|
Bachgen yn y M么r Mwy o bleser na theledu!
Adolygiad Glyn Jones o Bachgen yn y M么r. Addasiad Elin Meek o Boy Overboard gan Morris Gleitzman. Gomer. 拢4.99.
Mae'r trosiad hwn gan Elin Meek o'r nofel Awstralaidd Boy Overboard gan Morris Gleitzman yn un priodol iawn.
Nofel yw hi am deulu yn ffoi am eu bywydau a chyda mewnfudo yn bwnc llosg fe'i cyhoeddwyd ar adeg amserol iawn.
Jamal yw'r prif gymeriad, ac ef sy'n adrodd yr hanes; techneg effeithiol gan fod Jamal oddeutu'r un oed a'r darllenwyr yr anelir atyn nhw - rhyw 13 oed.
Hawdd fydd uniaethu 芒'i freuwddyd o fod yn chwaraewr p锚l-droed proffesiynol.
Dechreua'r nofel yn arbennig drwy gyferbynu dwy sefyllfa:
"Fi yw Manchester United ac mae'r b锚l gyda fi ac mae popeth yn dda.
Does dim mwg, na nwy nerfau, na stormydd tywod.
. . . Dyma Newcastle United yn rhuthro ataf i. Dw i'n osgoi'r dacl. Un bach yw Aziz ond mae'n gyflym ac mae'n dod amdanaf eto.
. . . Dw i'n gwenu, mynd heibio iddo, llywio'r b锚l o gwmpas gard olwyn hen gerbyd milwyr, a gweld mod i o flaen y g么l."
Enwau timau p锚l-droed Lloegr ond chwaraewyr gydag enwau Moslemaidd.
Er cymaint y cwynwn am y diwylliant Prydeinig yn y gornel hon o'r ddaear, gwelwn ei fod yn cynrychioli'r rhyddid eithaf i drigolion y nofel. Yn wir, sancteiddir p锚l-droed fel symbol o'r rhyddid hwn.
Mae'r ffaith fod y plant yn chwarae o amglych darnau o hen gerbydau rhyfel yn dangos goruchafiaeth y breuddwydion hyn dros yr awyrgylch rhyfelgar sy'n ganolog i'w bywydau.
Llwydda Elin Meek i gyfleu'r awyrgylch hwn yn ei haddasiad, y brawddegau byrion a'r cymalau tynn, y 'dyma' a'r 'dw i'n' rhoi naws 'sylwebol' i'r darn.
Hoelir ein sylw, a sylw'r cymeriadau ar y g锚m fel petai dim byd arall yn bodoli.
Dryllio'r awyrgylch Ond buan y gwelwn mai rhith yw hyn. Mae'r awdur yn dryllio'r awyrgylch gan ddod a ni, a'r cymeriadau, yn 么l i realiti rhyfelgar y wlad:
"'Jamal, Jamal. Dere'n glou! Mae dy chwaer ddwl wedi sefyll ar ffrwydryn tir.'"
Mae'r awdur yn hoff o orffen pennod gydag uchafbwynt fel hwn a daw 芒 chyffro i'r nofel a'n hysio i droi i'r dudalen nesaf.
Sylwch hefyd ar y modd yr addasir y ddeialaog. Mae mewn tafodiaith naturiol ac yn gwbl gredadwy.
Bygythiad, mentro, gobaith. Dyna dri o brif them芒u'r nofel gydag un yn plethu'n naturiol i'r llall ac fe'u datblygir wrth i'r gwahanol gymeriadau ymateb i'r sefyllfa y mae ynddi.
Dyna Bibi, chwaer Jamal, sy'n ymateb i'r bygythiad drwy fygwth:
"Mae Bibi, a'i llygaid yn fawr gan ddicter, yn taflu carreg arall.
'Y talpiau meddal o gaca camel,' gwaeddai ar y tanc. 'Rhowch ein p锚l nol i ni.'"
Dyma enghraifft o ddawn yr awdur i greu cymeriad heb ddisgrifio ond trwy adael i'r cymeriadau fod yn nhw eu hunain a thrwy eu hymateb naturiol i sefyllfaoedd.
Daw diniweidrwydd herfeiddiol Bibi 芒 syndod i'n llygaid a gw锚n i'n gwefusau. Hi yw fy hoff gymeriad, ac yn fy marn i, cymeriad 'gorau'r' nofel.
Darllenwn am weithredoedd y cymeriadau eraill. Darllenwn am rai Bibi, a rhyfeddu. Er hyn, maent yn gwbl gredadwy.
Bod yn deg Dywed seicolegwyr fod canfyddiad plant oed Bibi o decwch ac anghyfiawnder yn hynod o gryf.
Yn ogystal, daw Bibi 芒 llais y ferch i'r nofel, sy'n golygu bod y nofel gan ei gwneud yn gwbl addas i ferched ac i fechgyn.
Nid yn unig mae Bibi yn chwarae p锚l-droed, sy'n waharddedig i ferched, ond yn gwneud hynny yn well na'r bechgyn.
Mae pawb eisiau chwaer fach fel hon. Wrth gwrs, rhaid rhoi llawer o'r clod i'r addasydd am hyn wrth iddi lwyddo i drosglwyddo ffraethineb Bibi i'w throsiad.
Fodd bynnag, mae'r nofel yn frith o gyd-ddigwyddiadau cwbl afreal. Jamal a'i deulu am fynd i Awstralia ac yna, syndod, syndod, yn gweld dyn o Awstralia yn y gwersyll ffoaduriaid.
Yn fwy annhebygol fyth, pan fo'u cwch ar fin suddo ar arfordir yr ynys, dyma'r dyn a ddaw i'w hachub!
Ond o gofio nad ar gyfer pobl h欧n y sgrifennwyd y nofel dichon fod beirniadu hyn yn annheg ac y bydd cyd-ddigwyddiadau o'r fath yn ychwanegu at y cyffro i ddarllenwyr iau.
Gwirioneddol wych Mae ambell disgrifiad gwirioneddol wych yn y nofel, megis y disgrifiad o bobl Awstralia:
"Mae nhw'n dechrau chwerthin y peth cyntaf yn y bore a dydyn nhw ddim yn stopio am ddwy awr ar 么l iddyn nhw fynd i gysgu yn y nos."
Daw disgrifiadau o'r fath 芒 hiwmor i'r nofel, a chredaf eu bod cyn bwysiced a phlot diddorol - yn enwedig i blant.
Fe'm plesiwyd hefyd gydag ymdrech yr addasydd i Gymreigio'r nofel.
Mae ei brawddegau yn gyforiog o briod-ddulliau fel "Wrth gerdded gan bwyll bach" ac "脗'm gwynt yn fy nwrn."
Mae'r cyfuniad hwn o blot cyffrous, mynegiant dychmygus a Chymraeg naturiol yn gwneud y nofel yn un rhagorol, a bydd ei darllen yn brofiad milwaith mwy cyffrous na gwylio unrhyw beth ar y teledu!
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 91热爆 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|