| |
|
|
|
|
|
|
|
Cwrs sgrifennu creadigol Cyngor gan sgriptwraig brofiadol
Mae gan y brifysgol ym Mangor gwrs arbennig ar gyfer rhai sydd a'u bryd ar sgrifennu'n greadigol.
Mae'r cwrs yn rhoi cyfle i ddarpar sgrifennwyr drafod eu hymdrechion gydag ysgrifennwr profiadol a chael cyngor ymarferol.
Bydd hynny'n digwydd trwy gyfrwng cyfres o negeseuon strwythuredig ar-lein a drefnir gan Adran Dysgu Gydol Oes y Brifysgol ym Mangor.
Byddai'n bosib hefyd ennill credydau tuag at radd prifysgol.
Yn arloesol "Beth sy'n gwneud y cwrs yma'n arloesol iawn yw ei fod yn cael ei ddysgu ar-lein ac yn dod a hyfforddiant ysgrifennu creadigol i rai sy'n byw mewn ardaloedd gwledig neu anghysbell, a hefyd i'r rheini sy'n ffafrio gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg," meddai llefarydd ar ran y Brifysgol.
Gellir dilyn y cwrs drwy'r Gymraeg neu'r Saesneg gyda Dwynwen Berry nyn gofalu am y naill a Zoe Skoulding yn gofalu am y llall ac yn darparu ymateb unigol drwy gyfres o ymarferion strwythuredig ar-lein.
Bu Dwynwen Berry, ar y dde yn y llun, yn sgriptio ar gyfer y teledu, theatr a radio ers 25 mlynedd gan gyfrannu i gyfresi fel Pengelli, Amdani a Tipyn o Stad.
Hi oedd awdur y ffilm ddiweddar, Mela.
Golygydd sgriptiau Bu hefyd yn olygydd sgriptiau gydag S4C lle'r oedd yn gyfrifol am arolygu holl sgriptiau drama'r sianel am chwe blynedd gan gydweithio gydag awduron i sicrhau llwyddiant ystod eang o gynyrchiadau.
Yn ddiweddar bu'n diwtor ar nifer o gyrsiau Ysgrifennu Creadigol gan weld hynny'n estyniad o'i gwaith gydag awduron proffesiynol.
Cymerodd Zoe ran mewn nifer o brosiectau barddoniaeth, cerdd a ffilm ac y mae ganddi ddoethuriaeth mewn Ysgrifennu Beirniadol a Chreadigol.
"Mae'r cwrs yn rhoi cefnogaeth i'r sawl sydd eisiau gwella eu hysgrifennu, boed ar ffurf barddoniaeth neu ryddiaith, ffuglen neu ffeithiol. Erbyn diwedd y cwrs, byddwch wedi dod yn fwy ymwybodol o'r gwahanol fathau o ysgrifennu, wedi dysgu prosesau ysgrifennu newydd ac wedi dod yn fwy ymwybodol o gyd-destun eich gwaith eich hun mewn perthynas 芒 mathau eraill o ysgrifennu," meddai datganiad ar ran y Brifysgol.
Tuag at radd Bydd y sawl sy'n cwblhau'r cwrs yn llwyddiannus yn derbyn 20 credyd lefel 1 (addysg uwch) a gall y rhain gyfrif tuag at nifer o gymwysterau yn y Brifysgol gan gynnwys BA mewn Llenyddiaeth ac Ysgrifennu Creadigol a BA Astudiaethau Cyfunol.
Mae'r cwrs yn costio 拢160 gyda chynllun eithrio ffioedd ar gyfer rhai sy'n derbyn rhai budd-daliadau ac heb feddu ar radd gyntaf.
Cysyllter 芒'r adran ar 01248 382705 neu drwy ebost
Cysylltiadau Perthnasol
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 91热爆 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|
|