|
Blaenau Ffestiniog Priodas gair a llun
Adolygiad Rhian Price o Blaenau Ffestiniog gan Gwyn Thomas a Jeremy Moore. Gomer. 拢19.99
Atgof plentyn yn unig sy' gen i o Flaenau Ffestiniog wedi ymweliad teuluol 芒'r Gloddfa Ganol fwy na 30 mlynedd yn 么l.
Mae'n rhaid cyfaddef na wnaeth yr ymweliad hwnnw fawr o argraff arna'i, a dydw i 'rioed wedi cael ysfa i ddychwelyd, er mae'n amlwg o wylio a gwrando ar raglenni teledu a radio Cymraeg bod y lle'n llawn cymeriad a chymeriadau difyr.
Braf felly oedd cael golwg newydd ar y dref trwy gyfrwng y lluniau a'r cerddi yng nghyfrol ddeniadol Blaenau Ffestiniog gan Wasg Gomer.
Jeremy Moore, un o brif ffotograffwyr y tirlun Cymreig, sy'n gyfrifol am y delweddau a Bardd Cenedlaethol Cymru, Gwyn Thomas, yw awdur y pytiau sy'n cyd-fynd 芒 nhw.
Y bardd o 'Stiniog oedd y dewis amlwg ar gyfer ymarfer o'r fath ac nid yn unig am ei fod yn un o feibion amlyca'r ardal.
Ef a fathodd y term llunyddiaeth am y grefft o briodi llun a gair ac mae 'na seiliau cadarn i'r uniad yn yr achos hwn.
Hiraethu Mae lluniau Jeremy Moore yn rhagorol, ond mae'n rhaid cyfaddef mai'r delweddau hyll, ar yr olwg gyntaf, sy'n apelio ata' i fwyaf.
Rhai am eu bod yn hiraethu am oes a fu - cymrwch y llun o'r hen adeiladau sinc ar y Stryd Fawr, er enghraifft, neu dristwch cyflwr hen waith Maenofferen 'a fu unwaith / yn befr o brysurdeb'.
Mae lluniau eraill, wedyn, yn denu am eu bod yn cynnig gobaith yng nghanol anobaith, fel yr un o redynen unig ar lawr hen waith Llechwedd. Fel y dywed y bardd:
'Ond o'r dinistr a fu yn y graig yn ddigrugaredd
Y mae dalennau tyner o wyrddni
Yn tyfu trwy rym y caledi:
Dyma inni redyn anhydyn bywyd.'
Er cystal eu cyfansoddiad a hudolus y golygfeydd, fe allai'r lluniau o Foel Siabod, Dyffryn Maentwrog a'r machlud haul dros Lyn y Manod, fod wedi eu tynnu yn unman.
Mwy diddorol o lawer yw'r ddelwedd o Inclen y Graig Ddu, lle mae'r llechi porffor a goleuadau'r dref bron a diflannu'n llwyr yn n眉wch y mynydd.
Y llun o ffens llechi yn igam-ogamu ar draws Dolrhedyn fel dannedd yn pydru yng ngheg rhyw gawr neu fwystfil.
Mawr a bygythiol Neu'r llun sydd ar y clawr o Domen Fawr yr Oclis, a saif yn fawr ac yn fygythiol uwchben y rhesi o dai teras, gan awgrymu'n gryf mai dros dro yn unig y mae buddugoliaeth dyn dros natur.
Gan mai ffotograffydd tirlun yw Jeremy Moore, does dim pobol yn y lluniau ond eto mae eu holion ym mhobman a'r delweddau'n ddirdynnol ar brydiau.
Cymrwch y p芒r o fenig segur ar dop pentwr o lechi, a darllenwch geiriau'r bardd, o gofio'r newyddion diweddar fod cwmni McAlpine am ddiswyddo 104 o weithwyr ym Mlaenau.
Mae'e menyg, meddai,
'Yn arwyddion o ddwylo
Nad ydyn nhw bellach yno -
Am ryw hyd neu, o bosib, am byth.'
Cariad ac edmygedd Mae cariad Gwyn Thomas at ei fro enedigol, a'i edmygedd o'r rhai a fu'n crafu bywoliaeth 'yn llymder yr ucheldir hwn', yn amlwg.
Ac mae o am rannu rhyfeddodau'r ardal a ninnau'r darllenwyr a chadw'r cof 'am rai o'n cyd-feidrolion' yn fyw.
Mae cynhesrwydd yn treiddio trwy'r gerdd, 'Taclus Iawn' am ddarn o dir yng Nghwmorthin ...
'Y bu rhywrai yn falch ohono
I gadw dafad neu ddwy,
Moch, efallai, a ieir
I helpu i gadw cnawd ac enaid ynghyd.'
Edrychaf ymlaen at fynd i'r Blaenau ryw ddydd ac eistedd ar Ben Carreg Defaid wrth feini sydd ag enwau arnynt ...
'Carreg Geffyl, Carreg Eliffant,
Enwau sydd, i rai ohonom ni,
Yn atgyfodi inni
Y byd a fu, a ninnau'n blant.'
Mae hynny'n si诺r o wneud argraff arna'i.
Gweler Gwales
Cysylltiadau Perthnasol
Gwyn Thomas
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 91热爆 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|