|
Gair, Sain a Llun Difyrru a'i lach yn ei law!
Adolygiad Glyn Evans o Gair, Sain a Llun gan Lyn Ebenezer. Gwasg Gwynedd. 拢695.
Gellir maddau imi am deimlo ar adegau fod Lyn Ebenezer wedi symud i mewn i fyw acw dros y Nadolig a'r flwyddyn newydd.
Yn sicr, hwyliodd well bord nag ambell i ginio Nadolig gyda chwech o lyfrau yn gysylltiedig ag ef yng nghatalog llyfrau newydd Cyngor Llyfrau Cymru!
Yn wyneb y fath ddiwydrwydd gallwn fod wedi trefnu nid Ddiwrnod Lyn Ebenezer ond yn benwythnos gyfan!
Llawn cystal, felly, ei fod yn 么l ei gyfaddefiad ei hun yn un sy'n ystyried sgrifennu yn "bwysig" iddo ac yn destun mwynhad.
"Mae'r broses o ysgrifennu yn rhywbeth pwysig iawn i mi," meddai yn y gyfrol hunangofiannol hon, Gair, Sain a Llun, lle dywed hefyd mai un o'i freuddwydion cynharaf fu medru "byw yn llwyr ar ysgrifennu creadigol".
Yr eironi yw, ychwanega, mai dim ond wedi iddo gael y sac o fyd teledu y daeth hynny'n bosib.
Ymroi gydag awch O gael y cyfle, ymr么dd iddi gydag awch a briodolir gan amlaf i was newydd ar ei wythnos gyntaf!
"Rhwng Medi 2004 a Medi 2005 ysgrifennais gynifer 芒 270,000 o eiriau ar gyfer llyfrau yn unig (a difetha drwy draul, ddau fysellfwrdd)," meddai.
Ychwaneger at hynny weithgarwch arall fel cyfraniadau i gylchgronau a dywed fod y cyfanswm yn nes at 300,000.
Mae hynny yn dipyn o waith!
Y llyfrau Gyda Gwasg y Dref Wen mae newydd gyhoeddi Adar Brith. I Gomer cydweithiodd ar hunangofiant Richard Thomas, Dic y Fet. Daeth tair cyfrol o'r Lolfa, Si So Jac y Do yng nghyfres yr Heliwr, cydweithiodd ar Hiwmor Dai Jones a chyhoeddwyd Hiwmor Lyn Ebenezer ei hun!
Ac wele Gair, Sain a Llun sy'n ddilyniant i'w hunangofiannau, Cae Marged a Chofion Cynnes.
Gorddio S4C Daw yn eglur yn fuan iawn fod hon yn gyfrol y teimlai Lyn reidrwydd i'w sgwennu a hynny er mwyn cael bwrw ei lid yngl欧n ag un neu ddau o bethau.
Mae mwy nag un asgwrn cynnen yma -i gyd yn ymwneud ag S4C ac o'r cychwyn cyntaf daw yn amlwg iawn na fydd Lyn yn gadael dim yn ei ewyllys i'r sianel a fu'n ei gyflogi ac a wnaeth, yn ei farn ef, ddau dro s芒l iawn ag ef.
Un feirniadaeth gyson ganddo yw tuedd y Sianel, yn ei farn ef, i ladd rhaglenni sy'n llwyddiant.
Yn ei achos ef digwyddodd hynny yn gyntaf gyda chyfres Pwy Sy'n Perthyn i'w dilyn gydag ergyd arall llawer caletach yn nes ymlaen pan benderfynodd S4C daro yn ei thalcen y gyfres Hel Straeon yr oedd Lyn yn un o'i chyflwynwyr.
Mewn llythyr "Lladdwyd ni gan lythyr o 82 o eiriau. Dyna oedd swm diolch S4C am wasanaeth clodwiw o 11 mlynedd," cwyna gan ychwanegu: "Yr eironi oedd mai ein blwyddyn lawn olaf mewn bodolaeth oedd hefyd ein blwyddyn orau."
A hynny'n cadarnhau yn ei feddwl ei ddamcaniaeth fod traddodiad o fewn y Sianel "bod angen i bopeth llwyddiannus gael ei ladd".
"Ni allaf ond teimlo'n dragwyddol chwerw," meddai am yr holl beth.
"Roedd creu rhyw ymerodraeth ym Mharc T欧 Glas yn bwysicach na darparu'r hyn roedd y gwylwyr ei eisiau," meddai.
Perthyn elfen llawer iawn mwy personol i achos arall y mae'n s么n amdano - colli ei swydd fel un o gyflwynwyr y rhaglen Pnawn Da dros flwyddyn yn 么l.
Ac S4C - yn hytrach na gwneuthurwyr y rhaglen oedd yn ei gyflogi - sy'n cael y bai eto am yr hyn a ddisgrifia fel penderfyniad dienw ac yntau ond bedwar mis i ffwrdd o'i ymddeoliad.
Straeon ac atgofion Er bod i'r cwenciau hyn le canolog a phwysig yn Gair, Sain a Llun ac er bod cael mynegi ei ofid yn amlwg o bwysigrwydd i Lyn nid dyma swm a sylwedd y gyfrol ddarllenadwy hon ac y mae ganddo nifer o straeon ac atgofion difyr a diddorol i'w hychwanegu at gynnwys Cae Marged a Chofion Cynnes.
Yn amlwg, mae ei atgofion ychwanegol am ei gyfnod gyda'r Cymro o ddiddordeb personol i mi gan ei fod yn gyfnod yr oeddem ill dau yn cydweithio a'n dyled yn gyffelyb i'r golygydd ar y pryd, Llion Griffiths.
Mae yma sawl stori ddifyr a doniol am newyddiadura ac yn arbennig newyddiadurwyr yn cael eu hadrodd yn ddiddan.
Bocs sebon Mae ambell i focs sebon i'w ddringo hefyd.
Fel un sy'n cael ei gyfrif yn hac o hil gerdd does gan Lyn ddim cariad o gwbl tuag at ymhonwyr newyddiadurol.
"Peth arall sy'n fy ngwylltio yw'r modd y mae pobl yn derbyn bod colofnydd wythnosol neu fisol yn newyddiadurwr per se," meddai gan ychwanegu na fyddai'r "parasitiaid" hyn yn gwybod lle i droi o gael eu taflu "i ganol stori wirioneddol fawr".
Safon iaith Mae a'i lid hefyd ar Gymraeg gwallus - yn enwedig ym maes darlledu lle mae mwy a mwy o gloffni y dyddiau hyn a "Saesneg diangen" ar fwletinau newyddion.
"Sialens yw her bellach. Rhoddir teyrnged yn hytrach na'i thalu," ac yn y blaen
Ond yr enghraifft odidocaf o ddiffyg crebwyll oedd rhywun yn defnyddio'r gair Cymraeg "diffuant" fel cyfieithiad Cymraeg o "defiant"!
Cyfieithu llyfrau Cwyn arall y byddwn i'n ei chael yn hawdd iawn ei hategu yw yr un yn erbyn yr holl gyfieithu nofelau a straeon o'r Saesneg i'r Gymraeg.
"Ni welaf unrhyw bwrpas o gwbl yn y fath ymarferiad. Pam darllen Harry Potter yn Gymraeg pan fod modd gwneud hynny yn yr iaith wreiddiol? Ofnaf fod Cymru wedi troi'n genedl ail-law," meddai.
Braf oedd cael rhywun mor hawdd cydweld ag ef yn y t欧 dros y Dolig.
Gallwn edrych ymlaen yn awr at glywed beth - a faint - fydd ganddo ar gyfer hosan y flwyddyn nesaf. Hwyl ar y sgwennu.
Adolygiad ar Gwales
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 91热爆 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|