91热爆

Explore the 91热爆
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

91热爆 91热爆page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Cerddi'n Cerdded
Cerddi difyr mewn diwyg lliwgar


  • Adolygiad Caron Wyn Edwards o Cerddi'n Cerdded gan gwyneth Glyn. Gomer. 拢4.99.


  • Mae 'na rhywbeth cynhenid ynom ni fel pobl sy'n hoff o labeli - o roi eraill mewn blychau bach twt - yn enwedig yn y cyfryngau; 'actor' neu 'gantores', 'nofelydd' neu 'ddramodydd'.

    Mae 'na rai pobl fodd bynnag, waeth befo pa mor galed yr ymgeisiwch, sy'n gwrthod yn deg 芒 ffitio i mewn i un twll colomen penodol ac ar dop y rhestr honno y canfyddwn ni Gwyneth Glyn.

    Clawr y llyfr Yn gantores, awdures, sgriptwraig, cyflwynwraig ac, wrth gwrs, yn Fardd Plant Cymru 2006, mae'r ferch ifanc yma o Eifionydd yn gallu troi ei llaw at ymron unrhyw beth fe ymddengys.

    Cerddi'n Cerdded yw'r gyfrol ddiweddaraf ganddi; casgliad o gerddi i blant mewn cyfrol ddeniadol llawn lliw - diolch i luniau bendigedig Mary Klivert - rhai ohonyn nhw o bosib wedi eu cyfansoddi mewn dosbarth efo plant a rhai ohonyn nhw'n sicr o fod yn ganadwy.

    Yn sicr, ni fyddwn yn synnu o'u clywed ar restr testunau Eisteddfodau'r Urdd y dyfodol.

    Fel yr wyf eisoes wedi crybwyll, mae ansawdd a chyflwyniad y llyfr yn ddigon o ryfeddod gyda thudalennau lliwgar a'u lluniau deniadol ddylai ddenu sylw darllenwyr ifanc o'r dechrau'n deg.

    Mae llawer o'r testunau'n rhai modern - fel y gerdd agoriadol Y Gerdd Werddsy'n canu clodydd ailgylchu:

    Sgen ti botel? Sgen ti bapur?
    Sgen ti ganiau? Sgen ti dun?
    Sgen ti amser i ail-feddwl
    Cyn eu taflu nhw i'r bin?

    ...Bwyda di y blwch ail-gylchu,
    Llanwa di y grochan hud.
    Gwylia hen bapurau echdoe
    Yn troi'n gylchgrawn newydd, drud.

    Eraill a wnaeth argraff arbennig arnaf oedd Hunaniaeth:

    Does gen i'r un ddafad,
    does gen i'r un ddraig,
    a welis i 'rioed
    het fawr ddu ar hen wraig...

    am yr hyn sy'n ein gwneud ni'n Gymry; Nodyn Bodyn am ryfeddodau tecstio a Teulu.

    Eraill sy'n taro nodyn cyfoes - ac yn awgrymu iddynt gael eu cyfansoddi mewn dosbarth yw Monstar i Mi a Pam Ma Mam yn Mad am Sgidiau? sy'n defnyddio ieithwedd lafar, fwy tafodieithol fodern.

    Mae hon yn gyfrol hawdd iawn i'w hargymell - a hynny i blant o bob oed.

    Mae'r cerddi'n addas ar gyfer cael eu darllen gan blant ar eu pennau eu hunain, ar y cyd mewn dosbarth neu i rieni eu darllen nhw i blantos 'fengach - a buaswn yn ei hargymell fel anrheg gwerth chweil i unrhyw un.

    Cysylltiadau Perthnasol
  • Gwefr mewn dosbarth


  • cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r 91热爆 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 脙垄 ni.

    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu L貌rd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    L么n Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Gl芒n i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    S么n amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 91热爆 Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the 91热爆 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy