|
Cof Cenedl XXII Michael D Jones - haeddu bod yn dad?
Cof Cenedl XXII. Ysgrifau ar Hanes Cymru. Golygydd, Geraint H Jenkins. Gomer. 拢8.99.
Dros y blynyddoedd bu'n arferiad cyfeirio at Michael D Jones fel "tad" y Wladfa ym Mhatagonia.
Heb amheuaeth ei enw ef sy'n dod i'r meddwl gyntaf pan yn s么n am y fenter hon gan achub y blaen ar rai fel Lewis Jones a oedd ymhlith yr ymsefydlwyr cyntaf - er na threuliodd Michael D Jones ei hun ond pedwar mis yn y wlad y bu'n ymgyrchu mor ddeheuig i anfon pobl yno!
Ond a yw'n haeddu'r disgrifiad "Tad y Wladfa" yw'r cwestiwn sy'n cael ei ofyn - a'i ateb - mewn erthygl ddifyr gan Dafydd Tudur yn yr ail gyfrol ar hugain o'r gyfres Cof Cenedl sy'n cael ei golygu gan yr Athro Geraint H Jenkins.
Yn olygydd Culturnet Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, y mae Dafydd Tudur ein pennaf arbenigwr ar Michael D Jones, y gwladgarwr o'r Bala y cysylltir ei enw mor barod 芒 menter Patagonia.
"Cysylltir enw Michael D Jones yn bennaf 芒'r wladfa Gymreig a sefydlwyd ym Mhatagonia, De America, ym 1865. Bu'n aelod blaenllaw o'r mudiad a anfonodd bobl o Gymru i ymsefydlu ar lannau afon Chupat, neu'r Camwy fel y daethpwyd i'w hadnabod yn ddiweddarach.
Cymaint o gyfraniad "Ni theithiodd i Batagonia gyda'r fintai gyntaf, ond cymaint oedd ei gyfraniad i'r anturiaeth nes i'w gyd-hyrwyddwr Lewis Jones ei gyfarch ar ddiwedd ei oes fel 'Tad y Wladfa'," meddai Dafydd Tudur.
Glynodd y disgrifiad hwnnw hyd heddiw ond mae erthygl Dafydd Tudur yn awgrymu ei fod yn fwy o dad maeth nag o dad go iawn.
Yn wir, dywed mai wedi i fenter arall i sefydlu 'gwladfa' yn Oregon yr Unol Daleithiau y mabwysiadodd Michael D Jones Batagonia yn blentyn!
Cyn Patagonia bu'n ystyried hefyd Ynys Vancouver - a Syria yn y Dwyrain Canol yn dilyn anogaeth g诺r o'r enw John Mills o Lanidloes a fu'n cenhadu ymhlith Iddewon Llundain ac yn trafod 芒 chennad Twrci.
Dim ond wedi i'r syniadau hynny fynd i'r gwellt yr ymegniodd o blaid menter Patagonia ac yntau wedi "dymuno ymbellhau oddi wrth y cefnogwyr oedd yn ffafrio Patagonia" cyn hynny.
"Yn y diwedd ildiodd i farn y mwyafrif, er iddo geisio rhoi'r argraff mai ar sail ymchwil bersonol y penderfynodd fod Patagonia yn lleoliad cwbl addas ar gyfer y wladfa," meddai Dafydd Tudur.
Aberth ariannol Ond unwaith y mabwysiadodd Batagonia aberthodd yn ariannol ac o ran egni i sicrhau 'llwyddiant' y fenter wrth i un peth af 么l y llall fynd o chwith.
Yr oedd rhesymau ariannol hunanol dros ei frwdfrydedd dros y dewis newydd:
"Llwyddiant y wladfa yn unig a fyddai'n sicrhau ad-daliad i Michael D Jones, ac felly nid yw'n syndod iddo ymgyrchu'n fwy penderfynol nag erioed er mwyn llwyddo," meddai Dafydd Tudur.
Ac yn hyn o beth yr oedd yn ffodus bod ei wraig yn ddynes ariannog.
Dywed mai ei nod oedd denu cymaint ag 20,000 o Gymru yno a mynnu statws daleithiol gan lywodraeth Ariannin.
Ei gyfraniad pwysicaf Ychwanega i Michael D Jones wneud ei gyfraniad pwysicaf "yn y misoedd cyn ymadawiad y fintai gyntaf" yn llogi llong ac yn y blaen a buddsoddi llawer o arian personol pan aeth pethau o chwith gyda'r llong wreiddiol.
Yn 么l Dafydd Tudur cafodd yr ymrwymiad ariannol gryn effaith ar Michael D Jones;
"Gydag amser aeth y gwariant hwn yn drech nag ef, a chafodd effaith andwyol ar ei berthynas 芒'r Wladfa ac ar ei waith fel Prifathro Coleg yr Annibynwyr yn Y Bala," meddai Dafydd Tudur.
Ond ychwanega: "Y peth pwysig ym mis Mai 1865 oedd fod y pwyllgor wedi llwyddo i oresgyn ei holl anawsterau a bod y gwaith o sefydlu'r wladfa Gymreig yn mynd yn ei flaen.
"I'r sawl a oedd yngl欧n 芒'r anturiaeth, yr oedd yn amlwg mai Michael D Jones oedd biau'r clod am hynny."
A'i ymdoddiad gymaint nes peri, mae'n amlwg, iddo gael ei alw yn dad y fenter a Dafydd Tudur yntau yn dod i'r casgliad:
"Oni bai am benderfyniad ac ymroddiad Michael D Jones ni fyddai'r Mimosa wedi gadael dociau Lerpwl ym mis Mai 1865 gydag arloeswyr y wladfa Gymreig ar ei bwrdd."
Do, mabwysiadodd blentyn y bu'n rhaid iddo aberthu llawer drosto a gallwn fod yn ddiolchgar i Dafydd Tudur am ein goleuo yngl欧n 芒 hynny.
Mae ei ysgrif ef yn un o chwech yn y rhifyn diweddaraf hwn o Cof Cenedl.
Grym y Gair Ysgrifenedig: Tywysogion Cymru a'u Dogfennau 1120-1283 gan Huw Pryce.
Parhad, Pragmatiaeth, Propaganda: Llawysgrifau Cyfraith Hywel yn yr Oesoedd Canol Diweddar gan Christine James.
Traddodiad y Stori Werin yng Nghymru gan Robin Gwyndaf.
Heb Ddim Paent nac Ymdrech i Orliwio: Darllen Hen Wynebau D J Williams fel Hanes gan T Tobin Chapman.
Pair Dadeni? Yr ymgyrch Iaith yn Nhref Aberystwyth gan Rhys Jones.
Cysylltiadau Perthnasol
Erthyglau Patagonia
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 91热爆 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|