|
Annwyl D J Deunydd darllen difyr a safonol
Adolygiad Gareth Miles o Annwyl D.J. - detholiad o'r ohebiaeth rhwng D.J. Williams, Kate Roberts a Saunders Lewis 1924-69. Golygwyd gan Emyr Hywel. Y Lolfa. 377 tud. 拢14.95.
Paradocs diddorol yw fod Gohebiaeth wedi ymddangos fel genre o bwys yn ein llenyddiaeth fel y mae'r arferiad o sgrifennu llythyrau ar bapur ymron 芒 darfod.
Cawsom Gyfaill Hoff, Detholiad o lythyrau Eluned Morgan (Gol. W.R.P. George), Llythyrau Syr O M Edwards ac Elin Edwards (Gol. Hazel Walford Davies), Annwyl Saunders, Annwyl Kate (Gol. Dafydd Ifans) a gallwn edrych ymlaen, cyn bo hir iawn, gobeithio, at ddetholiad Mari Emlyn o lythyrau a anfonodd Cymry'r Wladfa a Chymry'r Hen Wlad at ei gilydd oddi ar 1865.
Dyma ddeunydd darllen difyr a safonol sy'n teilyngu sylw ein beirniaid craffaf ac yn fwy na digon i lenwi modiwl gradd BA.
Ac yn awr mae Emyr Hywel yn ein anrhegu 芒 chyfrol swmpus o lythyrau tri o ryddieithwyr Cymraeg gorau'r ugeinfed ganrif; tri chenedlaetholwr dewr a diffuant; tri chyfaill.
Cyflwynir y llythyrau mewn Rhagymadrodd dadleuol sy'n si诺r o gythruddo doethuriaid yr 'academaidd dost'.
Ni chytunaf 芒 nifer o osodiadau EH ond maen well gen i o lawer ei ymosodoldeb ef na chytbwysedd diogel yr ysgolhaig proffesiynol.
脡crivains engag茅s oedd SL, KR a DJ a dyna yw Emyr Hywel.
Dosbarthwyd y llythyrau yn 么l eu degawdau - y Dauddegau, dechrau'r Tridegau, diwedd y Tridegau, Yr Ail Ryfel Byd, hyd at 'diwedd y Chwedegau'. Ceir 385 o nodiadau manwl a chynhwysfawr a mynegai defnyddiol.
Gan na chefais gyfle, hyd yn hyn, i wneud llawer mwy na blasu danteithion hwnt ac yma, nid wyf am fentro athronyddu yngl欧n 芒'r ohebiaeth fel ffurf lenyddol, cynnwys y llythyrau, perthynas eu hawduron 芒'i gilydd na natur cyfeillgarwch.
Y cyfan a wnaf yw annog pob ll锚ngarwr i brynu'r gyfrol neu i annog ei lyfrgell leol i wneud hynny drosto. Atodaf, megis abwyd, rai o'r perlau a ddarganfyddai i:
KR at DJ a'i wraig, Si芒n, 3 Chwefror, 1931
Yr oeddem yn falch iawn o gael eich llythyr y dydd o'r blaen. B没m yn meddwl tybed a welsoch hanes fy mrawd oblegid gwyddwn y byddai'n ddrwg gennych. Yr oedd yn brofedigaeth fawr iawn, oblegid ei ladd ei hun a wnaeth fy mrawd.
Collodd ei wraig fis Awst diwethaf wedi iddo fod yn wael am ddwy flynedd cyda chancer o'r gwddf. Yn ystod yr holl amser yna bron bu yntau allan o waith.
Wedi ei marw aeth yn ddigalon iawn ac yr oedd dan law doctor o hyd. Ond ni feddyliodd neb y buasai'n cymryd ei fywyd. Nid anghofiaf fyth y braw a gefais y diwrnod hwnnw. Yr wyf wedi medru ymddihatru'n lled dda oddi wrth feddyliau prudd, er anhawsed oedd hynny.
Poeni ynghylch fy rhieni yn eu hen ddyddiau yr oeddwn fwyaf, oblegid nid 芒i ddiwrnod heibio heb i'm brawd ymweled 芒 hwy gan ei fod yn byw yn y ty nesaf, ac mae'r ardd lle digwyddodd y trychineb o flaen eu llygaid bob dydd o'u bywyd.
Petawn i'n mynd i sgrifennu hanes fy mywyd fe fyddai'n llawn ar un ochr o bethau duon, duon, ac ar yr ochr arall o bethau heulog.
SL at DJ, 15 Ionawr, 1950
Yr wyf wedi darllen Y Tir Du ddwywaith drwodd. Yr ail yw'r orau gennyf o digon, a'r drydedd wedyn. Y mae'r Capten yn gampwaith mawr o ddigrifwch ac yn un o'ch creadigaethau mwyaf chwi, a'r iaith a'r arddull yn gwbl ddigymar. Gwaith meistr.
Nid wyf yn hoffi Ceinwen ddim oll, na Cholbo lawer. Wrth gwrs, darllenaf bob dim a sgrifennwch gan fwynhau'r arddul a'r Gymraeg loyw gain hyd yn oed pan fo'r mater yn ddamniol - megis Ceinwen.
Byddaf wrth eich darllen yn teimlo na ddylwn i ddim ymyrrryd 芒'r Gymraeg; ond er fy holl edmygedd diffin o'ch gafael arni, mae'n gas gen i eich pobl dda chwi. Mae 'na wlanen yn eu heneidiau a'u hymenydd sy'n fy nhagu i. Dyna fi wedi ei dweud hi! Yr arswyd annwyl.
DJ at SL, 6 Hydref, 1958
B没m ym Mhwllheli hefyd ac atgofion byw am fwy nag un peth yn dod i'm meddwl yno. Collais yr het smarta a fu genny' erioed (Sidney Heath a'i Frawd) yn y cwrdd cynhyrfus hwnnw ar y maes.
Yr olwg olaf a ges i arni oedd gweld ei chicio o gwmpas cyrrau'r dorf, - rhyw glorwth mawr pengrych o 诺r wedi cydio ynof gerfydd fy nhraed a'm cario allan i'r man diogel hwnnw, a minnau'n gwneud fy ngorau i'w dagu yntau ar y daith. Cydiodd dau blismon ynof wedyn a'm rhwystro am dipyn i fynd yn 么l.
Ie, lle atgofus yw Pwllheli rhwng popeth. Cofio am y tri ohonom dan escort y plismyn yn dod allan wedi'r llys....
I weld adolygiad gan Derec Llwyd Morgan ar Gwales
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 91热爆 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|