|
Hewl Cofnod annigonol o un o gerddorion gorau Cymru
Adolygiad Dafydd Meirion o Hewl - Stori Geraint Griffiths gan Geraint Davies a John Davies. Gwasg Gomer, 拢7.99
Canwr, cerddor, nyrs a Gwyddel. Ie, Gwyddel yw Geraint Griffiths, yn 么l ei basport beth bynnag!
Ond eto mae'n Gymro i'n carn - erbyn hyn, beth bynnag er iddo gyfaddef i'w Gymreictod fod yn un simsan ar brydiau.
Un o Bontrhydyfen yw Geraint, yn byw yn awr yn Nghaerfyrddin. Erbyn hyn, o bosib, mae'n fwy adnabyddus fel actor ond, ac yntau'n dod o deulu cerddorol, does dim rhyfedd iddo wneud ei farc ar Gymru fel cerddor a chanwr.
Dechreua'r stori yn y dechrau - ei blentyndod. Rhaid cyfaddef, rwy'n cael hanes plentyndod yn anniddorol ar y cyfan os nad oes rhywbeth mawr, trychinebus, wedi digwydd a lywiodd weddill eu bywydau.
Roeddwn ar d芒n eisiau clywed amdano yn codi ei git芒r gyntaf (cefais yr un rhwystredigaeth wrth ddarllen hunangofiant Meic Stevens).
Yn wir, cawn wybod ar dudalen naw ei fod wedi cael ukelele yn anrheg Nadolig pan yn saith oed a chawn ei hanes yn canu mewn cyngherddau ac eisteddfodau pan yn fachgen - ond does dim s么n am git芒r tan dudalen 26!
Caneuon y Beatles Ei gyfaill, Hefin Elis, oedd y cyntaf i brynu git芒r, a dysgodd y ddau ganu'r offeryn a dysgu caneuon y Beatles ymysg eraill.
Cwyd enw Hefin drwy'r llyfr. Nid yn unig yr oedd yn rhannu'r un ysgol ag o ond bu Geraint yn ymwneud ag Edward H, yn aelod o Injaroc yn cymryd rhan yn Nia Ben Aur (cyfarwyddwr cerdd: H Elis) a chan i Hefin fod yn gynhyrchydd ac yn un o gyfarwyddwyr Sain gyda'r cwmni hwnnw y gwnaeth gr诺p Geraint, Eliffant, ei ddau albwm.
Yn Llundain Yn Saesneg, fel y rhan fwyaf yn y 1960au, y canai Geraint a'i grwpiau cynnar ym Mhontrhydyfen a Llundain, ac yntau wedi symud yno yn nyrs.
Ffurfiodd sawl gr诺p yn Llundain gan fod yn gerddor llawn amser am un cyfnod byr.
Dechreuodd ddod yn 么l i Gymru yn achlysurol, yn ymddangos ar lwyfan ac ar record gydag Edward H.
Cafodd wahoddiad i ymuno ag Injaroc, ac erbyn iddo ffurfio Eliffant roedd o a'i wraig - sydd o dras Wyddelig (a dyna pam ei fod o ei hun yn dal pasport Gwyddelig erbyn hyn) - wedi penderfynu symud i Gymru.
Wedi cychwyn araf, mae'r llyfr erbyn hyn yn symud yn gyflym. Mae'n cymryd rhan Niclas y Glas mewn opera roc, mae'n ennill C芒n i Gymru yn 1984 ac opera roc arall yn ystod Eisteddfod Llambed.
Roedd yn cael cymaint o waith nes iddo benderfynu rhoi'r gorau i'w waith yn nyrs a dod yn ganwr llawn amser.
Gwaith actio Cymerodd un o'r prif rannau yn Teilwng yw'r Oen, triniaeth fodern o'r Meseia - mewn rhaglen deledu ac ar S4C, ac mae'n cyhoeddi ei albwm cyntaf ar ben ei hun, Madras.
Daw gwaith actio yn sgil y canu. Mae hyd yn oed yn cyflwyno'r rhaglen blant, Ffalabalam.
Caiff waith radio, mae'n cyflwyno cwisiau, mae'n ymddangos mewn pantomeim ac mae'n cymryd rhan mewn sawl ffilm.
Mae'n ymddangos, hefyd, ar fwy nag un tro, yn Pobol y Cwm. Erbyn hyn, mae'n fwy o actor nac o ganwr a cherddor.
A thrueni hynny - gyda'i lais cryf, a'i allu anhygoel ar y git芒r (ac offerynnau eraill), mae'n drueni na allai fod yn gerddor llawn amser.
Mae, hefyd, yn gyfansoddwr o safon, a cheir enghreifftiau o eiriau ei ganeuon drwy'r llyfr.
Ceir sawl peth digon difyr drwy'r llyfr. Ceir disgrifiad o'r rhes o dai lle cafodd ei eni fel 'un t欧 a lle t芒n i bob teulu' - gan fod y to wedi'i osod mewn un darn.
Dywed, hefyd, fod ei waith fel nyrs theatr lle'r oedd yn gorfod gwisgo cap yn siwtio canwr pop i'r dim, gan y gallai wthio ei wallt hir o dan y cap!
Llawer o wybodaeth Ceir llawer o wybodaeth am Geraint drwy'r llyfr - arbrofi a chyffuriau, ei hoffter o feiciau modur, ei allu i dynnu llun 芒 chamera a brwsh.
Rhyw 170 o dudalennau yw hyd y llyfr, ond credaf y byddai'n well llyfr o adael rhai pethau allan.
Ceir cyfeiriadau at bethau sy'n dweud dim am hanes na gyrfa Geraint. Er enghraifft, paragraffau am drip i Baris - i be? Ddigwyddodd ddim yno.
Yr un modd, y trip i'r America.
Rhagor o luniau Ac, yn wir, mi hoffwn i fod wedi gweld rhagor o luniau ynddo.
Ar ddiwedd y llyfr, sonnir mai fel rhan o waith ar gyfer cwrs ysgrifennu creadigol wnaeth y dechreuodd y llyfr hwn.
Yn wir, byddai'n llawer gwell gen i pe byddai Geraint wedi dweud ei stori ei hun - er bod yna rai dyfyniadau ganddo drwy'r llyfr.
Does yna ddim byd personol, agos atoch yn y llyfr, does dim llawer o emosiwn ynddo.
Er hynny, gan ei fod yn gyfraniad pwysig i lenyddiaeth canu pop Cymraeg, rwy'n argymell unrhyw un sydd 芒 ddiddordeb yn y maes yma yn ystod y 70au a'r 80au i'w ddarllen.
Mae'n drysorfa o wybodaeth am y canwr a'r cyfnod.
Adolygiad ar Gwales
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 91热爆 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|