91热爆

Explore the 91热爆
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

91热爆 91热爆page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Lili Dan yr Eira
Dychwelyd i 'ffatri fendio'
  • Adolygiad John Gruffydd Jones o Lili Dan yr Eira gan Meinir Pierce Jones. Gwasg Gomer. 拢8.99 330tud.


  • 'Ceisio dygymod,' yw thema ganolog y nofel swmpus yma gan Meinir Pierce Jones, ac mae i'r dygymod hwnnw ei ganlyniadau sy'n llawer mwy na chladdu'r gorffennol.

    Mae Nant - enw diddorol ar ferch - y prif gymeriad newydd golli ei thad oedd yn feddyg teulu, ac yn ei ewyllys mae hi'n etifeddu meddygfa'r Glyn, neu'r "ffatri fendio" deuluol.

    Clawr y llyfr Ond atgofion cymysg ac eitha' chwerw sydd ganddi am ei phlentyndod yno a hynny'n deillio o'r ffaith iddi fethu 芒 gwireddu ei breuddwyd o fod yn feddyg ac iddi adael yn un ar bymtheg oed ac yn feichiog.

    Mae clirio'r Glyn yn golygu llawer iawn mwy na gwagio cypyrddau, mae'n golygu ymdopi 芒'r gorffennol a'r presennol anodd ac mae gan yr hen gartref gyfrinachau lu i'w datgelu, yn enwedig pan ddaw Nyrs Beti a fu'n gweithio gyda thad Nant ati i aros.

    Yn yr ymdopi fe ddaw gwendidau a chryfderau cymeriad Nant a rhai eraill o'r teulu i'r amlwg.

    Ail nofel
    Dyma ail nofel yr awdur i oedolion, ac unwaith yn rhagor fe amlygir dawn i greu cymeriadau credadwy - a chymhlethdod y cymeriadau hynny sy'n rhoi cig a gwaed i'r cyfanwaith.

    Nid nofel i ruthro drwyddi yw hon chwaith, nid yn unig oherwydd cymhlethdod y dirgelwch a'r emosiwn sydd ynddi ond am mai hawdd fyddai colli llinyn y stori gref a'r datgelu cywrain sy'n cydio'r cyfan.

    Pontio dau gyfnod
    Mae hi hefyd yn nofel sy'n pontio dau gyfnod; y ddoe cymunedol clos oedd yn gyfarwydd i lawer a'r Cymreictod bregus sydd o fewn ardaloedd heddiw.

    Fe ddaw hynny i'r amlwg yn y ddeialog fel y gwelir yn nywediadau pert y genhedlaeth h欧n, a hefyd yn iaith amrwd y to iau.

    Amlygir y newid mewn agweddau hefyd yn y duedd sydd gan un genhedlaeth i guddio pechodau ddoe, tra bo ymddygiad eraill yn llawer mwy agored. Mae cynildeb y disgrifio yma yn un o gryfderau'r nofel i mi.

    Hoffais yr enw Cyndyn ar y fferm lle mae Ed, g诺r Nant yn ceisio cael dau ben llinyn ynghyd o dan amgylchiadau digon anodd, ac mae'r enw nid yn unig yn cyfleu hynny ond hefyd y tensiwn a'r methu gollwng sydd yn eu perthynas.

    Hen ddywediadau
    Braf hefyd oedd gweld hen ddywediadau fel, "Eisiau gras a blacin" a "Nes penelin na garddwn" yn rhoi lliw i'r ddeialog ac mae sgwrs y dyn Cyngor yn hynod ddychanol a chrafog.

    Mae yma ar adegau frawddegau sy'n tueddu i fod yn hirwyntog a syndod oedd gweld ambell lithriad ieithyddol ond mae hon yn nofel apelgar ac fe fyddai'n ddeunydd pwrpasol iawn ar gyfer drama deledu.

    Diolch i Wasg Gomer am glawr mor ddeniadol hefyd, ac mae hynny'n bwysig o ran gwerthiant.
    Do, fe gefais flas.


    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu L貌rd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    L么n Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Gl芒n i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    S么n amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 91热爆 Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the 91热爆 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy