| |
|
|
|
|
|
|
|
Galwad y Blaidd Hanes rhyfeddol o oes yr arth a'r blaidd . . .
Caron Wyn Edwards yn sôn am Galwad y Blaidd gan Cledwyn Fychan. Cymdeithas Lyfrau Ceredigion, £14.99.
Mae i'r blaidd le arbennig yn hanes Cymru - gyda'r gair yn elfen mewn dros 200 o enwau lleoedd yn ôl llyfr sy'n cael ei gyhoeddi Nadolig 2006.
Yn wir, cyn bwysiced oedd yr anifail hwn y mae wedi sefyll ochr yn ochr â'r ddraig fel symbol o'n gwlad.
O'r creadur rheibus a gafodd ei ladd gan Gelert ar aelwyd y Tywysog Llywelyn i'r Blaidd Drwg y bu'n rhaid i Dr Who ymladd ag ef yn ddiweddar, does dim gwadu grym y ddelwedd o flaidd - o hen chwedlau gwerin sy'n mynd yn ôl i niwloedd amser i ddiwylliant poblogaidd dechrau'r unfed ganrif ar bymtheg.
Y mae'n ddelwedd sy'n pontio canrifoedd a diwylliannau.
Bellach, mae cyfrol newydd a gyhoeddir gan Gymdeithas Lyfrau Ceredigion yn mynd i'r afael â'r pwnc difyr hwn, o arferion byd natur i darddiad enwau lleoedd ac o hanes a daearyddiaeth i wyrthiau rhai o'r seintiau Celtaidd.
Yn ffrwyth ymchwil trwyadl, Galwad y Blaidd gan Cledwyn Fychan (£14.99), yw'r llyfr cynhwysfawr cyntaf yn y Gymraeg i drafod ffenomenon y blaidd.
Olrheinir ei hanes fel rhywogaeth ac edrychir yn fanwl ar ei ddylanwad ar lên gwerin a chwedloniaeth Cymru.
Gyda'i doreth o luniau llawn lliw, bydd y gyfrol 320 o dudalennau hon yn drysorfa o'r annisgwyl, yr arswydus a'r rhyfeddol, lle y gall y sawl sydd â diddordeb ysol yn y pwnc a'r darllenydd mwy hamddenol fel ei gilydd ddarganfod:
• O ble y daeth bleiddiaid
• Sut y byddai bleiddiaid yn trefnu eu cnud
• Pam ddiflannodd bleiddiaid o Gymru
• Pam y cai bleiddiaid eu hela... a sut
• O ble y tarddodd arswyd pobl tuag at fleiddiaid
• Ymhle a phryd y cofnodwyd yr achosion olaf o ladd bleiddiaid yng Nghymru
• Enwau pobl a llefydd sy'n tystio i'r blaidd
• Yr achosion honedig o fleidd-ddynion yng Nghymru.
Yr awdur
Cafodd Cledwyn Fychan ei fagu ym mhentref Llanfair Talhaearn, yn un o froydd mwyaf diwylliedig Sir Ddinbych, cyn symud i ogledd Ceredigion yn Pumdegau.
Er mai fel Gwarchodwr Cynorthwyol yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth yr enillai ei fara beunyddiol am ran helaethaf ei yrfa, fel hanesydd lleol, arweinydd teithiau cerdded a darlithydd y gwnaeth enw iddo'i hun.
O fewn meysydd eang ei arbenigedd ceir hel achau, hanes beirdd y canol oesoedd a hanes y ci defaid Cymreig.
Ymddeolodd o'r Llyfrgell Genedlaethol bellach, ond erys cyn brysured ag erioed. Y mae'n cadw tyddyn a hon yw ei ail gyfrol.
Cyhoeddwyd y gyntaf, Nabod Cymru yn 1969 ac mae'r oedi hir cyn i'r gyfrol hon weld golau dydd yn dyst i'w ddiwydrwydd a maint ei ymchwil ar ei chyfer.
Gweler Gwales
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
| | | | | | | | | | Sôn amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 91Èȱ¬ Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|
|