91热爆

Explore the 91热爆
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

91热爆 91热爆page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Blas Cas
Nofel ar frig y llanw yng Ngwent
  • Adolygiad Grahame Davies o Blas Cas gan Ion Thomas. Cyfres Whap. Gwasg Gomer. 拢4.99


  • Wrth ymweld 芒 Chasnewydd, fe ddaw rhywun yn ymwybodol o effeithiau llanw a thrai.

    Weithiau mae Afon Wysg yn llawn at ei glannau, ac yn gydymaith ariannaidd i ganolfan gelfyddydau newydd sgleiniog Glanyrafon.

    Ar adegau o drai, aceri o laid sydd yn yr un lle, hagr i'r llygaid dynol efallai, ond hyfrydwch pur i'r adar arfordirol sy'n pigo'u cynhaliaeth o'r glannau budron.

    Llanw a thrai
    Hanes o lanw a thrai a fu yn hanes y Gymraeg yn yr ardal hefyd.
    Rai blynyddoedd yn 么l, cefais y pleser o adolygu llyfr Glyn Tegai Hughes ar y bardd Islwyn a fu'n ysgrifennu yn ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg, a synnais o ddarllen am gyd-destun cymdeithasol y bardd a darganfod sut y bu Gwent y cyfnod, gan gynnwys Casnewydd, yn ferw o weithgaredd ddiwylliannol Gymraeg.

    Ond buan y ciliodd llanw'r iaith.
    Ganrif yn ddiweddarach, a'r trai wedi cyrraedd ei isafbwynt, roedd cyngor sir Gwent yn gwahardd y Brifwyl o'i thiriogaeth oherwydd ei rheol Gymraeg ac nid oedd addysg Gymraeg yn yr ardal yn fawr fwy na breuddwyd.
    Wel, fe drodd y llanw eto, gyda phrifwyl Casnewydd 1988 yn symbol o'r modd y bu tro ar fyd. Bellach fe geir ysgolion Cymraeg ledled yr hen sir. Yn y diwedd, yr elyniaeth, nid yr iaith, a dreiodd.

    Clawr y llyfr Gwelais dystiolaeth o'r adfywiad hwn a'm llygaid fy hun wrth imi fynychu lansiad nofel gyntaf Ion Thomas, Blas Cas, yn Rodney Parade, cartref Clwb Rygbi Dreigiau Casnewydd.

    Roedd y lle dan ei sang: dau fachgen ifanc yn chwarae cerddoriaeth fyw Gymraeg yn y cefndir, criw ffilmio a cherbyd lloeren yn gwneud eitem fyw i Wedi Saith ar S4C, a llond y lle o bobl ifanc o Ysgol Gyfun Gwynllyw ym Mhontypwl, lle mae'r awdur yn bennaeth adran y Gymraeg.

    Rhoi gobaith
    Roedd y cyfan yn rhoi gobaith y byddai pobl ifanc yr ardal yn ailfeddiannu'r hen ddiwylliant.

    Y gobaith hwnnw, mae'n amlwg, sydd y tu 么l i'r nofel, a luniwyd ar gyfer pobl yn eu harddegau, ac sydd wedi ei lleoli yng Nghasnewydd.

    Nid Casnewydd y byddai Islwyn wedi adnabod llawer arni yw hon ychwaith: un cyfeiriad wrth fynd heibio sydd at gapel - un cadarnhaol serch hynny - ac os oes 'na unrhyw beth sy'n ysgogi angerdd i'r bachgen yn ei arddegau sy'n brif gymeriad, yna rygbi yw hwnnw.

    O - a merched wrth gwrs, rhywbeth, erbyn meddwl, y buasai bardd Y Storom efallai wedi cydymdeimlo ag ef.

    Casnewydd gyda phwyslais ar y 'newydd' yw hon. A chyda rhywfaint o'r 'cas' hefyd. Gyda stori yn ymwneud 芒 chynllwyn i ddwyn cyffur meddygol, a chyda chriw o hoodies yn gymeriadau cyson, ceir digon a glatsio a chwffio, dianc a dwyn. Digon, yn wir i fodloni'r union farchnad yr anelir y llyfr ati.

    Wrth ei darllen, gan droi o un digwyddiad carlamus i'r llall a chael fy hyn yn cydymdeimlo 芒'r prif gymeriad, Dafydd, ac yn dymuno iddo lwyddo i ddianc rhag crafangau giangiau troseddol rhyngwladol a phrifathrawon dicllon ill dau, cefais fy hun yn diolch nad oedd yr awdur wedi oedi gormod wrth ddisgrifio awyrgylch a chynefin.

    Pleser
    Cefais fy atgoffa o'r pleser, a'r teimlad o ymlacio, a brofais yn yr ysgol ers talwm, yn darllen llyfr antur o'r enw Dychweliad y Swastika. O'r diwedd, meddyliais, llyfr Cymraeg lle mae pobl yn gwneud pethau go iawn, fel saethu at ei gilydd a darganfod cynlluniau rhyngwladol cudd yn digwydd yn eu hardal leol.

    Hynny yn lle cuddio mewn tas gwair neu ddwyn capiau stabal eu gilydd neu beth bynnag oedd yn cyfri fel cyffro yn y cefn gwlad lle roedd cynifer o nofelau Cymraeg fel petaent wedi eu gosod.

    Dwyn cyfrinachau
    Nid neo-Nats茂aid yw'r gelynion yn stori afaelgar Ion Thomas. Yn hytrach, rhai o ddwyrain Ewrop yw'r dihirod y tro hwn ac nid adfer y swastika yw'r nod, ond dwyn cyfrinachau cemegol a fuasai'n golygu ffortiwn ar y farchnad ddu.

    'Dydy'r digwyddiadau ddim yn gredadwy, wrth gwrs, dim mwy nag yw digwyddiadau rhai o'r stor茂au gorau. Ond mae'n ddarllenadwy, mae hynny'n sicr. A rhywbeth perffaith gredadwy y dyddiau hyn yw bod y Gasnewydd yn gallu bod yn genfdir naturiol i nofel ifanc, hwyliog, a Chymraeg.

    Ie, mae'r nofel hon yn profi bod y llanw'n dod i mewn eto hyd glannau'r Wysg. A'r tro hyn, y mae gobaith y bydd Casnewydd, fel ei chwaer fawr o brifddinas ychydig i'r gorllewin, yn llwyddo i gadw'r dyfroedd y tu 么l i forglawdd, yn benllanw bythol.


    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu L貌rd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    L么n Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Gl芒n i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    S么n amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 91热爆 Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the 91热爆 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy