|
Glas Cariad a thyndra yn Y Wladfa
Adolygiad Caron Wyn Edwards o Glas gan Hazel Charles Evans. Carreg Gwalch. 拢6.50.
Dros y blynyddoedd diwethaf, mae ein diddordeb ni fel Cymry, ym Mhatagonia a'i phobl wedi cynyddu'n gyson, nes ei fod bellach bron yn ymylu ar fod yn rhyw fath o obsesiwn.
Gwyliau draw yn y Wladfa, cyfresi teledu a radio fel ei gilydd yn adrodd ac yn ail adrodd hanes y Mimosa a disgynyddion y rhai a hwyliodd arni - maent yn rhan o fywyd bob dydd bellach.
Felly hefyd llenyddiaeth sy'n mynd i'r afael 芒'r pwnc, fel y gwelsom gyda nofel fuddugol Gwobr Goffa Daniel Owen yn Eisteddfod Genedlaethol Eryri a'r Cyffiniau draw yn y Faenol y llynedd.
Ffres a chyfoes Un o'r diweddaraf i'w hychwanegu at y rhestr yw'r nofel Glas gan Hazel Charles Evans ac, yn wahanol i lawer o'r cyfrolau eraill, mae'n olwg ffres a chyfoes ar gymdeithas Patagonia, a'r berthynas rhwng ei thrigolion ac unigolion o'r Hen Wlad.
Yn ganolog i'r nofel ysgafn, hynod ddarllenadwy hon - sy'n ein hatgoffa fod rhamant yn dal yn fyw ac yn iach - mae taith garwriaethol y prif gymeriad, Paula, ac Emrys, yr Archentwr o Gymro.
Dyma ddau gymeriad cwbl wahanol i'w gilydd, sy'n canfod rhyw dir cyffredin wrth droedio'r paith.
Er yn hanu o'r 'Hen Wlad' y mae llawer o ddelfrydu amdani, mae Paula - sy'n ymchwilydd gyda Radio Cymru - yn brwydro gyda'i chefndir Seisnig, ei thad, a'i phartner cyfalafol, yn ogystal 芒'r ffaith ei bod yn ariannog.
Ariannin heddiw Mae Emrys ar y llaw arall, sy'n un o ddisgynyddion y Cymry cynnar hynny a ymfudodd i'r Ariannin, yn brwydro gyda'r ffordd y mae'r wlad yn cael ei rheoli heddiw - y tlodi a'r posibilrwydd y bydd yr iaith Gymraeg yn diflannu o'i gynefin.
Mae ganddo hefyd gefndir o ormes gwleidyddol a chlwyfau personol o ganlyniad i hyn.
Mae Paula yn gweld teithio draw i Batagonia i recordio rhaglen newydd ar gyfer y radio yn gyfle i ddianc o'i bywyd yng Nghymru, yn ogystal ag yn gyfle i wreiddio'i hunan mewn diwylliant sydd wedi cael ei ddelfrydu droeon, ac sydd - yn wrthgyferbyniad llwyr i'w phlentyndod a'i magwraeth ei hun - yn gynhenid Gymreig.
Hen a newydd Cawn gipolwg ar yr hen Gymry diolch i bortread Hazel Charles Evans o Nel, nain Emrys, yn ogystal 芒 chael argraff o'r Cymry 'newydd' gyda chymeriadau diddorol fel Maxima, a'i hawydd i ddysgu Cymraeg.
Ac wrth gwrs, yn ganolog i'r stori, cawn weld cyfyng-gyngor Paula yn dwysau wrth i'r amser iddi ddychwelyd i Gymru nes谩u.
Adnabod yn iawn Hawdd gweld o'i hysgrifennu, fod Hazel Charles Evans yn meddu ar adnabyddiaeth drwyadl o Batagonia a'i phobl.
Mae disgrifiadau cyfoethog o'r wlad yn hydreiddio ei nofel, a llwydda'r awdur i blethu sawl thema bwysig i'r stori - o'r cariad-bron-yn-amhosib i sefyllfa'r iaith Gymraeg, ac o dlodi a chyfalafiaeth i wrthdaro rhwng y genhedlaeth h欧n a'r to ifanc.
Stori garu Rhinwedd arall o'r nofel yw'r modd y mae'r awdur yn gwau'r Gymraeg a'r Sbaeneg gyda'i gilydd - a hynny mewn sgwrs sy'n swnio'n gwbl naturiolac sydd yn adlewyrchu'r sefyllfa wleidyddol ac ieithyddol.
Wedi dweud hynny stori garu sydd yma yn ei hanfod sy'n atgoffa rhywun ar brydiau o nofelau Saesneg fel Evening Class Maeve Binchy.
Mae'n hynod ddarllenadwy, yn hwyliog ac yn cynnwys holl rinweddau drama ysgafn neu opera sebon heb ddim o'r ffaeleddau.
Dyma gyfrol i'w darllen dros wydriad bach o win gyda'r nos... mwynhewch. Gweler Gwales
Cysylltiadau Perthnasol
Straeon o Batagonia
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 91热爆 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|