| ![Llais Ll锚n](/staticarchive/b41c8d5d66e444596d46ec589357f9f674e7d659.gif) |
![adolygiadau a straeon](/staticarchive/66cdaad7d29f9d30d315220737b34495824b4848.gif) |
![adolygiadau a straeon](/staticarchive/74f3ca617527bf11cc1bfe20276ae36a0e9962fb.gif) |
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
|
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
Llywelyn Fychan - Ysgol yr Ynfydion Dychymyg byw plentyn ysgol
Llywelyn Fychan - Ysgol yr Ynfydion. Stori a darluniau gan David De Thuin. Addasiad Cymraeg gan Alun Ceri Jones.
Cyhoeddwyd gan Dalen. 46 tudalen, 拢9.99. Darllenwyr 8-15 oed.
Does na'm dwywaith fod y rhan fwyaf o blant gyda dychymyg byw dros ben - a dyna sut un yw Llywelyn Fychan hefyd - bachgen ysgol sydd - oherwydd ei ddychymyg - yn methu 芒 helpu ei hun rhag mynd gam ymhellach na'r gweddill er mwyn canfod y gwir.
Llyfr ar ffurf stribed yw hwn, ond yn un eithaf hir, felly nid yw'n addas i blant sydd yn disgwyl gorffen eu stori cyn gwely bob nos (oni bai eu bod yn ddarllenwyr cyflym!).
Mae'r darluniau yn syml ond y tudalennau yn brysur gydag o leiaf ddeg sefyllfa/cart诺n gwahanol ar bob un.
Nid yw'n amlwg pwy sy'n dweud beth bob tro.
Hawdd i'w dilyn Wedi dweud hynny, mae'r stori yn un eithaf hawdd i'w dilyn: Un bore mae tri disgybl newydd yn ymuno 芒'r ysgol ond mae na rhywbeth "od" amdanyn nhw a thros nos mae cymeriad ac ymddygiad rhai o ffrindiau Llywelyn Fychan yn newid - dydy nhw ddim eisiau chwarae mwyach ac mae nhw'n siarad yn rhyfedd - a hyn heb unrhyw eglurhad.
Damcaniaeth Llywelyn yw fod y brifathrawes, Miss Eirlys Rhoswen, wedi dyfeisio peiriant dofi y disgyblion mwyaf direidus, ac mae'n penderfynu fod yn rhaid iddo fynd i wraidd y dirgelwch.
Ond trwy ei waith ditectif daw'n amlwg fod gan y tri disgybl newydd ddylanwad ar y newid yn ei ffrindiau ysgol, ac fe a'r antur ag o i ganol coedwig fawr lle mae carfan o ellyllon wedi ymsefydlu er mwyn lansio'u hymgyrch i reoli'r byd - gan ddechrau gyda phlant yr ysgol.
O Wlad Belg Does na'm llawer o straeon wedi eu hysgrifennu a'u cyflwyno ar y ffurf yma yn y Gymraeg - nid yw'n draddodiad yma, fel ag y mae mewn rhannau o Ewrop - ac o Wlad Belg y daw y llyfr yn wreiddiol, wedi ei gyhoeddi gan Casterman yn 2002.
Rwy'n sicr yn gweld marchnad ar ei gyfer yng Nghymru - ond mae'n gwestiwn gen i a fydd yn apelio at y mwyafrif.
Gydag ef mae poster maint A3 o Lywelyn Fychan.
Gweler Gwales
Cysylltiadau Perthnasol
Derwyddon
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif)
Y Triawd Amser
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif)
![cyfannwch](http://www.bbc.co.uk/cymru/pobolycwm/images/headers/cas_header_427x38.gif) |
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
|
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
| ![llyfrau newydd](/staticarchive/5bba0577704a9dbedcf678c36d1ebc308d9020d5.gif) | | ![adnabod awdur](/staticarchive/82a08e191b1cce0d6479770ef13f18465459a19b.gif) | | ![gwerthu'n dda](/staticarchive/1c83813ec6e9f5fe942bc15532710e416a5c0bb2.gif) | | ![son amdanynt](/staticarchive/4bef5678b435a262c7dc03f1cff0c5c4c26363fd.gif) | ![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) | ![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 91热爆 Cymru'r Byd.
|
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
| ![pwy di pwy?](/staticarchive/68f33ef225a8c1e5f20bd2e136111419e3a29fa1.gif) | | ![dyfyniadau](/staticarchive/3d038b21345e861430bbd3844065eeda6ae844f7.gif) | ![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) | ![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
|
|
|