91热爆

Explore the 91热爆
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

91热爆 91热爆page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Corcyn Heddwch
Trafferthion bod yn fam ac yn ferch
  • Adolygiad Catrin Jones o Corcyn Heddwch gan Beca Brown. Gwasg Carreg Gwalch, 拢5.95.


  • Pampyrs, nosweithiau di gwsg a'r 'peiriant godro' sy'n llenwi byd Leri Elis, prif gymeriad Corcyn Heddwch, wedi iddi gael ei thaflu ar ei phen i fyd magu plant.

    Mae'r nofel yn dechrau wrth iddi ruthro ar ras wyllt ar ei bore cyntaf yn 么l yn y gwaith ar 么l cael babi.

    Mae'n debyg y bydd pob mam yn gallu uniaethu 芒 hi wrth iddi frwydro'n erbyn y cloc i wneud ei hun yn barod a chasglu popeth sydd ei angen ar ei babi yn y feithrinfa.

    Ar ben popeth mae'r straen emosiynol o orfod gwahanu am y tro cyntaf ag Anni - a phwy all beidio 芒 chydymdeimlo 芒 hi.

    "Dwi isho sdampio 'nhraed fel todlar blin- dwi'm isho mynd dwi'm isho mynd dwi'm isho mynd!"

    Clawr y llyfrStumog yn troi
    Mae ei stumog yn troi wrth feddwl am roi ei merch fach yn nwylo dieithriaid a'r penwythnos yn teimlo'n hynod o bell.

    Ond mae'r teimladau hyn yn ei rhyfeddu ac mae dod yn fam dros nos yn parhau i fod yn gryn sioc.

    "Fi-Leri Elis- wyrcaholic a glamyr-pws bedair-awr-a-hugain, isho aros adra efo babi sy'n pibo brocoli a gwichian fel lladd-dy? Di'r peth ddim yn gneud sens siwr iawn."

    Mae'r gwrthdaro ym mhersonoliaeth Leri yn amlygu ei hun sawl tro, y cariad mamol tuag at ei merch fach a'r cwlwm clos sy'n ei gwneud yn anodd iddi ei gadael, ond hefyd yr hiraeth am yr hen fywyd.

    Mae'n dyheu am fod y ferch dillad maint deg oedd hi'n arfer bod yn y dyddiau 'Cyn Anni'.

    Mae'n teimlo fel pe byddai rhan o'i bywyd wedi diflannu ac mae'n gofyn, "Ydi hi'n bosib bod yn ferch ac yn fam d'wch?"

    Dymi yn symbol
    Hefyd mae'r gwrthdaro rhwng syniadau am fagu plant yn y gorffennol a realiti bod yn fam.

    A symbol o hynny ydi'r "corcyn heddwch", y dymi sy'n tawelu crio Anni.

    "Y corcyn heddwch ydi rhif tri ar fy rhestr Pethau Ddudish I Fyddwn I Byth Yn Eu Gwneud Taswn I'n Cael Babi, Ond Hei Ho Wele Fi Yn Eu Gwneud Nhw I Gyd.
    ",,,gyda dyfodiad Anni a'i chrio mawr, daeth y corcyn heddwch yn aelod hollbwysig o'r teulu newydd, ac am dri o'r gloch y bora, mi fyddai'n estyn amdano fo fel ro'n i'n arfar estyn am jinsan ar nos Wenar."

    Gweld y straen
    Yr aelod arall o'r teulu yw Dils, g诺r Leri sy'n ffyddlon ac yn dadol. Ond dyw addasu i'r bywyd newydd ddim yn hawdd a gwelwn y straen wrth i Leri geiso fod yn wraig ac yn fam.

    Wrth iddi geisio ymdopi 芒'r newid adref dyw pethau ddim yn hawdd iddi yn y gwaith chwaith.

    Gweithio ar bapur newydd tabloid mae Leri ac mae ei golygydd, neu Slob fel y caiff ei alw, yn pwyso'n barhaus arni am sg诺p.

    Trwy ei gwaith daw Leri i adnabod Diane a gollodd ei mab wedi iddo grogi ei hun yn 12 oed.

    Tasg Leri yw adrodd ei 'stori', gair y mae'n ei gasau 'gair blydi hacs am drallod rhywun arall'.

    Yn fam mae Leri'n gweld ei gwaith mewn goleuni gwahanol ac yn cas谩u perswadio Diane, yn ei galar, i agor ei chalon.

