| ![Llais Ll锚n](/staticarchive/b41c8d5d66e444596d46ec589357f9f674e7d659.gif) |
![adolygiadau a straeon](/staticarchive/66cdaad7d29f9d30d315220737b34495824b4848.gif) |
![adolygiadau a straeon](/staticarchive/74f3ca617527bf11cc1bfe20276ae36a0e9962fb.gif) |
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
|
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
Y Gaer Fechan Olaf Dilyn hanes g诺yl fawr y Cymry
Adolygiad Dafydd Whittall o Y Gaer Fechan Olaf. Hanes Eisteddfod Genedlaethol Cymru 1937-1950 gan Alan Llwyd. Cyhoeddiadau Barddas. 拢9.95
Mae Alan Llwyd wedi llafurio ers bron i ddeng mlynedd i ymchwilio a chasglu defnydd am hanes yr Eisteddfod Genedlaethol yn ystod hanner cyntaf y ganrif ddiwethaf.
Bwriadodd yn wreiddiol gyhoeddi un gyfrol ond buan y sylweddolodd fod y defnydd yn drech na'r hyn y gellid ei osod rhwng dau glawr ac fe drodd y gyfrol yn gyfrolau: 1900-1918 Cyfnod y Rhyfel Mawr
1919-1936 Cyfnod Y Dirwasgiad
1937-1950 Cyfnod Sefydlu'r Rheol Iaith-Yr Ail Ryfel Byd -a'r Eisteddfod yn Ymladd am ei Bodolaeth.
Y Gyfro1 1937-1950 a gyhoeddir eleni, dan y teitl Y Gaer Fechan Olaf a bydd y gweddill yn ymddangos yn flynyddol yn eisteddfodau 2007 ac 2008.
Mae hyn yn atgoffa dyn o'r anrhegion Nadoligaidd a ddoi o law T Rowland Hughes yn flynyddol wrth iddo gyhoeddi ei nofelau a oedd yn disgrifio brwydrau yn erbyn grymoedd cymdeithasol, dycnwch mewn cyfnod anodd, pwysigrwydd diwylliant ,hiwmor fel modd i gynnal pobl ac ymwybyddiaeth o arwahanrwydd y Cymry.
Dyma hefyd y them芒u a gawn yn y gyfrol hon gan Alan Llwyd ond ei fod yn dod atynt o safbwynt yr hanesydd sy'n gwau beirniadaeth lenyddol, dadansoddiad gwleidyddol ac astudiaeth gymdeithasol yn grefftus gyda'i gilydd.
Sefydlu'r rheol Gymraeg Mae cyfnod y gyfrol hon yn arbennig o ddiddorol. Dyma pryd y sefydlwyd y rheol Gymraeg. Cymerodd y trafodaethau o 1937 hyd 1950 pan welwyd gweithredu'r rheol yn llawn am y tro cyntaf yn Eisteddfod Caerffli.
Mae'r awdur yn olrhain yr hanes yn fanwl ddiddorol.
Dyma hefyd gyfnod y rhyfel. Os edrychwch yn unig ar gloriau Cyfansoddiadau 1940 a 1946 gallech daeru bod dwy Eisteddfod wedi eu cynnal yn Aberpennar - ond Eisteddfod Radio oedd y cyntaf pan enillodd T Rowland Hughes ar ei awdl Pererinion ac ym '46 cafwyd awdl fawr Geraint Bowen i'r Amaethwr.
Cafwyd dwy eisteddfod arall mewn trefi cyfagos sef Hen Golwyn '41 (steddfod radio arall i bob pwrpas) a Bae Colwyn '47.
Yn '39 aeth y steddfod i Ddinbych heb na chadeirio na choroni - er bod un o enwogion tref Dinbych, Gwilym R Jones, wedi cipio cadair Caerdydd '38 gyda'i awdl Rwy'n edrych dros y bryniau pell.
Soniwyd eisoes am Hen Golwyn ac yno yr enillodd J.M. Edwards gyda'i bryddest Peiriannau y gellid ei disgrifio fel un o'r pryddestau modern cyntaf.
Cyfnod cyffrous Yn llenyddol bu'n gyfnod cyffrous ac amrywiol gan orffen yng Nghaerffili gydag awdl Y Glowr, Gwilym R. Tilsley a phryddest Difodiant, Euros Bowen.
Mae Alan Llwyd yn delio'n fanwl mewn dwy bennod dreiddgar a'r awdl a'r bryddest yn y cyfnod hwn.
Teg, serch hynny, yw nodi mai barn un person sydd yma ac rwy'n sicr y bydd nifer yn anghytuno a'i farn ar rai o'r cerddi.
Darllenwch, er enghraifft, ei safbwynt am werth yr awdl foliant i'r Glowr sy'n croesddweud poblogrwydd y gerdd ymhlith cynifer ar hyd y blynyddoedd.
Un o gymwynasau mawr y gyfrol yw ei bod yn ein harwain yn 么l at gerddi arobryn a oedd, efallai, wedi mynd dros gof.
Ceir yn y gyfrol hefyd ymdriniaeth 芒 chystadlaethau llenyddol eraill yn farddoniaeth a rhyddiaith.
Dau hanesydd Dyma gyfrol felly sy'n cwmpasu hanes llenyddol a gwleidyddol Yr Eisteddfod - ac er mor fanwl ydyw, mae llawer mwy y gellid ei ddweud gan fod Yr Eisteddfod yn sefydliad mor amlweddog a chymhleth.
Dau wir hanesydd sydd gan yr Eisteddfod, Hywel Teifi Edwards ac Alan Llwyd. Mae'r ddau yn gweithio ar gyfnodau gwahanol, a gobeithio rhyw ddydd y gwelwn eu cyfrolau yn cyfarfod o safbwynt llinyn amser.
Yn y cyfamser, edrychwn ymlaen at y ddwy gyfrol arall yn y gyfres hon gan Alan gan obeithio y bydd yn ymroi i gwblhau hanes yr Eisteddfod yn ail hanner y ganrif ddiwethaf. Dafydd Whittal yw cadeirydd presennol Cyngor yr Eisteddfod Genedlaethol. Gweler Gwales
Cysylltiadau Perthnasol
Gwefan Canrif o Brifwyl
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif)
![cyfannwch](http://www.bbc.co.uk/cymru/pobolycwm/images/headers/cas_header_427x38.gif) |
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
|
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
| ![llyfrau newydd](/staticarchive/5bba0577704a9dbedcf678c36d1ebc308d9020d5.gif) | | ![adnabod awdur](/staticarchive/82a08e191b1cce0d6479770ef13f18465459a19b.gif) | | ![gwerthu'n dda](/staticarchive/1c83813ec6e9f5fe942bc15532710e416a5c0bb2.gif) | | ![son amdanynt](/staticarchive/4bef5678b435a262c7dc03f1cff0c5c4c26363fd.gif) | ![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) | ![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 91热爆 Cymru'r Byd.
|
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
| ![pwy di pwy?](/staticarchive/68f33ef225a8c1e5f20bd2e136111419e3a29fa1.gif) | | ![dyfyniadau](/staticarchive/3d038b21345e861430bbd3844065eeda6ae844f7.gif) | ![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) | ![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
|
|
|