Llyfr Mawr y Plant - ffeithiau bach Ffeithiau difyr am Lyfr Mawr y Plant a'i awduron
Ffeithiau bach Llyfr Mawr y Plant
Sylfaenwyd Llyn y Felin ar lyn melin go iawn yn Llangwryfon.
Sylfaenwyd Sion Blewyn Coch ar lwynog dof go iawn a fu'n cael ei gadw ar aelwyd J O Williams ym Methesda.
Cyhoeddodd J O Williams nofel, Trysor yr Incas yn 1970.
Ysgrifennodd Jennie Thomas draethawd ymchwil ar safle'r ferch ferch yng Nghyfreithiau Hywel Dda.
Cwmni Hughes a'i Fab yn Wrecsam oedd yn cyhoeddi Llyfr Mawr y Plant.
Saith o falwod, chwe phry genwair, pum cacwn, pedair Siani flewog, tri llyffant, dau bry llwyd ac un pry bach gafodd Wil Cwac Cwac a chriw Llyn y Felin i ginio un diwrnod.
Yng Ngherrig Mawr ar ochr Yr Wyddfa yr oedd Sion Blewyn Coch yn byw. Twll Daear oedd enw ei d欧.
Clustogau mwsogl a chrwyn defaid oedd ar y cadeiriau yn Nhwll Daear gyda charped o redyn coch a melyn dros y llawr.
Doedd neb gwell na Si芒n Slei Bach am glywed arogl: "Yr oedd ei ffroen hi'n denau fel papur sidan, ac yn mynd a dod o hyd fel siswrn barbar."
Bu cyfres radio i blant o anturiaethau Wil Cwac Cwac.
Symudodd Jennie Thomas i fyw yn Aberystwyth wedi iddi ymddeol.
Pan dorrodd Sion Blewyn Coch a Sian Slei Bach i gwt ieir Eban Jones lladdwyd 12 cywen ganddynt. "Yr oedd yr olaf un yn mynd i agor ei phig i weiddi, ond dyma ddannedd Si么n Blewyn Coch yn gafael am ei gwddw nes ei bod hi'n gwneud s诺n fel s诺n d诺r yn gwagio o botel."
Byddai Jennie Thomas a J O Williams yn teithio i gyfarfodydd yng nghartref yr arlunydd Peter Fraser yn neheudir Lloegr i drafod gwaith ac fe ddaethant yn ffrindiau mawr.
Bu Jennie Thomas a J Glyn Davies yn cydweithio i gyfansoddi caneuon ar gyfer c么r ym Methesda.
Hwmffra oedd enw tad Wil Cwac Cwac a Martha Plu Chwithig ei fam.
Y Parchedig Huw Jones chwaraeai ran Wil Cwac Cwac yn y gyfres radio gydag Emily Davies yn Martha Plu Chwithig a Charles Williams yn Hwmffra.