|
Cofio Capel Celyn Cyfrol clirio'r byrddau!
Adolygiad Glyn Evans o Cofio Capel celyn gan Watcyn L Jones. Y Lolfa. 拢5.95.
Cyfrol clirio'r byrddau, gwneud pethau'n glir ydi hon.
Cyfrol rhoi'r record yn str锚t fel y byddai'r Sais yn dweud.
Yn amlwg bu rhai pethau a ddywedwyd ac a sgrifennwyd dros y blynyddoedd am hanes boddi Tryweryn yn cnoi'r awdur.
Yn rhannol y diffyg sylw a roddodd ef ei hun i ran ei chwaer, Elisabeth Watkin Jones, yn ysgrifennydd Pwyllgor Amddiffyn Capel Celyn ac, yn fwyaf arbennig, yr argraff a roddwyd o ran Plaid Cymru yn y frwydr i achub y cwm.
Ysgrifennodd Watcyn L Jones gyfrol Cofio Tryweryn ugain mlynedd yn ol ac mae'r ffaith iddo deimlo'n awr yr angen i gyhoeddi hon yn brawf iddo gael ei gythruddo gan rai pethau gan gynnwys rhan Gwynfor Evans ac is-bwyllgor Amddiffyn Capel Celyn a sefydlwyd o fewn Plaid Cymru.
Yn 么l Watcyn Jones cr毛wyd argraff i'r pwyllgor hwn gyflawni mwy nag a wnaeth mewn gwirionedd:
"Efallai i'r teitl roi'r argraff i rai darllenwyr papurau'r dydd fod yr is-bwyllgor yn gysylltiol 芒 Phwyllgor Amddiffyn Capel Celyn. Hefyd, hwyrach y gellir tybio i'r beirniadu hallt wthio swyddogion Plaid Cymru i ehangu ar yr honiad iddynt gyfrannu mwy nag a wnaethpwyd yn ystod yr ymgyrch.
"Yn wir, gellid dadlau iddynt wneud mwy o ddrwg na ddaioni," meddai.
Yn anghydweld Mae Watcyn Jones yn anghydweld hefyd, meddai, 芒 'r hyn a ddywed Rhys Evans, cofiannydd Gwynfor Evans, yn ei lyfr Rhag Pob Brad am y pwyllgor lleol yng Nghwm Tryweryn:
"Roedd beirniadaeth lem o'r pwyllgor yn y gyfrol a cheir yr argraff i'r awdur gyrraedd y farn mai Gwynfor a greodd ac a gynhaliodd pob gwrthwynebiad yn yr ymgyrch - er nad oedd yn aelod llawn o'r pwyllgor lleol, ond yn un o ddeg a wahoddwyd i fod yn Llywydd Anrhydeddus," meddai.
Dywed hefyd na chafodd nifer o'r trigolion lleol y clod haeddiannol a hynny am y rheswm "nad oeddynt yn wybodus ym myd gwleidyddiaeth a phrotestio cyhoeddus".
Yn wir, mae'n awgrymu hefyd i'r elw a wnaeth y Blaid mewn cyhoeddusrwydd allan o'i chysylltiad 芒 'r ymgyrch fod yn fwy na'r hyn a gyflawnodd y Blaid dros y trigolion.
"O amgylch y Bala clywid yn aml fod Plaid Cymru wedi derbyn llawer mwy nag a wnaethant ar ran y gwrthwynebwyr," meddai gan ychwanegu:
"Bu ei hymyrraeth yn fwy o rwystr nag o les ym marn amryw o sylwebyddion.
"Er enghraifft, tybid i benderfyniad Gwynfor Evans i arwain gorymdaith trigolion Capel Celyn yn Lerpwl . . . fod yn gamgymeriad o bwys," meddai.
'Fel cawr'
Mae'n dyfynnu hefyd Gwynfor Evans yn dweud yn ei hunangofiant Bywyd Cymro am J E Jones yn gweithio "fel cawr" yn anfon llythyrau yn enw'r Pwyllgor Amddiffyn at yr holl gynghorau lleol a'r capeli ac eglwysi, undebau a chymdeithasau".
Ond ym marn Watcyn Jones:
"Mae'n siom na ellir deall a derbyn y fersiwn yma o'r hyn a ddigwyddodd. Ysgrifenyddes y Pwyllgor Amddiffyn a gyfansoddodd a llofnodi'r dogfennau (sy'n dal ar gael i'w gweld), gyda'i thad yn trefnu'r cyfeirio a'r postio."
Mae'n awgrymu hefyd i amlygrwydd y Blaid ei gwneud yn anodd i bleidiau eraill, fel Llafur, gefnogi'r trigolion yn eu safiad yn erbyn Lerpwl.
Gwneud iawn Mae'r gyfrol yn ymdrech amlwg hefyd i wneud iawn am y diffyg cydnabyddiaeth a roddodd ef ei hun, yn ei gyfrol flaenorol, i'w chwaer am ei llafur effeithiol a diflino yn ysgrifennydd y pwyllgor amddiffyn lleol.
Mae'n sicr yn unioni'r cam hwnnw a chawn ddarlun o wraig weithgar, hynod iawn.
Un arall y mae'n hael ei ganmoliaeth iddo ydi Arglwydd Ogwr - y Cyrnol David Rees-Rees Williams a fu cyn ei ddyrchafu i D欧'r Arglwyddi yn aelod seneddol Llafur.
"Yr oedd yn ddyn 芒 daliadau rhyddfrydig," meddai gan s么n am "ei gonsyrn am frodorion llai breintiedig diffeithwch y Kalahari yn Affrica a gofynion gwleidyddol pobl Sarawak yn y Dwyrain Pell."
"O ganlyniad i'w gysylltiad ag Elisabeth a'i gydymdeimlad ag achos 'Trigolion Tryweryn' daeth yn wybodus iawn. Gyda'r ffeithiau ar flaen ei fysedd beirniadodd yn hallt gynlluniau Lerpwl ar y cyfle cyntaf yn Nh欧'r Arglwyddi," meddai.
Ni yw mor ganmoliaethus o'r aelod seneddol lleol;
"Gyda'r aelod seneddol lleol T W Jones . . . bu ei ymateb ef yn siom enfawr," meddai.
Mae ei ymateb i amryfal gymeriadau'r 'ddrama' bob amser yn ddifyr.
Difyr hefyd ei ddisgrifiad o'r ddiwrnod yr agoriad.
Er yn gyfrol fer iawn mae hi'n un sy'n cynnwys llawer i gnoi cil drosto am un o gerrig milltir hanes Cymru yr ugeinfed ganrif. Cyfrol hwylus sydd hefyd yn gyfle inni ail fyw peth o'r hanes a dotio at y casgliad gwych o luniau a gynhwysir.
Cysylltiadau Perthnasol
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 91热爆 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|