|
Beti Bwt Plentyndod yn y Pumdegau
Adolygiad Meg Elis o Beti Bwt gan Bet Jones. Y Lolfa. 拢6.95
Bai Pwyllgor Eisteddfod Sir y Fflint oedd o, er nad ydw i'n eu condemnio nhw am y gwyrthiau wnaethon nhw dan yr amgylchiadau.
O weld y geiriau "Cyfrol ar thema 'Plentyndod'" yn destun cystadleuaeth y Fedal Ryddiaith, gallai rhywun ragweld y math o gynnyrch.
Ac eto dwi ddim yn condemnio, oherwydd cawsom Rhodd Mam, gan y llenor crefftus Mary Annes Payne nad ydi pawb, hyd yn oed ar 么l iddi gael ei gwobr haeddiannol, wedi cydnabod ei chrefft a'i gallu.
A r诺an dyma Beti Bwt ddaeth yn agos iawn ati yn y gystadleuaeth ac wedi dilyn yr un math o drywydd.
Does dim angen bod yn broffwyd i ragweld croeso cynnes i'r llyfr hwn. Gwyliwch y blychau'n cael eu ticio: Nofel llais-plentyn - tic. Pumdegau - tic. Ardal wledig - tic. Cymreig - rhowch ddau dic iddi . . .
Adnabod nodweddion Ga'i ddatgan diddordeb fan hyn?
Mi gefais innau blentyndod yn y Pumdegau. A minnau'n wynebu cyfnod pan fydd fy 诺yr/wyres yn dweud "On i'n cid yn y dims/degs", dwi ddim mor orawyddus i gyhoeddi hyn, ond mi wna'i.
Ac mae'r rheswm yn syml.
Dwi'n nabod rhai nodweddion o'r hyn mae Beti Jones yn s么n amdanynt ond dim llawer. Plentyndod Cymreig gefais innau, ond o ddewis - dewis fy rhieni. A phlentyndod trefol, sy'n gwneud i rai o'r pethau sy'n cael eu crybwyll yma; trip ysgol Sul, dyfodiad telefision, ymddangos yn ofnadwy o hen-ffasiwn. Mi fasa nhw'n hen-ffasiwn i mi bryd hynny ond i blant heddiw?????
Mae ambell i s么n am wisg ac ati yn rhoi rhyw deimlad troad, yn hytrach na chanol, y ganrif.
Sgwennu ardderchog Wedi dweud hynny, mae yma sgwennu ardderchog. Mae diniweidrwydd plentyndod, o'i gyfleu yn grefftus, yn cyrraedd y galon, boed hynny yn Nhrefor dan law Bet Jones neu yn Kabul gyda Khaled Hosseini yn sgwennu. Syth-welediad, hwnna ydi o.
Funud yn 么l, roeddwn i'n pellhau fy hun oddi wrth sefyllfa'r nofel hon. Efo'r bwli Dinah Smith, a'r tyndra rhwng pwy sy'n ffrindiau gorau yn yr ysgol bach, roeddwn i n么l chwap yn yr union le 芒 hi.
Fel y mae pob plentyn - ond nid pob oedolyn sy'n medru cofio, na chyfleu, a dyna sy'n gwneud y llyfr hwn yn gymaint o drysor. Dach chi yno. Mae gynno ni i gyd ein blydi Dinah Smith.
'Ffyncshynio' Yn ei beirniadaeth ar Rhodd Mam yn Eisteddfod Sir y Fflint, cyfeiriodd Jane Edwards at "y teulu mwyaf dysfunctional i mi ddod ar ei draws erioed mewn nofel Gymraeg."
Doeddwn i ddim yn si诺r am y farn bryd hynny ac wedi darllen Beti Bwt, rydw i'n fwy argyhoeddedig nac erioed nad yw llawer o'r teuluoedd sydd yn yr hafan fach Gymreig hon yn 'ffyncshynio' mor wych 芒 hynny, chwaith. Dwi'n dal i gofio dagrau Mam Rodney, un o'r darnau gorau yn y llyfr.
Plesio'r gynulleidfa Wrth gwrs, mae gynnoch chi'r pethau sy'n mynd i blesio'r gynulleidfa - y bennod am y Trip Ysgol Sul, er enghraifft (ac ydach, rydach chi'n gwybod cyn cychwyn y bydd rhywun yn chwydu ar y bws).
Ond mae diwedd y llyfr, mis diwethaf y flwyddyn dwt, Gymreig, yn syndod o annisgwyl a da.
Mae'n swta, does dim ffrils, mae pethau'n cael eu dweud fel y maen nhw, gan gyfleu i'r dim y sydynrwydd sy'n digwydd ym myd plentyn, heb esboniad, heb gyfle i wrthwynebu.
Darn o realaeth y presennol yn dod i mewn yn greulon ydi hyn - a diddorol trwy'r gwaith i gyd yw ymyriad yr ugeinfed ganrif - teledu, patrymau gwaith yn newid.
Swyn nofel am y gorffennol Crefft Bet Jones yw ei bod hi'n cyflwyno'r holl newydd bethau hyn, gan ddweud - heb ddweud ar yr un pryd - nad ydyn nhw wir yn perthyn i'w byd hi, byd y plentyn, byd y Cymry pur, diniwed.
Y ffaith greulon yw y basa nhw'n berffaith hapus i gael eu gadael ar 么l yn eu merddwr, tra bo gweddill y byd yn symud ymlaen. Dyna swyn nofel am y gorffennol.
Ffaith greulonach yw bod yr ymlyniad hwn yn dal yno - yn yr awydd am yr hyn a fu, am bopeth fel yr oedd, am ysgolion bach yn dysgu'r un hen bethau yn yr un hen ffyrdd. . .
Mae'r byd sy'n cael ei ddarlunio wedi diflannu, ond mae'r darlunio'n cael ei wneud mewn llais clir a chrefftus. Biti ei fod o'n llais Gwynedd.
Cysylltiadau Perthnasol
Holi Bet Jones
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 91热爆 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|