| |
|
|
|
|
|
|
|
Dalen - Straeon stribed yn y Gymraeg Marchnad sydd ar gynnydd yng Nghymru
Yng Nghymru y duedd yw i feddwl am straeon stribed fel difyrrwch i blant yn unig ond y mae un cyhoeddwr yn ein prysur argyhoeddi y gall 'llyfrau comics' fod yn ddeunydd darllen penigamp i oedolion hefyd.
Yn hynny o beth yr ydym ymhell ar 么l darllenwyr ar y Cyfandir yn 么l Alun Ceri Jones a sefydlodd y cwmni cyhoeddi Dalen rhyw bum mlynedd yn 么l.
Dywedodd fod traddodiad cryf a chyfoethog o ddarllen llyfrau straeon stribed yn enwedig yn y Ffrangeg.
Trosiadau o'r llyfrau hynny yw'r rhan fwyaf o'r llyfrau a gyhoeddir gan Dalen - yn amrywio o stori gowboi i chwedlau am y Brenin Arthur yn ogystal 芒 chyfrolau ar gyfer plant.
"Yn y Ffrangeg mae marchnad anferth i'r math yma o lyfrau. Maen nhw'n gyffredin iawn yn Ffrainc ac yng Ngwlad Belg," meddai.
"Ond yng Nghymru yn y broses o greu marchnad ydym ni gan nad oes traddodiad o ddarllen straeon stribed ymhlith oedolion," meddai.
Ond ychwanegodd i'r ymateb i gyhoeddiadau Dalen fod yn hynod galonogol hyd yn hyn.
"Ydyn, maen nhw yn cael derbyniad yng Nghymru. Dydyn nhw ddim yn best sellers ond maen nhw'n dechrau ffeindio eu marchnad.
"Yn wahanol i Brydain ac America mae straeon stribed wedi bod yn rhan ganolog o ddeunydd darllen Ffrangeg ers diwedd yr Ail Ryfel Byd. Yng Nghymru mae'r diddordeb yn cynyddu. Dydy ni ddim yn disgwyl llwyddiant dros nos ond mae'r peth fel caseg eira yn casglu momentwm mwya'n byd o lyfrau sydd ar gael," meddai.
Mae ei ddiddordeb ef yn y cyfrwng yn mynd yn 么l i ddyddiau ysgol yn Ysgol Rhydfelen ger Pontypridd.
Disgybl yno oedd o pan ymddiddorodd gymaint yn straeon Asterix y penderfynodd eu trosi o'r Ffrangeg i'r Gymraeg ac yn 1976 cyhoeddodd Gwasg y Dref Wen y cyntaf o'r trosiadau hynny a chyhoeddwyd rhagor yn rheolaidd wedyn tan 1981.
"Yn Saesneg oeddwn i'n eu darllen gyntaf," meddai Alun Ceri Jones. "Ond wedyn troi at y rhai Ffrangeg gwreiddiol yn llyfrgell yr ysgol a sylweddoli beth oedd cyfoeth y llyfrau hyn ac wedyn mynd ati i'w cyfieithu i'r Gymraeg.
"Fe ddysgais i lot o fy Ffrangeg drwy wneud hynny," meddai.
I'r brifysgol yn Llanbedr-pont-Steffan yr aeth Alun Ceri Jones o Rydfelen a graddio yn y Gymraeg gan astudio wedyn y chwedlau Arthuraidd yn y cyfnod cyn Sieffre o Fynwy.
Dim rhyfedd felly mai llyfr stribed a gyhoeddwyd yn Ffrainc yn wreiddiol yw'r fersiwn o chwedl Arthur a gyhoeddir gan Dalen. Wedi ei gyfieithu gan Alun Ceri Jones a Dafydd Jones sydd yn cydweithio ag ef ar lawer o'i fentrau.
Mae'r ddau yn prysuro i bwysleisio mai llyfr ar gyfer "pob oed" yw hwn ac nid ar gyfer plant yn unig.
"Mae'r iaith yn wahanol yn y llyfrau stribed ar gyfer pobl h欧n o gymharu a'r rhai plant - mae'n fwy aeddfed a'r gystrawen yn fwy clasurol," meddai Alun Ceri Jones.
Ond yn yn yr holl gyhoeddiadau mae ansawdd yr arlunio o'r radd flaenaf gan arlunwyr blaenllaw y cyfrwng.
Gyda chymaint o lyfrau stribed yn cael eu cyhoeddi ar y Cyfandir mae'r safon yn amrywiol ond dywedodd Alun Ceri Jones fod Dalen yn ofalus i ddewis ond y goreuon a'r mwyaf safonol ran arlunwaith ac o ran storio.
Ymhlith llyfrau diweddaraf Dalen mae: Chwedl Arthur - Cainc Myrddin Wyllt a Chainc cadlywydd y Brythoniaid sy'n cynnig "darlun byw, anturus, gwaedlyd ac urddasol" o hanesion cynnar yr hen Frythoniaid gydag Alun Ceri Jones a Dafydd Jones wedi ymgynghori ag arbenigwyr iaith a hanes cynnar Cymru er mwyn sicrhau cywirdeb. 拢9.99
Llio - Y Dyddiadur Bach. "Yn giwt ac yn binc, mae dyddiadur lliwgar Llio yn llawn o'r hyn mae'n ei deimlo am serch, ei ffrindiau, ei chath fach Pws, a'i mam," meddai'r cyhoeddwyr am ddyddiadur merch ifanc yn ei harddegau sy'n ceisio rhoi trefn ar ei bywyd. Mae pob dalen yn y llyfr hwn yn 'stori' gyflawn o fewn y brif stori. 拢9.99.
Lewsyn Lwcus: Y Goets Fawr - Stori am y cowboi Lewsyn Lwcus yn gwarchod coets fawr yn ystod ei thaith ar draws y gorllewin gwyllt gyda chriw brith o deithwyr gan herio "mynydde uchel, anialwch crasboeth, ffyrdd mochedd ac Indiaid Cochion yn rhemp ac ar ben 'ny pob lleidr yn y wlad ar ein sodle ni." Adlais cryf o'r ffilm John Wayne, Stagecoach ac yn llawn o ddigwyddiadau disgwyliedig taith o'r fath. 拢9.99.
Cysylltiadau Perthnasol
Holi Alun Ceri Jones
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 91热爆 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|
|