91热爆

Explore the 91热爆
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

91热爆 91热爆page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Lansiadau - digwyddiadau o bwys
Llyfrwerthwyr - symud o du 么l i'r cownter
  • Erbyn heddiw mae gwerthu llyfrau yn galw am fwy i ymdrech ar ran llyfrwerthwyr na'u rhoi ar silffoedd a disgwyl am gwsmeriaid - mae trefnu digwyddiadau i'w hyrwyddo yn anhepgor hefyd.

    Gwelwyd hynny dros y Nadolig diwethaf gyda llu o gyfarfodydd 'lansio' mewn siopau llyfrau ar hyd a lled Cymru.

    Bu Lowri Rees yn holi un llyfrwerthwr am yr agwedd bwysig hon o werthu llyfrau, Gwyn Sion Ifan o Awen Meirion yn Y Bala.


    Yn yr wythnosau yn arwain at y Nadolig bu nifer o lansiadau a sesiynau arwyddo yn Awen Meirion, Y Bala, gan gynnwys lansiad hunangofiant awdur lleol, Dan Puw, a sesiynau arwyddo gyda Huw Ceredig, Dewi Prysor ac eraill.

    Huw Ceredig mewn sesiwn arwyddo Dywedodd Gwyn S茂on Ifan fod hyn o bosib y ffordd orau i hybu gwerthiant.

    Ond mae'n fwy na hynny, hefyd.

    "Mae hefyd yn gyfle i'r cyhoedd gael cyfarfod yr awduron ac yn gyfle i gael blas o gynnwys y cyfrolau. Yn sicr mae'n achlysur cymdeithasol ac yn gyfle i drin a thrafod ein llenyddiaeth," meddai.

    Neuadd lawn
    Dywedodd mai un o brif lwyddiannau 2006 iddo ef oedd lansiad hunangofiant Dan Puw o'r Parc ychydig filltiroedd o'r Bala ac o'r herwydd yn llyfr oedd yn ennyn llawer iawn o sylw yn yr lleol.

    "Roedd Neuadd y Parc yn orlawn y noson honno, nid yn unig gyda phobl y gymuned ond hefyd oherwydd cysylltiadau Dan Puw gyda Meibion Llywarch ac ym myd cerdd dant," meddai Gwyn.

    Nid yn unig mae'r lansiadau hyn yn ennyn diddordeb y gymuned ond hefyd yn cael sylw yn y wasg gyda Gwyn a llyfrwerthwyr eraill yn eiddgar iawn i wahodd newyddiadurwyr a thynwyr lluniau i'r digwyddiadau.

    "Erbyn heddiw mae'n rhan o waith llyfrwerthwyr i roi ychydig o statws i lyfrau drwy gynnal lansiadau swyddogol. Mae'n bwysig ein bod ni'n rhoi'r sylw gorau posib yn enwedig i awduron sydd ar stepen ein drws ni yma - ac mae'n bwysig gwneud ychydig bach mwy o sbloets," meddai.

    Gwyn Sion Ifan yn ei siop Ac ychwanegodd iddo weld gwahaniaeth yn y gwerthiant o gynnal sesiynau arwyddo a lansiadau.

    "Mae gwahodd awdur i'r siop ar gyfer sesiwn arwyddo unwaith eto yn gyfle i'r cyhoedd gwrdd 芒'r awduron ac yn ffordd unigryw o ddenu pobl i'r siop i edrych o gwmpas ac i bori ymhlith llyfrau."

    Yn yr ysgolion
    Yn ystod y blynyddoedd diwethaf bu Gwyn hefyd yn ymweld ag ysgolion lleol gyda'i stondin llyfrau.

    "Gan fod ysgolion cynradd yn cael ffeiriau a diwrnodau arbennig mae'n braf cael mynd 芒 stondin sydd yn rhoi cyfle i'r rhieni a'r plant weld y dewis eang o lyfrau sydd ar y farchnad heddiw," meddai.

    "Hefyd mae'n gyfle gwych i'w cynghori am y math o lyfrau sydd yn addas ar gyfer eu gofynion."

    "Nid dim ond sefyll y tu 么l i gownter siop mae llyfrwerthwr bellach. Erbyn heddiw mae angen mynd allan o'r siop at y gynulleidfa i hyrwyddo llyfrau."

    Yn ystod yr wythnosau nesaf bydd Gwyn yn brysur yn paratoi ar gyfer Diwrnod y Llyfr - achlysur blynyddol pwysig iawn iddo.

    "Mae'n ddiwrnod pwysig iawn i bob llyfrwerthwr ac yn gynllun sy'n gweithio'n dda i hyrwyddo llyfrau ac i sbarduno plentyn i ddarllen mwy," meddai.



  • cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r 91热爆 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 脙垄 ni.

    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu L貌rd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    L么n Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Gl芒n i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    S么n amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 91热爆 Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the 91热爆 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy