91热爆

Explore the 91热爆
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

91热爆 91热爆page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Stori Sara
Dwy ochr ysgariad
  • Adolygiad Linda Edwards o Stori Sara gan Shoned Wyn Jones. Y Lolfa.


  • Hon yw pedwaredd nofel Shoned Wyn Jones i blant yn eu harddegau. Mae'n dilyn Fory Ddaw, Adlais a Gwirioni a enillodd wobr Tir na n-Og 2002.

    Mae'r nofel gyfoes hon wedi cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn rhan o'r gyfres boblogaidd Pen Dafad ar gyfer disgyblion Cyfnod Allweddol 3 Ysgolion Uwchradd.

    Clawr y llyfr Athrawes yw'r awdur ac yn Bennaeth Adran y Gymraeg yn ysgol John Bright, Llandudno, ac yn gwybod yn iawn sut mae plant yn adweithio i wahanol sefyllfaoedd.

    Mae Stori Sara yn trin tor-priodas ac fel y dywed Shoned, "Roeddwn i'n meddwl y byddai pwnc y nofel yn apelio at yr arddegau, yn enwedig merched, gan mod i fel athrawes yn dod ar draws llawer o blant sydd yn yr un sefyllfa a Sara."

    Mae rhieni Sara, disgybl blwyddyn deg, wedi ysgaru a Sara yn byw gyda'i mam.
    Mae ei thad ar fin priodi eto ac fel pe na byddai hynny'n ddigon drwg, ei ddarpar wraig yw Angela Harris, athrawes Fathemateg yn ysgol Sara!

    Felly, daw Sara ar draws ei darpar lysfam newydd bob dydd.

    Dydi Sara ddim yn derbyn y sefyllfa o gwbl ac mae'n datgelu llawer o'i theimladau a'i hemosiynau trwy sgwrsio ar y we gyda'i ffrindiau, Gareth a Manon, sy'n cydymdeimlo 芒'i sefyllfa yn y dechrau.

    Ond pan fo Sara yn datgelu fod ganddi gynllwyn i ddifetha'r cwbl i'w thad a Miss Harris maent yn ceisio ei darbwyllo.

    Ond a wnaiff Sara ymbwyllo - dim peryg. Yn hytrach, mae'n bwriadu defnyddio'i ffrind newydd Sean, bachgen Romani, er mwyn cyflawni ei chynllwyn.

    Cred Sara mai ei thad oedd ar fai am y tor-priodas, am iddo adael cartre ond fel y datblyga'r nofel caiff wybod yn wahanol a daw i ddeall fod dwy ochr i'r stori ond dydi hynny'n gwneud dim gwahaniaeth i'w bwriad, fodd bynnag.

    Oes yna ddiweddglo hapus i Sara, i'w mam, ac i'w thad a Miss Harris?
    Byddai datgelu hynny yn difetha'r nofel y credaf y bydd yn boblogaidd iawn gyda disgyblion oed Cyfnod Allweddol 3 Ysgolion Uwchradd.

    Bydd llawer ohonynt yn uniaethu 芒 theimladau ac emosiynau Sara ac fel y gobeithia Shoned Wyn Jones "bydd yr ymdriniaeth yn helpu i ddangos fod dwy ochr yn aml mewn sefyllfa lle mae rhieni yn ysgaru".

    Mae'n nofel fer a hawdd i'w darllen ac yn cynnwys negeseuon gwe sydd yn si诺r o fynd i lawr yn dda.

    Cysylltiadau Perthnasol
  • Holi Shoned Wyn Jones


  • cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r 91热爆 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 脙垄 ni.

    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu L貌rd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    L么n Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Gl芒n i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    S么n amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 91热爆 Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the 91热爆 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy