|
Fy Mrawd a Minnau Hiraeth am yr hyn sy'n bod
Adolygiad Eiry Miles o Fy Mrawd a Minnau gan Alun Jones. Gwasg Gomer. 拢8.99.
Ar ddiwedd Fy Mrawd a Minnau, cawn ddyfyniad gan Elis Gwyn, sef, "hiraeth am yr hyn sy'n bod."
Mae'r dyfyniad hwn yn crynhoi hanfod y nofel, oherwydd ei bod yn ymdrin yn bennaf 芒 hiraeth Teifryn - y prif gymeriad - am Gwydion, ei frawd.
Diflannodd Gwydion rai blynyddoedd ynghynt, ond erys yn gwbl fyw ym meddwl Teifryn a chaiff ei atgoffa amdano bob tro y gw锚l rywun a "phen cyrliog du".
Mae hiraeth yn pwyso ar gymeriadau eraill hefyd - hiraeth am deulu ac am ffordd draddodiadol o fyw sy'n prysur ddiflannu.
Cychwyn trawiadol Dechreua'r nofel mewn modd hynod drawiadol. Ym Murllydan - cartref cyffredin ar lan y m么r ym Mhen Ll欧n - mae Mathias ar ei wely angau - ond nid yw ei wraig, Laura, na'i feibion Sionyn a Gwil, yn teimlo unrhyw dristwch. Yn wir, aiff y tri i chwarae bingo yn nhafarn y Crythor wrth aros iddo 'ymadael'.
Yn syth, caiff chwilfrydedd y darllenydd ei danio - pam fod y tri yn ymddwyn mor ddifater? Beth wnaeth yr hen 诺r i haeddu ffarwel mor oeraidd? Cynyddir y tensiwn pan welwn Laura'n taflu ei lwch rywsut-rywsut i'r afon.
Ymhen tipyn, gwelwn fod dicter y teulu tuag at Mathias yn gysylltiedig 芒 marwolaeth y trydydd mab - Robat - a foddodd pan oedd yn llanc yn ei arddegau, ddeng mlynedd ar hugain yn 么l a daw yn amlwg fod cyswllt rhwng hanes trist Robat 芒 diflaniad Gwydion.
Troi'n obsesiwn Cawn weddill y stori o safbwynt Teifryn. Athro Hanes ydyw, sy'n ceisio annog ei ddisgyblion i feddwl drostynt eu hunain a chwestiynu'r fersiwn o 'hanes' a gyflwynir iddynt yn eu gwerslyfrau.
Ond ar 么l gwrthdaro 芒'r prifathro, daw gyrfa ddysgu Teifryn i ben ac wedi hynny dechreua ymh茅l fwyfwy yng ngorffennol trist Murllydan a diflaniad ei frawd nes bod y cyfan bron 芒 throi'n obsesiwn.
S诺n ac awyrgylch y m么r Un o gryfderau'r nofel yw dawn yr awdur i greu s诺n ac awyrgylch y m么r ac mae'n amlwg i'w fagwraeth ym Mhen Ll欧n ddylanwadu'n drwm arno.
Y m么r a'i bysgod sy'n rhoi bywoliaeth i Sionyn, ond mae bywyd y m么r yn rhan annatod o atgofion a phrofiadau cymeriadau eraill hefyd.
Mewn 么l fflachiadau, cawn hanes Teifryn a Gwydion yn 'hel gwichiaid', a'r hwyl a gawsant yn chwilota am drysor yn yr ogofau.
Tensiynau gwledig Mae'r awdur hefyd yn llwyr ymwybodol o'r problemau sy'n wynebu cymunedau gwledig gogledd Cymru.
Yn gefnlen i'r brif stori, gwelwn y tensiynau a achosir yn y gymuned wrth i deuluoedd a fu yno ers cenedlaethau geisio cydfyw 芒'r mewnfudwyr.
Mae Selina, cymdoges fusneslyd Laura, yn barod bob amser i ddefnyddio'i Saesneg carbwl i blesio'r Saeson.
Ar y llaw arall, gwrthod siarad Saesneg wna Sionyn ac mae'n gas ganddo ddefnyddio'r siop leol sy'n cael ei rhedeg gan Saeson gwrth Gymreig.
Cymuned yn dadfeilio Teimlwn fod y gymuned o'u cwmpas yn dadfeilio - yr unig fusnesau llwyddiannus yw busnes eirch Dic ac iard gerrig beddi Gwil ac mae'r capel bron yn wag - heblaw am y selogion, sy'n cynnwys rhagrithwyr fel Rhun Davies.
Mae dyfodol hyd yn oed y dafarn yn y fantol ond, daw haul ar fryn wrth i'r gymdogaeth gydweithio i ailagor garej y pentref.
Mae hyd yn oed Sionyn, a oedd mor llipa ac anobeithiol ar ddechrau'r nofel, yn datgan yn hyderus, "Mi fywiogwn ni'r lle 'ma, tasa fo'r peth dwytha wnawn ni!"
Ymhen dim, daw'r garej 芒 gwaith i bobl leol, ac mae s么n y bydd teuluoedd ifainc Cymraeg eu hiaith yn symud yn 么l i'r ardal.
Heb argyhoeddi Yn anffodus, ni all yr awdur ail-greu sefyllfaoedd eraill 芒 chymaint o argyhoeddiad.
Ni lwydda i gyfleu naws ystafell ddosbarth yng ngolygfeydd yr ysgol ac mae'r disgrifiad o fachgen yn codi dwrn yn yr awyr i gytuno 芒'i athro braidd yn anghredadwy.
'Teipiau' yw'r disgyblion yn y dosbarth megis yr 'hogan galad' ac ni wneir unrhyw ymgais i'w troi'n gymeriadau o gig a gwaed.
Nid oedd cymeriad Teifryn yn argyhoeddi chwaith gyda'i ffordd o siarad a'i ymddygiad yn henaidd ac fe gymerodd beth amser imi ddeall mai chwech ar hugain oed ydoedd.
O ganlyniad, llaciodd y nofel ei gafael arnaf ac ni chefais gystal blas arni 芒'r disgwyl.
Y sgyrsiau Nid yw'r ddeialog yn taro deuddeg bob amser chwaith.
Er mor swynol oedd rhai o'r ymadroddion tafodieithol, megis 'sbaena' a 'gwneud twmplan' a 'peth mwdradd o hwyl', mae sgyrsiau'r cymeriadau'n rhy ddifrifddwys.
Enghraifft o hyn yw geiriau Gwil wrth Teifryn: "Annibyniaeth ydi peidio 芒 chymryd dy demtio i chwenychu tegana na fedri di mo'u fforddio."
Prin iawn yw'r hiwmor yn y nofel ac er mor dywyll yw ei thestun, credaf y byddai ambell olygfa ysgafn yn chwa o awyr iach ac yn fodd o ddwysau'r golygfeydd trist.
Ni chawn ddatrysiad twt i hanes Robat a Gwydion. Serch hynny, mae diweddglo'r nofel yn gynnil ac yn gelfydd - ac, yn wahanol i'r disgwyl, nid yw'n gwbl ddu.
Er na fydd pall ar hiraeth y cymeriadau, mae gobaith, o leiaf, am ddyfodol gwell iddyn nhw a'u cymuned. Gweler Gwales
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 91热爆 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|