91热爆

Explore the 91热爆
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

91热爆 91热爆page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Blwyddyn Fawr Glyn Wise
Geiriau'r duw yn syth o'i geg . . .
Adolygiad Bethan Wyn o Blwyddyn fawr Glyn Wise. Golygydd, Beca Brown. Gwasg Carreg Gwalch. 拢7.50.

Mae'n anhygoel meddwl bod blwyddyn wedi mynd heibio ers lansio Big Brother 2006 ac i minnau fynd drwy fy rwt卯n arferol o ddweud nad oeddwn i'n mynd i gael fy sugno i mewn 'leni wir a 'mod i'n mynd i 'wneud rhywbeth adeiladol hefo'n amser'.

Ond dyma glywed si bod Cymro Cymraeg yn un o'r cystadleuwyr a chyn imi gael cyfle i gofrestru ar gwrs nos nac ymuno 芒 'gym' cafodd fy mwriadau da am yr haf eu chwalu'n deilchion...

Clawr y llyfr Ond i fod yn onest, doedd hynny'n ddim gwahanol i unrhyw flwyddyn arall.
Y peth rhyfedda am haf diwethaf oedd ymateb y genhedlaeth h欧n a oedd fel arfer naill ai'n ddirmygus o'r rhaglen neu heb ddiddordeb o gwbl.

Bellach, roedden nhw'n ddilynwyr brwd ac erbyn Eisteddfod Abertawe yn fwy na pharod i roi eu barn ar dantryms Nikki a sgiliau coginio 'rhen Glyn.

Yn arwr - yn Fab Darogan
Roedd Glyn yn arwr, yn Fab Darogan ac yn cael mwy o 'air time' na bardd y goron a'r gadair hefo'i gilydd.

Dydy hi ddim yn syndod felly bod llyfr wedi ei gyhoeddi i'w lansio yn Eisteddfod yr Urdd yn adrodd ei hanes dros y flwyddyn ddiwethaf - Blwyddyn Fawr Glyn Wise.

Mae'r llyfr wedi'i rannu'n dair pennod ar ddeg gan ddechrau gyda'r 'Ffeinal' a gorffen gyda'i gynlluniau ar gyfer y 'Dyfodol'.

Mae'n llawn lluniau, dyfyniadau gan bobl enwog a ffans, darnau o erthyglau papur newydd a chyfweliadau gyda theulu a ffrindiau.

Mae'r holl elfennau hyn a'r clawr lliwgar a glosi'n si诺r o ddenu llawer i gael sbec arno a chadw'r ffans yn hapus hefyd.

'Boi iawn'
Fel ro'n i'n ei ddisgwyl, mae Glyn yn dod drosodd fel 'boi iawn' ac wrth ddarllen fedrwn i ddim peidio meddwl, "Sgwn i pam ar wyneb y ddaear roddodd o'i hun drwy'r fath beth" ac ar yr un pryd teimlo'n falch ei fod o wedi.

Mi wnaeth o ffafr 芒 ni'r gogs wedi'r cyfan, drwy fod yn falch o'i acen a'i iaith.

Mae swmp y llyfr ar ffurf ymson gan Glyn yn ei iaith lafar sy'n rhoi cipolwg inni ar ei fywyd dros y flwyddyn ddiwethaf - byd Glyn drwy ei lygaid ei hun - yr uchafbwyntiau a'r troeon trwstan.

Pe bai Glyn yn stor茂wr naturiol, byddai'r fformat yma wedi gweithio'n well ond am nad ydy o, yn anffodus, mae ei ddarllen yn teimlo bron fel darllen trawsysgrif o gyfweliad a chawn ein harwain ar drywydd diamcan a dryslyd ar brydiau, lle mae o'n neidio o un peth i'r llall ac yn ailadrodd ei hun.

Un peth ydy gwrando ar rywun yn adrodd hanes gan roi pob manylyn bach dibwys heb gymryd anadl bron ond mae darllen hynny'n beth arall.

Gyda rhai o'r brawddegau yn baragraffau mawrion, roeddwn i'n aml yn ffeindio fy hun yn neidio 'mlaen i'r paragraff nesa - a hyd yn oed y dudalen nesa.

Mynd ar goll
Mae ambell berl o wybodaeth neu hanesyn digri yn dueddol o fynd ar goll yn y llif meddwl diddiwedd a thrwy ychwanegu is-benawdau, o bosib, rhannu'r penodau'n ddarnau llai a golygu llymach, gallai'r wybodaeth fod wedi cael ei chyflwyno mewn ffordd well i'r darllenydd.

Hynny yw, tameidiau bach blasus yn hytrach na lobsgows mawr trwm i'n llethu ni.

Wedi dweud hyn, yng nghanol y cyfan, mae 'na ddigon o ffeithiau a gwybodaeth jiwsi yma i blesio unrhyw ddilynwr Big Brother gwerth ei halen.

Fel y darn lle mae Glyn yn s么n am ei siom fod 'ffrindiau' wedi gwerthu storis amdano i'r papurau newydd, ei hanes o'n mynd ati'n fwriadol i wneud ff诺l ohono'i hun er mwyn cael mynd ar y rhaglen, yn cuddio yng Ngwlad Belg cyn dechrau'r sioe neu'n teimlo'n isel ar 么l dod allan a chael ei alw'n bob enw dan haul.

Ond yn bwysicaf, mae'n debyg y bydd ffans go iawn Glyn wrth eu boddau'n cael darllen holl eiriau'r Duw domestig ei hun; a hynny'n union fel y daethon nhw allan o'i geg o!

Cysylltiadau Perthnasol
  • Glyn Wise yn Eisteddfod yr Urdd


  • cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r 91热爆 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 脙垄 ni.

    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu L貌rd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    L么n Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Gl芒n i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    S么n amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 91热爆 Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the 91热爆 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy