|
Yn Fy Lle Meddiannu ei lle
Adolygiad meg Elis o Yn Fy Lle - cerddi gan Karen Owen. Cyhoeddiadau Barddas. 拢6.95.
F没m i erioed yn or-hoff o'r disgrifiad o rywun fel un "agos at ei lle". Gwn mai canmol yw'r bwriad, ond i mi mae naws gwaseidd-dra ar yr ymadrodd - ac nid cyd-ddigwyddiad, chwaith, mo'r ffaith mai "ei lle" ddywedais i, gan mai i ddisgrifio merched, yn ddi-ffael, y clywais ei ddefnyddio.
Dyna ddaeth i'm meddwl yn syth wrth weld teitl y llyfr hwn. Ac, yn wir, petaech yn bwrw golwg sydyn dros destunau rhai o'r cerddi, hawdd fyddai neidio i'r casgliad mai canu cymdeithasol, at iws gwlad, sydd yma.
Cerddi i nodi cau siop cigydd; cerddi cyfarch ar achlysur llwyddiannau Eisteddfodol - canu cyfforddus rhywun sy'n "agos at ei lle", felly?
Hmm, dwn i'm. Mae'r canu cyfarch yn grefftus dros ben - ond craffwch fwy ar rai o linellau Cau siop Gareth Bwtsiar. Hawdd dychmygu bardd gwlad yn gwneud rhywbeth eithaf confensiynol a sentimental o hyn, ond gwrandewch:
"Oherwydd bwtsiar arall,
芒 llai o gonsyrn na'r llall
ddaw 芒'r 'arch' nawr i'r farchnad
a rhoi'r arch yn ei gig rhad;"
Dyma linellau sy'n peri i rywun annifyrru, nid setlo'n gyfforddus yn ddyfnach i'w phriod le.
Ddim yn bell 'Daeth y bardd ddim yn ddaearyddol bell i gynhyrchu rhai o'i cherddi mwyaf ysgytwol, er i mi gael blas hefyd ar gerddi Tywod yr Aifft, a rhai o gerddi Ynysoedd.
Ond yn y gwaith gafodd fwyaf o argraff, sef Cerddi'r Begar Bach, dengys wir allu ei dychymyg i deithio.
Nid cyd-ddigwyddiad yw mai Gwybod fy lle yw teitl cerdd gyntaf y dilyniant grymus hwn, gyda holl gynodiadau'r ymadrodd yn rhoi rhagflas i'r darllenydd o'r creulondeb a'r realiti sydd yng ngweddill y cerddi.
Ehangder meddwl Pan symudwn i Cerdd a Chrefft, a'r cerddi a ysgrifennwyd i gyd-fynd 芒 gwaith celf Eisteddfod Eryri, cawn brawf eto o ehangder meddwl a dychymyg Karen Owen: mae testun cerdd megis Mae'r Gwynt yn Fyr wedi ei wreiddio'n solet yn "lle" a chefndir y bardd, ond y ddawn dweud yn iasol ac yn unrhyw beth ond parchus a gwasaidd.
Nid "gwybod ei lle" y mae awdur y gyfrol hon, ond ei feddiannu. Ac y mae gwahaniaeth. Holi Karen Owen Gweler Gwales
Cysylltiadau Perthnasol
Holi Karen Owen
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 91热爆 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|