    Er bod pawb yn ei llongyfarch am ei gwaith dyw Leri ddim yn hapus pan w锚l stori Andrew mewn du a gwyn.

    "Ych-a-fi, s么n am wneud imi deimlo fel mynd i gael bath a sgwrio'n hun yn iawn," meddai.

    Ffotograffydd golygus
    Ond dyw bywyd ddim yn gwbl ddiflas i Leri yn y gwaith ac er y pwysau mae ffotograffydd newydd golygus, Aron, yn rhoi bywyd newydd i undonedd y swyddfa.

    Wrth iddo yntau roi cryn sylw iddi hi mae'r teimladau'n arwain at gydwybod euog mam a gwraig. A fydd Leri felly'n llwyddo i atal y gwrthdaro o'i mewn rhwng y ferch sy'n dyheu am fod yn ddeniadol ac yn eilun i ddynion a'r fam dda sy'n rhoi ei theulu'n gyntaf?

    A fydd yn ildio i swyn Aron neu'n bodloni ar yr hyn sydd ganddi?

    Wna i ddim datgelu mwy am hynny, ond mae yma stori dda sy'n cydio ac yn gwneud i rywun ruthro o un bennod i'r llall.

    Pwysau ar famau
    Does dim amheuaeth fod Beca Brown wedi llwyddo i gyfleu'n llwyr y profiad o fagu plentyn a'r emosiynau sydd ynghlwm 芒 hynny.

    Hefyd mae wedi llwyddo i gyfleu'r pwysau ar famau ifanc wrth geisio sicrhau'r gorau i'w plant tra ar yr un pryd parhau i geisio dringo'r ysgol yrfa ac ymdrechu i edrych yn berffaith.

    Yn fam i ddau o blant ei hun nid yw'n syndod i'r awdures lwyddo i fynd dan groen y prif gymeriad.

    Mewn erthygl yn y cylchgrawn Golwg sonnir am amgylchiadau'r awdures ei hun yn ysgrifennu'r nofel a symud i'r gogledd o Gaerdydd dair wythnos cyn geni ei hail blentyn a'i pherthynas 芒'i phartner yn dod i ben.

    Dim cymhariaeth
    Ond er y tebygrwydd ar yr wyneb dywedodd wrth Golwg ei bod yn benderfynol na fyddai pobl yn cymharu stori Leri Ellis 芒'i bywyd hi.

    "Mi wnes i'n si诺r bod y sefyllfa ganolog yn wahanol i fy sefyllfa bersonol i," meddai.

    "Ond yn amlwg mae yna elfennau - yr emosiynau, yr ymateb, y pryderon a'r tensiynau - yr un fath."

    Fel y byddai rhywun yn siarad
    Mae'r nofel yn darllen yn hawdd ac mae'n debyg mai un rheswm am hynny yw am ei bod yn y person cyntaf ac fe allwch chi glywed Leri'n siarad 芒 chi wrth s么n am ei thrafferthion.

    Mae'r awdur yn ysgrifennu fel y byddai rhywun yn siarad gan Gymreigio geiriau Saesneg sy'n cael eu defnyddio'n aml mewn sgwrs bob dydd - 'boddran', 'str锚t' a 'wyndro'.

    Mae'r awdur yn ymddangos yn gwbwl gyfforddus yn ysgrifennu deialog ac mae'r sgyrsiau rhwng Leri 芒'r cymeriadau eraill yn llifo'n rhwydd ac mae yma ddigon o hiwmor.

    Nofel yn perthyn i gategori llenyddiaeth ysgafn i ferched, neu Chick Lit, sy'n eithaf prin yn y Gymraeg yw hon.

    Byddai'n anrheg i lenwi hosan unrhyw ferch ac yn llyfr delfrydol i'w ddarllen wrth ymlacio ar 么l cinio Nadolig.

    Yn nofel gyntaf i'r awdures gobeithio iddi cael blas ar ysgrifennu ac y gwelwn ni fwy o nofelau ganddi yn y dyfodol agos.

  • Adolygiad ar Gwales

  • Cysylltiadau Perthnasol
    Holi Beca Brown


    cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r 91热爆 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 脙垄 ni.

    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu L貌rd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    L么n Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Gl芒n i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    S么n amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 91热爆 Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the 91热爆 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy