|
Ar Orwel Eryri Dewis y bobl
Mae 30 o bobl wedi body n dewis eu hoff rannau o Eryri ar gyfer llyfr newydd gan wasg Gomer.
Mae Ar Orwel Eryri yn llyfr trawiadol o luniau ysblennydd sy'n cael ei gyhoeddi ar y cyd 芒 Chymdeithas Eryri.
Mae'n cynnwys ffotograffiaeth ddramatig Steve Lewis ac ysgrifau byrion gan bobl sy'n byw neu'n gweithio o fewn ffiniau Parc Cenedlaethol Eryri.
Mae'r cyfranwyr yn cynnwys ffermwyr, wardeiniaid, gweithwyr mynydd, artistiaid, awduron ac arweinwyr cymunedol.
Dewis Kyffin Mae rhai, fel Kyffin Williams, Dafydd Elis Thomas ac Iolo Williams yn adnabyddus drwy Gymru ond yr un peth sy'n gyffredin i bob cyfrannwr yw eu cariad at y tir a'r ffordd o fyw.
Lluniwyd rhagair i'r llyfr gan Bryn Terfel. "Braint i ni yw eu bod wedi rhoi cipolwg bychan i ni ar yr hyn sy'n gwneud y Parc a'i gymunedau yn rhan mor arbennig o'r byd," meddai am y cyfranwyr eraill.
Dewisodd yr artist Kyffin Williams ysgrifennu am y Grib Goch, gan ddweud:
"Uwchben Nant Peris y mae'r Grib Goch yn llechu ac i mi, fel artist, bu'n destun rhyfeddod erioed. . . .
"Mae'n tra-arglwyddiaethu dros y dyffryn a chreigiau llai Clogwyn y Person a Gyrn Las.
"Mae rhaeadrau'n tywallt i lawr i'r afon islaw: mae un ohonynt yn llifo trwy Gwm Glas - fe baentiais honno laweroedd o weithiau.
"Wrth i'r haul fudo o'r Dwyrain i'r Gorllewin y tu 么l i'r grib, bydd y mynydd yn tywyllu ac yn aml yn ddigon bygythiol ei natur.
"Dim ond wrth i'r haul ddechrau suddo y mae ei belydrau'n cyffwrdd ag un rhan arbennig o'r mynydd a phryd hynny bydd ei ochr orllewinol dan wawl euraid i gyd.
"Rwy'n caru'r Grib Goch dan eira pan fydd yr awyr y tu cefn iddi'n disgleirio; bryd hynny bydd yr eira'n dywyllach na'r nen, ac mewn rhyw ffordd ryfedd, bydd y cyfan yn fwy diddorol i lygad artist."
'Paradwys a grewyd gan Dduw' Disgrifiodd Gwyn Thomas sy'n ffermio yn yr ardal y lle fel paradwys a gr毛wyd gan Dduw.
"Y fi yw tenant Blaen-y-nant ers wyth mlynedd bellach. Fferm organig yw hi, ar dir uchel yn Nyffryn Nant Ffrancon.
"Dyma baradwys a gr毛wyd gan Dduw ei hun - gyda mymryn o gymorth dwylo dyn.
"Mynyddoedd creigiog, diffeithdir agored anhygoel, caeau 芒'u waliau sychion, y sgri, yr afon 芒'i dolenni hyfryd.
"Dyma'r lle mwyaf bendigedig yn y byd i mi ... allwn i byth fyw mewn dinas a gweithio mewn ffatri.
"Dyma fy mywyd: yma, yn fugail mynydd. Ond fy ngobaith yw gallu rhannu'r fferm gyda'r gweithiwr ffatri o'r ddinas - a dyna pam rwy'n awyddus i gadw'r cyfan ar ei orau drwy'r amser," meddai.Ac meddai llefarydd o Wasg Gomer am y llyfr: "Mae Ar Orwel Eryri yn rhoi golwg o'r tu mewn i ni o'r Parc Cenedlaethol."
Mae fersiwn Saesneg o'r gyfrol hefyd, Private Views of Snowdonia.
Ar Orwel Eryri. Steve Lewis. Gwasg Gomer a Chymdeithas Eryri. Clawr caled. 96tt. ISBN 1 84323 486 6. 拢19.99.
Cysylltiadau Perthnasol
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 91热爆 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|