|
Sibrydion o Andromeda Dychryn a chwerthin o'r gofod
Adolygiad Eiry Miles o Sibrydion o Andromeda gan Emyr Wyn Roberts. Gwasg Gwynedd. 拢7.95.
Ffuglen wyddonol yw nofel gyntaf Emyr Wyn Roberts - ond o gofio mai ef yw Himyrs - un o'n digrifwyr Cymraeg mwyaf poblogaidd a llwyddiannus - nid yw'n syndod fod tipyn go lew o hiwmor yn y stori hon.
Mae'r nofel yn adrodd hanes dyn ifanc digon cyffredin o'r enw Dafydd Gruffydd, sy'n taro ar ymwelwyr o alaeth bell wrth loncian un noson.
Tipyn o sinig yw Dafydd, sy'n amharod iawn i gredu ei fod yn wynebu '锚liyns' go iawn. Yn anffodus iddo, trosglwyddir gwybodaeth bwysig gan yr 锚liyns i'w gorff - gwybodaeth y mae ymerodraeth ddieflig y Maelai yn awyddus iawn i'w chael.
Gyda chymorth 锚liyns da o lwyth y Delyr, newyddiadurwraig chwilfrydig (a hardd) o'r enw Kate, a'i gyfaill Frankie, ceisia Dafydd ddianc rhag y Maelai ac atal y byd rhag bod yn rhan o'u hymerodraeth greulon.
Ffeithiau a ffantasi Yn 么l broliant y nofel, gwyddoniaeth yw maes yr awdur ac mae'n ymddiddori'n fawr mewn seryddiaeth. O ganlyniad, plethir ffeithiau am alaethau a phlanedau i ganol y stori, a gwelwn ddealltwriaeth gref yr awdur o'r gofod.
Serch hynny, ffantasi lwyr yw'r stori, ac mae'r awdur yn amlwg wrth ei fodd yn creu creaduriaid dychmygol - ac od eithriadol. Dyma'r creadur a w锚l Dafydd ar ddechrau'r nofel: Wyth llygad wedi'u gosod mewn parau o amgylch y pen, fel pedwar
wyneb cloc o amgylch t诺r, ac un p芒r yn syllu'n syth ar Dafydd. Ar ei
ben roedd talpyn bach o ffwr a edrychai fel pe bai wedi ei drin mewn
siop trin gwallt, ac yn gorffwys yn y canol roedd rhywbeth yn debyg i
ddiemwnt neu addurn.
UFOs Mae'r awdur hefyd yn gwbl gyfarwydd 芒 chwedloniaeth yr UFOs, fel y dengys y cyfeiriadau at ddigwyddiadau fel 'Roswell' a gwaith Arthur C. Clarke.
Ond yr hyn sy'n gwneud y nofel hon mor wreiddiol a gwahanol i'r doreth o nofelau sci-fi yn ein siopau llyfrau yw ei bod mor Gymreig.
Mae enwau'r 锚liyns, megis Gweddon a Blodeugan, yn adleisio enwau cymeriadau o'r Mabinogi (daw'r rheswm am hyn yn glir tuag at y diwedd).
Cawn gyfeiriadau at broblemau mewnlifiad a thensiynau rhwng Cymry a Saeson ac mae hyd yn oed y car chase cyffrous ar ddiwedd y nofel yn rhuthro trwy bentrefi bach Sir Ddinbych.
Er bod ynddi lawer o gonfensiynau nodweddiadol nofelau Americanaidd y genre, nofel wedi'i lleoli'n gwbl bendant yng ngogledd Cymru yw hon.
Cofi dre Cymeriad Frankie sy'n bennaf gyfrifol am hiwmor y nofel - 'Cofi dre' annwyl a braidd yn ddiniwed sy'n gweithio gyda Dafydd yng Nghwmni Peirianneg John Watcyn.
Fe'i bedyddiwyd yn Frankie Spook oherwydd ei fod wedi mopio'n llwyr ar UFOs ac mae bod yn rhan o antur fawr Dafydd a chael cwrdd ag 锚liyns go iawn yn brofiad cwbl wefreiddiol iddo.
Mae'r deialogau rhyngddo ef a Dafydd yn ddigri' iawn ar brydiau ac yn torri ar y disgrifiadau toreithiog o blanedau a nano dechnoleg ac 锚liyns, a all fod yn ddryslyd i rywun fel fi, sy'n anghyfarwydd a'r jargon.
Ambell neges Ar brydiau, ceisia'r awdur gyflwyno ambell neges ynghylch anoddefgarwch crefyddol a hysteria yngl欧n 芒 therfysgwyr.
Ar 么l cael ei weld yn ymddwyn yn amheus wrth geisio dianc rhag un o'r Maelai, caiff Dafydd ei gyhuddo o fod yn derfysgwr a'r rheswm dros hynny yw bod Nia, ei gariad, o dras Asiaidd.
Mae'r profiad o gwrdd ag 锚liyns hefyd yn gwneud i Dafydd gwestiynu ei gred (neu ei ddiffyg cred) ei hun.
Ond, yn aml, nid yw'r rhannau difrifol hyn yn taro deuddeg; fel petaent allan o le yng nghanol rhialtwch y nofel.
Cymeriad Dafydd Yn yr un modd, mae ymgais yr awdur i roi tipyn o sylwedd i gymeriad Dafydd yn aflwyddiannus. Ceir cyfeiriad brysiog at farwolaeth tad Dafydd mewn damwain yn y chwarel, a dirywiad ei berthynas ef a Nia wedi hynny ond ni ddown i'w adnabod mewn gwirionedd ac efallai y byddai'r nofel ar ei hennill o fod wedi'i hysgrifennu yn y person cyntaf, ac o roi cyfle inni gael golwg gliriach ar feddwl Dafydd.
Y diweddglo Nid yw'r diweddglo yn foddhaol o gwbl. Nid wyf yn un am ddiweddglo hapus o hyd ond mae'r diwedd yn swta a llawer gormod o fylchau a phroblemau heb eu datrys.
Beth fyddai tynged Nia? Pam nad oedd ffrindiau Dafydd o Dafarn y Llong yn pryderu amdano? Oedd gan Dafydd deulu o gwbl?
Serch hynny, nofel antur yw hi ac efallai imi ddisgwyl gormod ohoni. Wedi'r cyfan, mae hi'n ddarllenadwy, yn ddoniol ac yn gyffrous ac at ddant llawer o bobl ifanc yn eu harddegau (os na fydd eu rhieni'n poeni'n ormodol am y rhegi), a bydd helyntion Dafydd a Frankie Spook yn si诺r o ddod a gw锚n i wynebau ffans ffuglen wyddonol o bob oed.
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 91热爆 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|