|
Ychydig Is Na'r Angylion Dewis nofel clwb darllen
Disgrifwyd nofel ddiweddaraf Aled Jones Williams sydd yn y ras am fod yn Llyfr y Flwyddyn 2007 fel un "anodd ond efo rhinweddau pendant".
Y nofel hon, Ychydig Is Na'r Angylion, oedd un o'r llyfrau a ddewiswyd gan glwb darllen rhaglen radio Gaynor Davies ar gyfer mis Mawrth 2007.
Fe'i dewiswyd gan Dyfrig Jones a oedd newydd ei benodi yn olygydd newydd Barn
Yn trafod gydag ef yn y stiwdio roedd Fflur Dafydd, enillydd Medal Lenyddiaeth Eisteddfod Genedlaethol Casnewydd 2006.
Er yn nofel ddyrys a chymhleth dywedodd Dyfrig Jones iddo gael pleser o ddarllen Ychydig Is Na'r Angylion.
Colli teulu "Mae'n anodd iawn crynhoi y stori - mae'n nofel ddyrys yn llawn o gymeriadau sy'n byw bywydau sy'n rhyw gydblethu ond eto yn eithaf ar wah芒n.
"Ond yn y b么n stori am ddyn yn colli'r rhan fwyaf o'i deulu ydi hi.
"Mae ei berthynas a'i wraig yn un eithaf anodd ac mae hi yn mynd 芒 dau o'u plant i'r ysgol un bore gan ei adael o yn y t欧 efo mab anabl ac mae hi'n crasio'r car a'r tri yn cael eu lladd ac [yntau'n] cael ei adael . . . i ymdopi efo bywyd ac edrych ar 么l yr hogyn mewn cadair olwyn.
"Ac yng nghanol hyn i gyd mae o'n ffendio pentwr o lythyrau sy'n datgelu fod ei wraig wedi bod yn cael aff锚r [a hyn yn ei arwain i geisio] dod i adnabod ei wraig.
"Mae'n mynd i gyfarfod rhai o gymeriadau yr ardal ac yn trio cael dealltwriaeth well o pwy oedd hi," meddai.
Ond ychwanegodd nad yw'n stori sy'n cael ei dweud yn syml ac yn uniongyrchol: Gwneud pethau'n anodd
"Mae rhywun sydd wedi bod yn gweld un o ddram芒u Aled Jones Williams yn gwybod nad ydi o byth yn gwneud dim byd yn hawdd - mae o'n lecio tywyllwch a chymhlethdod ac mae yna ddigonedd o'r ddau beth yma," meddai.
Mae'r nofel, meddai, yn dilyn llwybr "digon igam ogam".
Serch hynny, dywedodd iddo ei mwynhau.
"Dydi o ddim yn llyfr perffaith ond mae Aled yn medru sgwennu ac mae unrhyw un sydd wedi gweld ei ddram芒u yn gwybod ei fod yn un sy'n medru saern茂o stori . . .
"Ac ar adegau mae cyfrwng y nofel yn ei siwtio yn dda iawn gan ei bod yn rhoi lot mwy o le i fynd i mewn i ymennydd cymeriad.
"Ond ar adegau eraill roeddwn i'n teimlo ei fod yn sgwennu gormod yn arddull ei ddram芒u - er enghraifft, mae ganddo'r peth yma y mae o'n wastad yn ei wneud yn ei ddram芒u lle mae atgofion digon dinod o orffennol yn cael eu hailadrodd ac yn adeiladu ac adeiladu.
"Ac wrth iddo adeiladu y manion yma at ei gilydd mae'n dod yn amlwg fod un o'r manion ag arwyddoc芒d.
"Mae hyn yn rhywbeth y mae'n hawdd i actor ei wneud gan fod actor yn rhoi y pwyslais ar y m芒n beth sy'n bwysig ond mae'n medru bod yn beth anodd i'w ddarllen pan fo'r llith yma o f芒n atgofion yn dod ar ben ei gilydd ac angen i chi ddewis pan un sy'n arwyddocaol.
"Ond ar y cyfan dwi'n credu ei fod wedi addasu ei arddull yn dda iawn i'r nofel."
Nid i'r gwangalon
Dywedodd Fflur Dafydd, hithau, nad yw hon yn nofel "ar gyfer y gwangalon" a bod yn rhaid ymroi i'w darllen.
"Mae'n nofel ddyrys ac yn nofel gymhleth, athronyddol, ac mae yna lot fawr o syniadau ac mae'r gyfeiriadaeth yn eang iawn," meddai.
Ond ychwanegodd y gall darllenwyr fwynhau mynd dan groen y nofel hon.
"Mae'r iaith yn goeth iawn - mae'n dirgrynu ar y dudalen," meddai.
"Ac fe wnes i fwynhau y gyfeiriadaeth hefyd. Ar ddechrau'r nofel mae'n s么n am Three Colours Blue ac roeddwn i'n meddwl fod hwnna'n eithaf clyfar y ffordd mae'n clymu'r stori yna gyda'r hyn sy'n digwydd i'w wraig a'i blant," meddai.
Ond ychwanegodd y gall y gyfeiriadaeth fynd yn llafurus ar adegau.
Dychanu'r Gymru newydd Cyfeiriodd Dyfrig Jones hefyd at elfennau dychanol a hoffodd yn y nofel - a hwnnw'n ddychan o'r hyn a alwodd yn "Gymru newydd".
"Ac mae lot o'r cymeriadau yn gwneud rhyw bethau trendi, cyfryngol, artistig,," meddai gan ddisgrifio'r nofel fel caricatur o Gymru rhyw bum mlynedd yn y dyfodol.
"Ac mae o'n gwneud hynny yn arbennig o dda,".meddai.
"Yr oedd yr elfen yna o ddychanu y Gymru ddosbarth canol gelfyddydol hunan bwysig yn eithaf da," meddai.
Wrth grynhoi disgrifiodd y nofel fel:
"Llyfr anwastad ac anodd ond efo rhinweddau pendant".
A chymeradwyodd Fflur Dafydd fynd yn 么l i ddarllen rhai darnau gan nad ydych "yn cael popeth ar y darlleniad cyntaf".
Cysylltiadau Perthnasol
Cyhoeddi Ychydig Is Na'r Angylion
Llyfr y Flwyddyn 2007
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 91热爆 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|