| |
|
|
|
|
|
|
|
Wedi'r Llanw Blasu bro gyfoethog
Adolygiad Ioan Mai Evans o Wedi'r Llanw gan Gwilym Jones. Gwasg carreg Gwalch. 拢5.50.
Wedi'r Llanw yw'r drydedd gyfrol a thrigain yng nghyfres Llafar Gwlad Gwasg Carreg Gwalch.
Yr awdur yw Gwilym Jones, un o hogia Ll欧n sydd wedi treulio'i oes yn Nhudweiliog ac wedi ymserchu yn hanes a thraddodiadau y penrhyn.
Mae'n golofnydd cyson i'r papur bro, Llanw Ll欧n ac wedi cryn bersw芒d llwyddwyd i'w gael i lunio cyfrol y gellir yn hawdd ei chyfrif yn ben llanw - hynny oherwydd fod yma waith ymchwil llafurus a manylder am ddigwyddiadau ar dir a m么r yn Ll欧n.
Hen ysgol Hawdd deall y rheswm dros gychwyn yn hen ysgol yr awdur ym Motwnnog. Dyma ysgol sydd a'i chefndir addysgol yn ymestyn dros bedwar can m1ynedd.
Cawn gip ar rai o ragoriaethau 'r ysgol cyn newid cywair i flasu hen fwydydd trigolion Llyn , gan alw i gof flynyddoedd hapus plentyndod - dyddiau corddi , yn gymysg a chwarae ar y tywod crasboeth yn yr haf, a sglefrio ar dd诺r y llyn yn y gaeaf.
Cofio'r parch oedd yn bod at bawb- "person y plwyf, y gweinidog, athrawon ac yn enwedig y plismon a ddeuai'n ddistaw ar ei feic i'r pentref rhyw ddwywaith yr wythnos.
Yn dilyn mewn penodau niferus rhaid galw ym Mhwllheli cyn troi i drafod gwaith a diwydiant.
Fe ddywedodd rhywun rywdro fod yr holl fwynau y cyfeirir atynt yn llyfr y Datguddiad i'w cael ar benrhyn Ll欧n. Efallai'n wir, ac er rnwyn gwireddu rhywfaint ar y dybiaeth honedig cawn yma gyfeirio at y mangan卯s yn y Rhiw a mwynfeydd plwm y Penrhyn Du ger Abersoch.
Ond pwy a glywodd am Chimney Hill ym mhlwyf LIanfaelrhys?
Ceir hefyd wybodaeth cwbl wyddonol a thra diddorol yn seiliedig ar y gwahanol Gyfrifiadau .
Ymysg y mwynwyr oedd yn y Rhiw yn 1861 roedd gwraig 35 oed a'i mab pedair ar ddeg oed yn 么l y Cyfrifiad.
Chwareli a bwyd Troi wedyn at y chwareli ithfaen a fu'n gynhaliaeth i ugeiniau o deuluoedd am flynyddoedd meithion.
Nesaf, yn 么l at y tir i flasu pennod am y Bwyd Llwy, Picws Mali, Bara Ceirch, a Sucan Gwyn.
A faint bellach sy'n gyfarwydd ag enwau fel hopren, y Werhyd a sawl un arall a glywodd yr awdur gan ei fam?
I ddilyn daw dros ugain o luniau prin cyn troi am Ynys Enlli.
Difyr yw darllen am longau fel Y Monk a'r Stuart ac o'r m么r a'i dreialon deuwn at Gyfraith a Threfn a digwyddiadau tra dyrys yn galw am deitlau fel Corff yn y Ffynnon, Helynt Tanrallt, Anfadwaith King's Head, Y Diafol ar y Traeth ac ymlaen at losgi'r ysgol Fomio ym Mhenyberth.
Cyfeiria hefyd at helyntion cau y tiroedd Comin.
Hen gymeriadau Hoffais yn fawr y portreadau o gymeriadu fel John Price, Doctor Mela, William Blore a Doctor Jones - pob un yn lliwgar ac unigryw.
Wrth ddod i ben y dalar gyda theitlau fel Dathlu a Dagrau a hanes Ann Sorton cawn wybod pwy oedd yr Edward Hughes a fu farw yn 109 a chael pennawd "End of a remarkable character" yn y wasg.
Ond cloch Pitar Sion Dafydd sydd yn canu i ddiweddu cyfrol werthfawr am benrhyn Ll欧n.
Clywir llawer o s么n a siarad am ein treftadaeth y dyddiau hyn ond awduron fel Gwilym Jones sydd yn ei diogelu a'i gwarchod.
Mae'r gyfrol yn darllen yn rhwydd , a gwaith Gwasg Carreg Gwalch yn gymen fel arfer.
Y pris yn dra rhesymol am 拢5.50.
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 91热爆 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|
|