|
Crap ar farddoni Diota, cwrso merched a chariad at iaith
Adolygiad Lowri Roberts o Crap ar Farddoni gan Catrin Dafydd, Eurig Salisbury, Aneirin Karadog, Iwan Rhys, Hywel Griffiths. Gwasg Carreg Gwalch. 拢5.
Fyth ers imi glywed am y gyfrol hon yn y wasg rwyf wedi bod yn awchu i'w byseddu a'i darllen fy hun. Pam?
Yn bennaf, am ei bod yn swnio'n ddifyr ac am imi golli'r daith oedd yn mynd law yn llaw 芒'i lansio.
O ystyried fod pob un o'r pump o feirdd yn enillwyr rhai o brif wobrau'r Urdd yn eu tro, diau ei bod yn gyfrol safonol hefyd!
Teg dweud felly bod gen i ddisgwyliadau mawr wrth fentro'i darllen.
Cyfrol yw hi gan griw o feirdd ifanc a ddaeth at ei gilydd yn y coleg yn Aberystwyth ac fel y mae'r teitl bachog yn ei awgrymu mae'n gyfrol ffraeth a digri sy'n llawn hiwmor ac eironi.
Prawf pellach o hyn yw 'sylwadau' rhai o fawrion y genedl am y cerddi:
"Mae'r gerdd yn amddifad o deimlad ac ni chefais ynddi unrhyw wefr," meddai Gerallt Lloyd Owen.
"Peidiwch 芒 phrynu'r gyfrol hon," meddai Myrddin ap Dafydd!
Rhaid pwysleisio, fodd bynnag, nad cyfrol tafod yn y boch mo hon... yn llwyr.
Lle amlwg i Aber Er gwaetha'r honiadau mai "cymysgedd digyfeiriad o stranciadau am gariad, iaith, gwleidyddiaeth, beirdd, tafarndai, traethau a diodydd" a geir yma, mae them芒u cyson yn dod i'r amlwg.
Yn naturiol ddigon mae yma le amlwg i dref Aberystwyth a bywyd cymdeithasol ei myfyrwyr.
Yn hynny o beth, mae'r 'Llew Du' a 'Phantycelyn' yn cael sylw penodol.
Ceir yma hefyd hanesion digri am ddiota a chwrso merched. Mae'r troeon trwstan a gyfyd yn Cywydd y Cwiff a Kebaber yn atgoffa dyn o'r trybestod a'r trybini a ddaeth i ran Dafydd ap Gwilym yn ei gywyddau yntau.
Cariad a serch Ond ymhleth yn y cerddi digri, pigog, mae yma hefyd ganu synhwyrus a theimladwy gyda chariad a serch yn cael lle amlwg.
Hiraethu am gariad coll wna bardd Yn y Pridd tra bo Coelcerth wedi ei seilio ar benderfyniad ingol gwraig i losgi llythyrau ei g诺r fu farw drigain mlynedd yn gynharach yn yr Ail Ryfel Byd.
Mae cariad at iaith - a'r Gymraeg yn benodol - yn cael sylw dyledus hefyd. Cerddi o obaith yw'r rhain yn y b么n gyda Storm, Darluniau a C芒n y Gymraeg yng Ngwent yn arwydd o hyder y to ifanc am well yfory.
Os oes angen prawf ar ein plant a'n pobl ifainc fod barddoniaeth yn hip a chyfoes dyma'r gyfrol i'w darbwyllo o hynny.
Wedi'r cyfan, fel yr awgryma Eurig yn Beirdd v Rapwyr, onid parhad o'n traddodiad barddol yw'r arfer o rapio heddiw?
Er mawr ryddhad ni chefais fy siomi wrth ddarllen y gyfrol.
Braf yw gweld criw o bobl ifainc yn torri cwys eu hunain ac yn gwthio'r ffiniau.
O fewn ei chloriau mae yma gerddi fyddai'n gydnaws i'w clywed ar lwyfan eisteddfodol, yn y dafarn neu ar beiriant MP3.
Er y tynnu coes a'r ffraethineb nid crap o gyfrol mo hon.
Gweler Gwales
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 91热爆 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|