniad Iwan Meical Jones yn y Gymraeg a'r Saesneg yn ffenestr wych i gyfnod yn ein hanes. Mae'n gyfrol ag oriau o graffu yn perthyn iddi hi ac y mae hefyd yr unig gasgliad sylweddol o luniau John Thomas.
"Yng ngwaith John Thomas mae gennym gofnod sydd yn bersonol, yn emosiynol ac yn llawn bywyd. Nid yn unig y mae'n ffotograffydd Cymreig o bwys, ond y mae'n un o ffotograffwyr mwya'r byd," meddai Iwan Meical Jones.
Un o'r pethau sy'n gwneud lluniau John Thomas mor werthfawr yw iddo dynnu lluniau o'r bobl fel ag yr oeddent gan gynnig inni olwg wahanol i'r hyn 芒 gynigir gan y portreadau arferol.
"Mewn oes pan oedd pawb yn galw am bortreadau oedd yn eu dangos fel pobl barchus, roedd John Thomas yn eithriad oherwydd ei fod yn dewis tynnu lluniau gweithwyr cyffredin, a hyd yn oed gardotwyr a phobl feddw," meddai Iwan Meical Jones.
Mae'r detholiad o luniau yn y gyfrol wedi eu rhannu rhwng tair adran; Llefydd, Pobl a Portreadau ac yn ogystal a lluniau o bobl, rhai yn nodedig fel David Lloyd-George yn gyfreithiwr ifanc tua 1890, y mae lluniau o gymeriadau gyda llysenwau lliwgar fel Arglwydd Penmachno, Jeni Fach, Wil y Felin, Nansi'r Coed, Si么n Sodom, Si芒n y Pabwyr, Mali'r Cwrw, Morris Bab诺n, Elis Wirion, Robin Busnes ac ati.
O ran lleoedd ymhlith y rhai diddorol y mae lluniau dwbl o'r un lleoedd, un ar ddiwrnod tawel, arferol, a'r llall ar ddiwrnod ffair neu farchnad.
trwy ei luniau o'r ffeiriau a'r porthladdoedd, yn ogystal 芒'r capeli a'r golygfeydd, ceir golwg newydd, arloesol ar Gymru a Chymry'r cyfnod.
Cysylltiadau Perthnasol
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 91热爆 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|