| |
|
|
|
|
|
|
|
Nid Roc ... ond Rol O fro'r chwareli i Benigamp
Adolygiad Gwyn Griffiths o Nid Roc ... ond Rol. Hunangofiant Rol Williams. Gwasg y Bwthyn, 拢6.95.
Mae clip sain ar ddiwedd yr adolygiad.
Chefais i erioed y pleser o gyfarfod Rol Williams - er bod ei enw a'i lais yn adnabyddus i mi.
Fe'i cofiaf fel un o griw ffraeth t卯m y Gogledd o Penigamp - un o gyfresi poblogaidd Radio Cymru 'slawer dydd.
Hyfryd cael darllen ei hunangofiant a rhyw fath o roi cnawd ac esgyrn i'r llais.
Cafodd blentyndod a magwrfa ym Mrynrefail, bro ddiwydiannol y chwareli ac yn nhraddodiad yr holl ddiwylliant yr ydym yn ei gysylltu 芒'r ardaloedd hynny. Diwylliant capel ac eisteddfod a'r cyfarfodydd cymdeithasol.
Mae'n anochel fod rhywun o'm cenhedlaeth i, wrth ddarllen cyfrol fel hon, yn cymharu ei brofiadau ei hun 芒 phrofiadau'r awdur - a phethau rhyfedd yw'r rheini yn aml!
Dau driawd I feddwl bod disgyblion Ysgol Brynrefail yn gorfod eistedd yn llonydd am ddwyawr unwaith y flwyddyn i ddiodde triawd llinynnol o'r enw The Bangor Trio er enghraifft - fgan mai Y Dorian Trio fyddai'n merwino clustiau plant ysgolion uwchradd Sir Aberteifi.
Tybed ai yr un triawd oedden nhw, dan enw arall yn Sir Gaernarfon?!
Rhyfedd o beth nad yw plant heddiw'n hel mwyar duon. Cefais y profiad yr haf yma o blentyn yn gofyn imi "Odi chi'n gallu byta nhw, syr?"
Ond cymydog yn s么n wrtha i fel y bydde glowyr oedd yn gorffen shift ganol prynhawn a mynd allan i'r mynydd i hel mwyar.
Cawn gan Rol Williams ddisgrifiadau o'r chwaraeon plant, wedyn gan beri imi holi, tybed a yw'r hen chwaraeon Cymreig a Chymraeg wedi diflannu'n llwyr o iardiau ysgolion y br枚ydd Cymraeg erbyn hyn?
Yn yr awyrlu Cafodd brofiadau diddorol yn yr awyrlu adeg y rhyfel, gan gynnwys cyfarfod a dod i adnabod rhai o b锚l-droedwyr enwog iawn y cyfnod.
Mae un stori hynod o drist am gyfaill a chwaraewr disglair o'r Alban.
Adeg y rhyfel a'r deng mlynedd wedi hynny yr oedd yn orfodol i bob bachgen ifanc, fwy neu lai, dreulio cyfnod yn y Lluoedd Arfog ac rwy'n tybio i lawer elwa llawer o'r trefniant drwy gael profiadau a chyfarfod pobol na fydden nhw byth wedi dod i'w hadnabod fel arall ac mae'n amlwg i Rol Wiliams wneud yn fawr o'r cyfle hwnnw.
Nosweithiau llawen Hon a'r bennod am ei brofiadau yn arwain part茂on noson lawen yw rhai difyrraf y llyfr ac fe hoffais y stori am Napier Williams - rwyn tybio mai dyna'r Napier rwy'n ei gofio'n drefnydd Clybiau Ffermwyr Ieuanc yn Sir Gaerfyrddin - yn canu Arafa Don mewn noson lawen ym Mhenmacho a chael andros o fraw o weld Ritchie Thomas yn y gynulleidfa.
O blith y nifer o gerddi sy'n britho'r gyfrol dylwn nodi'r un i gofio'i ddiweddar briod, Gwenlli, a fu farw y llynedd a hefyd ei fersiwn ef ei hun yn null y Co Bach o Llongau Madog.
Stagio'n miglo un deg tri O longa' bach o cei bach ni, Stagio Madog - dewr o go Ordro pawb i neud fel fo; Mynd y mae i roi ei begla
Ar le na stagiodd neb tro d'wtha, A'tur e'byd paid a son Ydi stemar bach Sir F么n.
Fe gafodd sawl parod茂wr a pherfformwyr hwyl gyda Llongau Madog dros y blynyddoedd - ond rwy'n hoffi hwnna'n arbennig.
Deuawd Diddorol gweld, hefyd, y cyfeiriadau at raglenni teledu poblogaidd fel Hob y Deri Dando a chanfod iddo unwaith ganu deuawd gyda Myrddin - g诺r Rosalind ac aelod o Hogia'r Wyddfa.
Mae yna sawl stori dda am droeon trwstan, un neu ddwy dda iawn am Penigamp pan aeth y gyfres ar y teledu.
Diddorol hefyd cael fy atgoffa am Deg Uchaf Y Cymro fu'n eitha poblogaidd un adeg.
Cyfrol ddifyr am gymdogaeth dda gan un fu, ac sy'n, was da i'r gymdogaeth honno.
Yn ystod ei sgwrs mae'n cyfeirio at:
Denu cystadlaethau rhwyfo Gemau'r Gymanwlad 1958 i Lyn Padarn.
Syr Thomas Parry dan deimlad.
Yn yr RAF
Sgrifennu at Trevor Ford.
Neges i Mr Hitler.
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 91热爆 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|
|