91热爆

Explore the 91热爆
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

91热爆 91热爆page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Cydymaith Caneuon Ffydd
Gafael yng nghafael yr emyn
  • Adolygiad Alun Lenny o Cydymaith Caneuon Ffydd gan Delyth G Morgans. Pwyllgor y Llyfr Emynau Cydenwadol. 拢17.95.


  • Mae gafael yr emyn ar genedl y Cymry yn eithriadol. Bron trwy reddf mae'r miloedd yn y Stadiwm Cenedlaethol yn torri m芒s i ganu Bread of Heaven nerth eu pennau.

    Ac mae hyd yn oed Delilah - c芒n am fachan yn lladd ei gariad - yn seiliedig ar stori Feiblaidd!

    Er cilio wrth y miloedd o gapel ac eglwys, mae'n ymddangos bod rhywbeth yn ddwfn yn y psyche Cymreig sy'n gwrthod gollwng gafael ar y gorffennol yn llwyr.

    Clawr y llyfr Dywedodd yr ysgolhaig B.L.Manning taw emynau sy'n rhoi'r darlun cliriaf o weledigaeth a gobeithion cenedl - yn adlewyrchiad o gyflwr enaid y genedl.

    Roedd cyflwr enaid Cymru'n disgleirio ymhlith cenhedloedd y byd ar un adeg ac adlewyrchwyd hynny yn emynau William Williams, Pantycelyn ; Ann Griffiths a'r cannoedd o emynwyr eraill - mawr a m芒n.

    Ond, erbyn hyn, faint 诺yr y miloedd sy'n morio Bread of Heaven am ystyr y geiriau ac am eu hawdur?

    Sawl un 诺yr mai geiriau Cymraeg oedd i'r emyn yn wreiddiol, Arglwydd, arwain drwy'r anialwch gan Williams Pantycelyn?
    Pwy? gofynnodd Cymro ifanc dysgedig i mi yn ddiweddar, gan gyfaddef nad oedd erioed wedi clywed am emynydd mwyaf Cymru - un o emynwyr mwya'r byd, o ran hynny.

    Dyfnder anwybodaeth
    Dyna arwydd o ddyfnder anwybodaeth cymaint heddiw am bobol oedd yn arwyr mawr a'u hemynau'n rhan o fywydau trwch poblogaeth Cymru am genedlaethau.

    Ac mae anwybodaeth enbyd erbyn hyn ymhlith nifer o ffyddloniaid Cristnogol hefyd: pobol sy'n canu emynau bob Sul heb wybod fawr ddim am yr emynwyr (ar wah芒n i ambell un fel Pantycelyn ac Ann Griffiths), eu cefndir nac amgylchiadau cyffroes neu ddirdynnol cyfansoddi cymaint o'r emynau.

    I fod yn deg, lle byddai rhywun yn cael y fath wybodaeth ? Cafwyd hanes tua deugain o'n hemynau mwyaf gan E Wyn James yn ei lyfr Dechrau Canu bron ugain mlynedd yn 么l.

    Mae cyfrol Saesneg Alan Luff Welsh Hymns and their Tunes yn un defnyddiol hefyd ac mae bron i hanner canrif ers cyhoeddi fersiwn Gomer Roberts o Emynau a'u Hawduron, gan John Thickens.

    Hanes pob un
    Ond bellach bobol - does dim esgus!
    Mae gan Caneuon Ffydd - y llyfr trymaf ar gyfer Cristnogion Cymru ers Beibl Peter Williams - Gydymaith.

    Ynddo, mae cefndir pob un o'r 993 o emynau sydd yn Caneuon Ffydd, yn ogystal a hanes awduron y geiriau a chyfansoddwyr y tonau.

    Tu mewn i'w gloriau gwyrdd hefyd mae rhagair sy'n rhoi braslun o hanes 'yr emyn' yr holl ffordd n么l i'r Salmau - emynau'r hen Iddewon.

