|
Eisteddfodau Geoff Charles Cyfoeth o luniau steddfod rhwng rhwng y tri a'r saith degau
Llyfr sy'n si诺r o fod o ddiddordeb arbennig i bob eisteddfodwr yw un a gyhoeddwyd ar gyfer Eisteddfod Yr Wyddgrug, 2007 - casgliad o luniau eisteddfodol gan y diweddar Geoff Charles.
Yn dynnwr lluniau i'r Cymro ers Tridegau'r ganrif ddiwethaf gwelodd Geoff Charles nid yn unig yr Eisteddfod Genedlaethol yn ei holl agweddau ond hefyd holl amrywiaeth eisteddfodau eraill ar hyd a lled Cymru gan gynnwys Eisteddfod yr Urdd.
Bob blwyddyn bu'r Eisteddfod Genedlaethol yn ganolbwynt i'w weithgarwch fel tynnwr lluniau a newyddiadurwr.
Trydydd casgliad Hwn fydd y trydydd casgliad o'i luniau a gyhoeddwyd yn ystod y tair blynedd ddiwethaf; wedi eu dethol gan Ioan Roberts o gasgliad Geoff Charles yn yr Amgueddfa Genedlaethol.
Bu Ioan Rioberts yn cydweithio ag ef yn ohebydd ar Y Cymro ac yno pan dynnwyd rhai o'r lluniau.
Du a gwyn yw lluniau'r gyfrol i gyd ac yn ddarlun hiraethus o gyfnod yn ymestyn o 1939 i 1974.
"Yn ogystal 芒 chofnodi enwogion a selogion y cyfnod, mae'r llyfr yn amlygu dawn Geoff Charles i ddal ysbryd achlysur diwylliannol unigryw," meddai Ioan Roberts a gafodd y cur pen o orfod dewis o blith miloedd o luniau.
Rhan bwysig "Mae dros 120,000 o luniau negatif yn y casgliad, a miloedd o luniau Eisteddfodol, gan fod hyn yn rhan mor bwysig o waith Geoff Charles," meddai.
"Byddai wedi bod yn hawdd llenwi'r llyfr 芒'r lluniau ffurfiol, cadeirio a choroni'r beirdd yn yr Eisteddfod Genedlaethol, ond mae pobl yn mynd i'r Eisteddfod am bob math o resymau, i eistedd a siarad 芒 ffrindiau, neu i gerdded o amgylch y maes. Felly roeddwn am gynnwys lluniau anffurfiol o'r cyfnod hwnnw hefyd; doeddwn i ddim am adael y werin bobl allan o'r llyfr," meddai.
Ac mae'r lluniau yn amrywio o un o Paul Robeson yn annerch oddi ar y llwyfan i D J Williams a Cassie Davies yn cael eu dal ar ganol sgwrs.
Nodiadau difyr Er bod yr hanes y tu 么l i rai o'r lluniau yn eithaf amlwg mae Ioan Roberts wedi ychwanegu sawl nodyn difyr.
Er enghraifft ochr yn ochr 芒 llun o Nansi Richards, Telynores Maldwyn, a Catrin Jones, Telynores Mawddwy, yn1939, eglurir ei bod yn haws tynnu lluniau yn yr awyr agored yn y cyfnod hwnnw nag mewn pabell neu neuadd lle byddai'r golau'n wael.
Mae yma luniau bendigedig o enwogion fel Saunders Lewis, Cynan a Kate Roberts yn ogystal 芒 sawl llun cynnar o rai o s锚r mwyaf y sgrin fach fel Dai Jones, Dafydd Iwan ac Elinor Jones.
Perffeithio Ond er nad oes amheuaeth i Geoff Charles berffeithio'i ddawn i dynnu lluniau eisteddfodol gwych bydd yn syndod i rai sy'n ei gofio yn gweithio ar y maes i ganfod na chafodd ei fagu yn y traddodiad Eisteddfodol.
"A dweud y gwir, dw i ddim yn gwybod sawl Eisteddfod y bu Geoff ynddi cyn iddo ddechrau gweithio i'r Cymro ym 1936," meddai Ioan.
"Nid oedd yr Eisteddfod yn rhan fawr o'i fagwraeth ym Mrymbo, fel yr oedd i nifer o'i gydweithwyr, ac i'r darllenwyr hefyd. Ac eto, fe ddwedwn i ei fod wedi gwneud mwy nag unrhyw un arall yn y ganrif ddiwethaf i gofnodi traddodiad Cymreig yr Eisteddfod."
Eisteddfodau Geoff Charles gan
Ioan Roberts.
Y Lolfa.
拢12.95
Cysylltiadau Perthnasol
Ewch i weld detholiad o luniau o'r llyfr
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 91热爆 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|