| |
|
|
|
|
|
|
|
Llyfrau'n cipio'r cestyll Straeon a cherddi rhwng y muriau
Bydd hen chwedlau'r Cymry yn atseinio trwy rai o gestyll mwyaf mawreddog gogledd Cymru fel rhan o ddathliadau Diwrnod y Llyfr 2007.
Mae CADW yn cynnal cyfres o sesiynau adrodd stori a darllen mewn cestyll fel rhan o ymgyrch newydd i ennyn diddordeb pobl Cymru mewn darllen.
Straeon a barddoniaeth Yn ogystal 芒'r sesiynau adrodd straeon, bydd yna farddoniaeth a cherddoriaeth mewn rhai o'r sesiynau - a bydd mynediad am ddim i'r cestyll a theithiau tywys am ddim i ddathlu Dydd G诺yl Dewi.
Yng Nghastell Conwy, bydd yr awdur Fiona Collins yn adrodd straeon a cherddi yn yr hen ddull traddodiadol.
Yng Nghastell Biwmares, bydd Mair Wynn Hughes sydd wedi ennill gwobr Tir na n-Og dair gwaith am ei llyfrau plant yn darllen o'i llyfr diweddaraf, Ai Ysbryd?
Yng Nghastell Cricieth bydd Gwen Pritchard Jones - sy'n byw gerllaw - yn lansio llyfr ar gyfer plant - Gelert ac yn darllen detholiad o'r nofel a enillodd y Fedal Ryddiaith iddi yn yr Eisteddfod Genedlaethol y llynedd , Dygwyl Eneidiau.
Bydd Eric Maddern yng Nghastell Caernarfon gyda chwedlau Cymreig a chaneuon.
Mawreddog "Bydd y sesiynau cyffrous hyn yn gyfle gwych i bobl fwynhau clywed iaith yn cael ei defnyddio mewn llefydd mawreddog," meddai Delyth Humphreys, o Gyngor Llyfrau Cymru sy'n cydlynu holl weithgareddau Diwrnod y Llyfr yng Nghymru.
"Mae'r caneuon, y cerddi a'r straeon hyn yn helpu i ddod 芒 bywyd newydd i henebion Cymru. Dyma'r ail dro i CADW gymryd rhan yng ngweithgareddau Diwrnod y Llyfr. Y llynedd, roedd y sesiynau o gymorth i helpu llawer o bobl i ddeall tipyn am eu treftadaeth a dyna pam rydyn ni'n trefnu rhaglen lawnach eleni," meddai Claire Capelin o Cadw.
Yn y de, bydd sesiynau yng Nghwrt Tret诺r, Castell Cydweli, Castell Cas-gwent ac Abaty Tyndyrn -
tair sesiwn yr un yn y pum safle am 11.00, 12.30a 2.00 am ddim i bawb.
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 91热爆 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|
|