    Nid llyfr i'w roi'n eich poced yw hwn. Mae dros 730 o dudalennau ynddo - yn llawn o wybodaeth fanwl: cynnyrch tair blynedd o waith ymchwil wnaed gan Delyth Morgans ar ran pwyllgor y Llyfr Emynau Cydenwadol.

    Nid mewn gwacter
    Nid ffeithiau a dyddiadau moel yn unig geir ynddo : mae s么n am yr hyn ysgogodd yr emynwyr i gyfansoddi eu caniadau.

    Nid rhywbeth a gyfansoddir mewn gwacter yw emyn: mae'n gynnyrch profiad ysbrydol, sydd yn aml yn cael ei 'sbarduno gan brofiad bob dydd.

    Cymrwch yr hanes a geir yn y Cydymaith am emyn 736; emyn Dafydd William Yn y dyfroedd mawr a'r tonnau.

    Ynghanol y ddeunawfed ganrif, roedd Dafydd yn byw ar bwys eglwys Llandeilo Tal-y-Bont - eglwys a safai ar lannau Afon Llwchwr yn agos iawn i'r M4 ger Pontarddulais tan tua 1985.

    Bryd hynny, fe'i symudwyd i Amgueddfa Werin Cymru yn Sain Ffagan - lle mae'r gwaith hir o'i hailadeiladu bron a gorffen.

    I'r eglwys honno y ciliodd Dafydd William am gysgod un noson - ar 么l cwympo m芒s a'i wraig!

    Dywedir taw un lem a diamynedd oedd ei wraig ac iddi gloi Dafydd allan ryw noson medd y Cydymaith.

    Roedd y llanw'n uchel, ac fe gosodd Afon Llwchwr fel llyn o gwmpas rhen Dafydd druan.

    Trodd yr emynydd ei feddwl oddi wrth Afon Llwchwr at afon angau ac oddi wrth ei wraig at ei Briod Iesu. Ac yno yn y fynwent, a'r d诺r yn llyfu'r waliau o'i ddeutu, y lluniodd ei bennill enwocaf.

    Emyn y glowyr
    Ond mae mwy o hanes ysgytwol i'r emyn hwn. Cafodd Yn y Dyfroedd Mawr a'r Tonnau ei adnabod fel emyn y glowyr ar 么l i bum gl枚wr lwyddo i aros yn fyw am ddeng niwrnod o dan ddaear yn dilyn llifogydd mewn pwll glo yn y Rhondda.

    Canu'r emyn a gyfansoddwyd gan Dafydd Williams ganrif ynghynt a'u cadwodd yn eu iawn bwyll trwy'r profiad erchyll hwnnw.

    Nid oes straeon mor ddramatig 芒'r uchod ynghlwm wrth bob emyn, wrth gwrs, ond mae digon o hanesion difyr yn britho'r Cydymaith i'w wneud o ddiddordeb i'r darllenydd cyffredin.

    Er yn gampwaith academaidd nid llyfr i ysgolheigion ydyw.

    Rhoi bywyd newydd
    Mae deall cefndir emyn fel Yn y Dyfroedd Mawr a'r Tonnau yn rhoi bywyd newydd iddo fel, yn wir, y gwnaeth i'r pum gl枚wr druan yn eu huffern wlyb a thywyll yn y Rhondda 'slawer dydd.

    A dyna yw dymuniad pwyllgor cyhoeddi'r Cydymaith: Y bydd yn gyfrwng i bawb dreiddio'n ddyfnach i gyfoeth canu'r cysegr yng Nghymru er mwyn bywhau addoliad ein heglwysi a bywyd ysbrydol eu haelodau.

    Mae hynny'n dipyn o n么d: ond mae'r Cydymaith yn dipyn o lyfr!

    Cysylltiadau Perthnasol
  • Gwrando ar sgwrs gyda Delyth Morgans

  • Delyth Morgans - holi'r awdur

  • Lluniau noson cyhoeddi'r gyfrol


  • cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r 91热爆 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 脙垄 ni.

    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu L貌rd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    L么n Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Gl芒n i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    S么n amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 91热爆 Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the 91热爆 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy