|
T芒n yn fy Nghalon Gormod o ddisgwyl am y sbarcs
Adolygiad Gwyn Griffiths o T芒n yn fy Nghalon, hunangofiant Hywel Heulyn. Gomer. 拢7.99.
Wn i ddim ai arnaf i mae'r bai ond fel gyda sawl llyfr Cymraeg y dyddiau hyn yr oeddwn wedi mynd drwy sawl pennod cyn cynhesu at hunangofiant Hywel Heulyn Roberts, T芒n yn fy Nghalon.
Yn ddiamau y mae yma d芒n ond rhaid aros cyn dod at sbarcs!
Un broblem, rwy'n meddwl, yw fod cyfrol o lai na 200 o dudalennau yn annigonol i ddyn a wnaeth gyfraniad mor fawr yn ystod bywyd mor amrywiol, mentrus a diddorol.
Rwy'n amau y bu yna docio di-drugaredd ar adegau er mwyn cadw'r gyfrol o fewn rhyw derfynau neu'i gilydd.
Cawn lu o ffeithiau'n gynnar, a hwyrach i'r ysgafnder fynd ar goll wrth geisio cyfyngu hyd y gyfrol ac rwy'n rhyw amau nad Hywel Heulyn, na Ioan Roberts - a fu'n cynorthwyo i sgrifennu'r gyfrol - na'r cyhoeddwr sydd ar fai am hyn ond y gyfundrefn sy'n cyfyngu ar hyd llyfrau Cymraeg.
Eisiau gwybod mwy Droeon cefais y teimlad yr hoffwn wybod mwy am rai digwyddiadau. Mae'n s么n am gael ei ryddhau o'r fyddin cyn diwedd ei gyfnod er mwyn mynd yn asiant etholiadol i Ambrose Bebb yng Nghaernarfon. Yna, wedi pum wythnos o weithio etholiadol mae'n dychwelyd i'r fyddin i orffen ei dymor.
Chafodd e ddim bod yn asiant, gyda llaw, am iddo gyrraedd Caernarfon ddeuddydd yn rhy hwyr!
Ond yr hyn garwn i wybod yw beth fu ymateb y fyddin i'r cais am ei ryddhau? Go brin bod y swyddogion y bu'n ymwneud 芒 hwy yn edrych yn garedig iawn ar genedlaetholdeb Cymreig!
Eto, pwy 诺yr?
Magu yn Lerpwl Mae Hywel Heulyn yn ddyn o hyder a dewrder arbennig ac yn ddiau mae a wnelo'i fagwraeth yn un o Gymry Lerpwl lawer 芒 hyn.
Yn sicr, pan ddaw maes o law i fyw i fro enedigol ei wraig - Synod Inn - fe'i cawn yn feirniadol o ddiffyg asgwrn cefn ei genedl.
Beth bynnag, daw i Sir Aberteifi lle mae'n derbyn swydd gyda Silcocks yn gwerthu bwyd anifeiliaid ar gomisiwn, ond er yn yrfa hytrach yn ansicr mae'n llwyddo'n iawn.
Mae'n cynnig am sedd ar Gyngor Sir Aberteifi a chael ei ethol - wedi sefyll fel yn annibynnol er ei fod yn aelod amlwg o Blaid Cymru.
Fan yma mae'r gyfrol yn tanio, gyda'i ddisgrifiadau o rai o'i gyd-aelodau yn ddifyr a diddorol - heb s么n am y swyddogion.
Y Cynghorydd Josiah Jones yn cynghori rhyw Saeson nad oeddynt yn cytuno 芒 dull y Cymry brodorol o drin pethau i'w baglu hi n么l dros Glawdd Offa.
Beth pe byddai cynghorydd yn dweud hynny heddiw?
Y Cynghorydd Morgan Davies, Pont Llanio, hen lanc, yn ymbil dros gadw'r ysgol gynradd leol yn agored. "Keep it open for another two years and I guarantee to double the school population," meddai, a phawb yn eu dyblau.
Yn gadeirydd Mae Hywel Heulyn yn dringo ysgol llywodraeth leol a phan ddaw ad-drefnu 1974 ef sy'n cael ei ethol yn gadeirydd Cyngor Dyfed - clamp o anrhydedd ac yntau'n un o gynghorwyr y lleiaf o'r tair hen sir a unwyd i greu y sir newydd.
Bu'n ffermio a threuliodd gyfnod yn gweithio'n amser llawn i Blaid Cymru ac yn sgil hynny cawn hanes cynnwrf rhai o'r is-etholiadau hanesyddol - mwy nag un yng Nghaerfyrddin gan gynnwys un 1966 wrth reswm. A'r Rhondda wedyn.
Ymladdodd etholiadau ei hun dros y Blaid, hefyd ond mewn llywodraeth leol y gwnaeth ei farc ac y mae ei hanesion yn ymwneud 芒'r theatr, Opera Genedlaethol Cymru, y Cyngor Chwaraeon, Cymdeithas Cynghorau Sir Cymru a Lloegr a Phwyllgor Cynghorau Sir Cymru yn wirioneddol ddiddorol.
Cafodd ergydion personol caled, colli Rhian, un o'i ferched a hithau'n dal yn gymharol ifanc, a cholli wyres, Gwen, yn 16 oed. Wedyn colli ei wraig yn 2004.
'T芒n yn Ll欧n' At y 'T芒n yn Ll欧n' y cyfeiria'r teitl ac yntau'n s么n am yr i芒s a'r cynnwrf o fod ar ei wyliau gyda'i Nain ym Mhwllheli pan losgwyd yr ysgol fomio ddiwedd haf 1936 gan Saunders Lewis, D J Williams a Lewis Valentine.
A'r t芒n hwnnw, meddai, a daniodd ei genedlaetholdeb a'i ysbrydoli i ddod i fyw yng Nghymru ryw ddydd a gweithio trosti.
Fel yr awgrymais, teimlaf fod yma ormod i'w wasgu i un gyfrol fer ond serch hynny; diolch amdani gan fod yma lwyth o ddeunydd hanesyddol diddorol a gwerthfawr - ond buasai wedi bod ar ei hennill o roi mwy o raff i'r awdur a'i gynorthwywr.
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 91热爆 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|