|
Harris: Gŵr Duw â Thraed o Glai Y rhyfeddaf, y garwaf, yr ystyfnicaf, y diflasaf - a'r mwyaf deniadol
Adolygiad Derec Llwyd Morgan o Harris: Gŵr Duw â Thraed o Glai gan Herbert Hughes. Gomer, tt. 255. £9.99.
Harris, heb os, oedd y rhyfeddaf o arweinwyr y Diwygiad Methodistaidd yng Nghymru'r ddeunawfed ganrif, y garwaf ei dymer, yr ystyfnicaf ei natur, y mwyaf unbenaethol ei awdurdod, y diflasaf ei hunan-dyb, a chan hynny wrth gwrs y mwyaf deniadol fel testun llyfr, boed hwnnw'n gofiant neu'n ddrama neu'n astudiaeth grefyddol a seicolegol.
Yn ystod yr ugeinfed ganrif lluniwyd sawl cofiant iddo, er enghraifft gan Hugh J. Hughes, Gomer M. Roberts a Geraint Tudur, ac o leiaf ddwy ddrama hir nodedig, y naill gan Cynan a'r llall gan Islwyn Ffowc Elis.
Pregethu a brygowtha Seiliwyd y gweithiau hyn ar y dyddlyfrau a'r llythyron a luniodd ef yn ystod hanner oes gythryblus o bregethu a brygowtha, dyddlyfrau a llythyron y rhoddwyd trefn ardderchog arnynt gan haneswyr diwyd fel John Thickens, Tom Beynon, M. H. Jones a'r dywededig Gomer M. Roberts.
Gan Thickens y cafwyd y gyfrol fawr Gymraeg ar Harris yn Llundain; gan Beynon y cafwyd y golygiad o'r dyddlyfrau (Saesneg) am Lundain, a chanddo ef hefyd y cafwyd golygu'r dyddlyfrau a ddisgrifia Harris yn y fyddin adeg y Rhyfel Saith Mlynedd.
Goleuo cymaint Rhowch ar glawr enwau Geoffrey Nuttall ac R. T. Jenkins a oleuodd gymaint ar gonglau ei fywyd mewn astudiaethau hanesyddol o wir bwys, a dyna i chi lyfrgell ddeche iawn i'r neb a geisio adnabod Howell Harris, Yswain, Trefeca Fach, Sir Frycheiniog.
Y mae'n amlwg fod awdur y gyfrol ddiweddaraf hon ar Harris, y Parchedig Herbert Hughes, wedi pori'n aml a thra phleserus yng ngweithiau'r ysgolheigion uchod.
Ni allai fod wedi cyfansoddi'i dair pennod ar Harris ym mhrifddinas Lloegr heb help Thickens a Beynon, nac wedi cyfansoddi'i bennod Cyfnod Harris yn y Fyddin heb help Beynon eto.
Siawns na fyddai manylion y bywyd Teuluol a greodd Harris yn Nhrefeca o 1752 ymlaen yn brin ganddo oni ddarllenasai naill ai Draethawd MA cwbl ragorol Alun Wyn Owen neu'r bennod ar y Teulu gan Monica Davies yn Y Deffroad Mawr, 1973.
A diau iddo gael sawl awgrym am natur y berthynas rhwng Harris a Madam Sidney Griffith gan fwy nag un awdur a fentrodd i'r maes difyr, rhywiol-beryglus hwnnw.
Lliaws o lyfrau Dros wyliau'r Nadolig, yn ogystal â'r llyfr hwn ac eraill, darllenais nofel Saesneg o'r enw Damned United gan David Peace, nofel seiliedig ar y pedwar dydd a deugain y bu Brian Howard Clough yn rheoli Leeds United.
Fel Herbert Hughes, cafodd ef ei ddefnydd o liaws o lyfrau cyhoeddedig, hunangofiannau Hunter a Lorimer, Eddie Gray a Dunphy, llyfrau gan eraill ar hanes y bêl gron yn y Saithdegau, blwyddlyfrau'r Gymdeithas Bêl-droed, &c., ond yn wahanol i Mr Hughes y mae David Peace yn eu henwi oll.
Yr hyn a geir gan Herbert Hughes yw nodyn i'r perwyl fod ei ddyled yn "fawr i lawer o haneswyr ddoe a heddiw."
Fel y dywedais eisoes, y mae hynny'n amlwg - ac yn gwbl anochel. Buasai'n bechod (ac yn wiriondeb ofer) petai'r awdur wedi ceisio darlunio bywyd Harris megis o'i ben a'i bastwn ei hun.
Gan y nofelydd, ynteu, wele gydnabod yn llawn ei ffynonellau; gan Mr Hughes, wele'u cydnabod yn gyffredinol.
Nid nofelydd Gan y nofelydd, meddaf i, wrth sôn am y naill lyfr, a chan Mr Hughes, meddaf, wrth sôn am y llall. Hynny am na wn yn iawn beth i'w alw. Nid nofelydd, yn sicr, oblegid ni cheir yn Harris ddim o'r datblygiadau cymeriadol a storïol a geir mewn nofel.
Nid hanesydd chwaith, oblegid ni cheir dim o'r trefnu a'r dadansoddi beirniadol a geir mewn llyfr hanes.
Ac nid ysgrifwr, oblegid ymdriniaeth ffeithiol-wrthrychol yn hytrach na goddrychol yw'r ymdriniaeth â Harris a geir yma.
Y mae'r broliant ar y clawr cefn yn sôn am y llyfr fel 'ffeithlen,' Cymreigiad o faction, mi dybiaf, sef gwaith y mae iddo sail mewn ffeithiau ond a weithir yn ddychmygus.
Er mwyn gweithio'n iawn gyfrol ffeithlennol buasai'n dda petai'r awdur wedi mabwysiadu rhai o ddyfeisiau ffuglen, a chynnwys yma ychydig o sgwrsio rhwng cymeriadau, ambell flashback, darlunio gwrthdaro drwy gymeriadu yn hytrach na disgrifio, &c.; dyfeisiau a fyddai wedi rhoi blas amgen i'r llyfr a rhyw sioc fach bleserus i'r darllenydd yn awr ac yn y man.
Llyfr hyfryd dros ben Na'm camddealler: Y mae hwn yn llyfr hyfryd dros ben, llawn gwybodaeth werthfawr, wedi'i lunio mewn arddull lefn rwydd.
Da odiaeth dod ag Evan Moses a Hannah Bowen eto'n fyw. Da hefyd y gwaith o wneud hwyl - heb cweit wneud hwyl - am ben yr Harris sy'n gweddïo am gymorth i ddewis rhwng darpar-wragedd. A da iawn y gwaith o ddangos pa mor echrydus o ddynol (a gwrth-ddynol) oedd seraff mawr y ganrif.
Eisiau mwy Mwynheais y llyfr, do, ond teimlwn o hyd fod eisiau mwy o bupur a halen ynddo.
Petawn i'n gwybod llai am Howel Harris nag ydwyf, dichon y buaswn wedi'i fwynhau'n fwy anfeirniadol ond am fy mod yn gwybod rhyw ddimeiwerth am y gwrthrych, wrth ddarllen y llyfr dyhëwn naill ai am oleuni newydd ar ryw agwedd ar gymeriad Harris neu ar ryw ddigwyddiad yn ei fywyd, neu - eto -- dyhewn am rywbeth yn y mynegi i darfu arnaf ac i'm cyffwrdd.
Gweler Gwales
Cysylltiadau Perthnasol
Gwefan Grefydd y 91Èȱ¬
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
| | | | | | | | | | Sôn amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 91Èȱ¬ Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|