|
O Clermont i Nantes Dyddiadur un sy'n gweld y bylchau
Adolygiad Wyn Gruffydd o, Stephen Jones - O Clermont i Nantes gan Stephen Jones a Lynn Davies. Y Lolfa. 拢8.95
Noswaith 'y mhen-blwydd i ar ddechrau'r flwyddyn oedd hi ac roedd yna bedwar mewn hwyliau da o gwmpas bwrdd bwyd ym mwyty'r Polyn ger Nantgaredig; Simon Wright, perchennog y bwyty oedd un ohonyn' nhw; Robert Williams perchenog cwmni adeiladu ac un o brif noddwr y Sgarlets, a haneri clwb y Strade, Dwayne Peel a Stephen Jones y tri arall.
Tase Robert Williams ddim yn y cwmni mi fyddwn i wedi cymryd yn ganiataol mai yno fel fi i fwynhau pryd o fwyd da yn eu hoff fwyty oedd yr haneri rhyngwladol ond gan fod Robert yno hefyd synhwyrais fod yna ddatblygiad ar waith.
Dyna lle y bum i wedyn am ddiwrnodau yn crafu pen ac yn meddwl am bob gwesty a bwyty gwag neu ar werth yn Shir G芒r a Gorllewin Morganwg.
Roeddwn i wedi anghofio am y peth nes i fi ddarllen dyddiadur O Clermont i Nantes, dyddiadur blwyddyn ym mywyd Stephen Jones, a chael taw datblygiad arfaethedig y T欧 Pwmp ger Doc y Gogledd yn Llanelli oedd yn cael ei drafod - mewn manylder.
Does gen i ddim amheuaeth erbyn hyn - ac eto gan dynnu ar yr hyn a ddarllenais i - taw yn Clermont Ferrand y daeth y syniad am agor bwyty i Stephen gan ei fod e wedi cael cip ar ffordd wahanol o fywyd chwaraewr rygbi proffesiynol mas yn Ffrainc.
Tu fas i'r g锚m Yn wahanol i nifer o'i gyfoedion mae'r maswr rhyngwladol wedi meithrin diddordebau y tu fas i'r g锚m gan feddwl am y cyfnod hir hwnnw wedi hongian y sgidie i fyny.
Mae hi'n amlwg fod gan Stephen Jones lygad am fusnes yn ogystal ag am y "bwlch", ac fe wn i nawr fod Dwayne Peel yn rhannu ei weledigaeth.
Fel mae'r broliant yn awgrymu, "Ar 么l cael ei ddewis yn faswr y flwyddyn yn Ffrainc a dod yn arwr i gefnogwyr Clermont Auvergne, roedd dod yn 么l i'r Strade a chael ei benodi'n gapten Cymru yn dipyn o newid byd i Stephen Jones."
Blwyddyn maswr Yn O Clermont i Nantes cawn gipolwg ar flwyddyn ym mywyd maswr y Sgarlets a Chymru, a does dim amheuaeth ei fod e wedi addasu yn gyflym iawn i fywyd chwaraewr proffesiynol yn Clermont Auvergne ynghyd 芒'r agweddau cymdeithasol sydd yn rhan annatod o fywyd chwaraewr rygbi yn Ffrainc.
Ond gwneud penderfyniad fu raid a dod yn 么l i Gymru ar adeg dyngedfennol yn ei yrfa. Dod yn 么l gan wybod y byddai dan y chwyddwydr gan amlaf, yn enwedig pan fo pethe'n mynd o chwith ar y cae.
Ac yn ystod y flwyddyn a aeth heibio fe aeth pethau yn go chwith yn gyson - yn anffodus i d卯m rygbi Cymru.
Sonnir am fanylder y paratoi a'r dadansoddi manwl cyn ac ar 么l pob g锚m - ar lefel clwb ac yn rhyngwladol, a chawn ddarlun byw o'r drefn o ddydd i ddydd wrth orfod ufuddhau i ddau feistr - y Sgarlets ac Undeb Rygbi Cymru.
Rhannu gorfoledd Cawn rannu'r gorfoledd wedi buddugoliaethau'r Sgarlets yn Ewrop megis y fuddugoliaeth ryfeddol mas yn Toulouse a'r frwydr yn Ravenhill yn erbyn Ulster.
Unwaith eto fe ellais i uniaethu gyda Stephen pan ar ymweliad 芒 Ravenhill yn gynharach yn y tymor y dywed iddo gael, "Cwmni clos dau o'u cefnogwyr nhw, yn llythrennol o dan 'y nhrwyn i, wrth i fi gerdded y deugen llath i'r stafell newid ar ddiwedd y g锚m. Ar hyd y ffordd fe nethon nhw 'yn atgoffa i pa mor anobeithiol ro'n i fel maswr a chyment gwell fase hi i bawb taswn i wedi aros yn Ffrainc".
Fe gefais inne brofiad tebyg wrth anelu at yr un stafell newid i chwilio am gyfweliad un noson yn Ravenhill ac yn siarad Cymraeg gyda chydweithiwr.
Anogaeth i fi siarad iaith heblaw iaith fy mam, gan ddymuno iddi hithau gyfarfod a fy nhad naturiol a phriodi rwy'n meddwl oedd sentiment y g诺r 'bonheddig' wnaeth groesi fy llwybr i!
Rhwydd a chyflawn Mae O Clermont i Nantes yn darllen yn rhwydd ac i unrhyw chwareaewr ifanc sydd a'i fryd ar ddilyn gyrfa broffesiynol dyma gyfrol sy'n rhoi darlun cyflawn o fywyd dydd i ddydd chwaraewr proffesiynol ar y lefel ucha' a'r aberth a'r ymroddiad sydd ei angen os am aros ar y brig.
Roedd hi'n dipyn o fenter i Stephen gytuno ar gadw dyddiadur o flwyddyn brysura'i yrfa.
Wyddai e ddim flwyddyn yn 么l beth oedd yn ei aros ond mae e' yn gwbl onest ei ddadansoddiad.
Cawn yr uchelbwyntiau a'r iselbwyntiau megis y siom o golli yn rownd gyn-derfynol Cwpan Ewrop yng Nghaerl欧r, ei frwydr bersonol gydag anafiadau, rhwystredigaethau Pencampwriaeth y Chwe Gwlad, y gapteniaeth, y brathu a'r corddi cyson yn y Wasg am bwy ddylai neu na ddylai wisgo crys 10 ei wlad, Stephen ynteu James Hook, ac wrth gwrs siom Cwpan y Byd.
Y Wasg Am fod dan chwyddwydr y Wasg a'r Cyfryngau yng Nghymru, mae Stephen yn cydnabod fod hynny yn anorfod ond dyw e ddim yn dal yn 么l yn ei feirniadaeth ohonyn' nhw chwaith.
"Ma beirniadaeth heb gyfiawnhad yn 'yn neud i'n grac, yn fwy na dim am fod hynny'n boen i'r teulu " meddai.
Rhagor i'w ddweud Doeddwn i ddim yn disgwyl rhyw wirioneddau mawr ond rwy'n synhwyro fodd bynnag wrth ddarllen "rhwng" y llinellau y gallai Stephen Jones fod wedi dweud mwy.
Rwy'n barod i aros am yr hunangofiant sy'n siwr o ddod wedi i Stephen orffen chwarae ond dw i ddim mewn brys i gael gwybod y cyfrinachau hynny!
Mae Wyn Gruffydd yn sylwebydd rygbi rhyngwladol ar S4C ac yn gohebu ar rygbi i Y Cymro.
Cysylltiadau Perthnasol
Gwefan Chwaraeon 91热爆 Cymru
Atgofion Strade
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 91热爆 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|